Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwaeth

chwaeth

Dydi hi ddim yn anodd rhoi gwedd mor ddi-chwaeth â hon ar waith gohebydd mewn newyn.

Heblaw ei feirniadaeth gymdeithasol grafog, yr oedd ei ddadansoddiad o wendidau'r Bardd Newydd ac o natur arddulliol y beirdd rhamantaidd a ddaeth i ddisodli hwnnw yn dangos chwaeth datblygedig a chlust fain odiaeth.

Ond problem unrhyw ddiwylliant lleiafrifol yw ei bod yn straen ar adnoddau dynol ac ariannol gorfod darparu'r helaethrwydd defnyddiau sy'n angenrheidiol i blesio chwaeth amrywiol y gynulleidfa, ac na ellir chwaith fforddio troi unrhyw ffurf lenyddol i gyfeiriadau rhy esoterig ddeallusol ar draul ennyn diddordeb y mwyafrif (sydd ynddo'i hun yn lleiafrif!) Felly rhaid o hyd ennyn diddordeb yn y gair Cymraeg printiedig trwy gyfrwng pethau fel Cyfres y Fodrwy neu'r papurau bro, er bod y wasg argraffu'n anleu fwyfwy at bobl sy'n meddwl yn ystyriol erbyn hyn.

Fe roddai darlun fel hwn flewyn o chwaeth i gegin lom Nefoedd y Niwl a thestun siarad am fisoedd i werin ddiniwed Bol y Mynydd.

Ond ni ellir camgymryd chwaeth gymdeithasol y bobl hyn.

Nid oedd gennyf ronyn o chwaeth at fasnach, ie yr oedd ynof wrthwynebiad mawr iddi; a theimlwn nad arnaf fi yr oedd y bai fy meistr Abel oedd wedi fy arwain i hyn, ac wedi creu ynof ddiflastod at fusnes a chyfeirio fy nhueddiadau at bethau eraill.

Fe ddylai barn fedru cydnabod mawredd gweithiau y mae chwaeth yn eu gwrthod.

Pob parch i bawb sy'n cael Cerddi'r Gaeaf at eu chwaeth (ac 'rwyf innau yn eu mysg) ond yr un parch i'r rhai y mae eu barn yn amau'r clod a roir i 'Awdl yr Haf' ('rwyf ymysg y rheini hefyd).

Fel arfer pan fo criw o fechgyn yn yr un lle yn rhannu'r un chwaeth gerddorol, y canlyniad yw ffurfio grŵp, ond gan nad cerddorion mo Gruffydd Jones ac Alun Llwyd, dyma benderfynu ffurfio cwmni recordiau.

Yn anad dim roedd hi eisiau hynny heb iddi hithau, oherwydd diffyg chwaeth ei chefndir gwledig, ei lesteirio mewn unrhyw ffordd.

Gwynn Jones at eu chwaeth, ond wfft i'r sawl sy'n gwadu mawredd 'Ymadawiad Arthur'.

Fe gododd hen ddadl arall ei phen yn Somalia - lle bydd un garfan yn cyhuddo gohebwyr o ymhyfrydu mewn dangos lluniau o ddioddefaint a'r llall yn wfftio'r syniad fod rhaid amddiffyn y gwylwyr rhag ambell i wirionedd yn enw chwaeth.

Fel y dylai pob detholiad gwerth chweil o gerddi fod, y mae hwn yn adlewyrchu yn bendant iawn chwaeth a diwylliant y detholydd.

Ni wyddai Hector druan hyn, ac onibai am archeb anferth Mrs Paton Jones a'i llythyr at y goruchwyliwr yn canmol yn frwd chwaeth a help gwerthfawr 'eich Mr Pennant' ni byddai'r stori hon gennyf i'w chroniclo, gan na chafodd Hector glywed gair am y llythyr.

Safon uchel Sam ynglŷn â chwaeth oedd hyn.

Cyfeirio'r wyf at awdl 'Pwll Morgan', a gyfrgollwyd ar sail ei gwallau ieithyddol a' diffyg chwaeth.

Er bod y ddau o safbwynt cerddoriaeth, chwaeth gerddorol ac agwedd at fywyd yn debyg.

Gofid y sylwebyddion hyn, mae'n amlwg, yw nad oedd bywyd y Cymry na'u llenyddiaeth na'u chwaeth ddarllen mor bur ag y dymunent iddynt fod.

Diffyg cydymdeimlad artistig yw hyn ac y mae'n codi o ddiffyg chwaeth artistig a philistiaeth naturiol gwerin ddi-gelfyddyd, di-deimladwy.

ddiwethaf yn dangos yn glir nad oedd chwaeth ddarllen y Cymro cyffredin mor gyfyng ag y mynnai eu harweinwyr crefyddol iddi fod a cheir yng Nghymru hithau dystiolaeth nad oedd yr hinsawdd mor wrthwynebus i fyfyrdod rhywiol a hyd yn oed ffantasi%au rhywiol ag yr arferem gredu.

Roedd ei safon o ynglŷn â chwaeth yn eithriadol o uchel.

Yr oedd miwsig yn y teulu ar ochr fy nhad, ac er na wyddwn i ddim byd am dechneg honno, 'roeddwn wedi etifeddu digon o chwaeth fel y medrwn fwynhau miwsig o safon.

Canfyddir y delfryd yn eglur iawn yn Il Cortegiano gan Castiglione lle y disgrifir prototeip y gŵr bonheddig perffaith, sef y cortegiano amryddawn ac eang ei gyraeddiadau a fagodd chwaeth at ddysg, celfyddyd, a bywyd cyhoeddus.

Ymddangosai'r hen safonau chwaeth yn gul a hen ffasiwn wedi hynny.

Rhywbeth y mae gan un hawl arno ar ôl ffurfio barn yw chwaeth.

Mae gan bobl fwy o chwaeth nag a dybiais mae'n amlwg.

Er iddo gasglu a chyhoeddi gweithiau llu mawr o lenorion, nid oedd ganddo'r chwaeth i dderbyn a gwrthod fel Morris-Jones.

"Yn nwylo'r bagad o bregethwyr a chlerigwyr, yn gystadleuwyr a beirniaid, a'i cynhaliai ni allai'r eisteddfod lai na bod ar bob gwastad, yn sefydliad ymatalgar a byddai'n annichon i feirdd a llenorion y dosbarth gweithiol a fynnai 'ymddyrchafu' drwyddi droseddu yn erbyn chwaeth...

(Yn ôl un stori ddi-chwaeth gan un o'n plith nad oedd yn or-hoff o ymweld â Moscow, roedd Mr Gorbachev wedi llwyddo o'r diwedd i gael gwared ar y ciwiau hynny drwy sicrhau fod y siopau bwyd yn wag!) Go brin fod parch newyddiadurwyr estron tuag ato, yn enwedig yn y dyddiau cynnar, wedi gwneud llawer o les iddo ymhlith ei bobl ei hun.

Ond er cydnabod anorfodrwydd goddrychedd beirniadaeth, mae rhai nodweddion sydd heb fod, hwyrach, yn wrthrychol mewn ystyr wyddonol, ond sydd eto mor gyson gyffredin i weithiau sydd wedi eu profi eu hunain yn abl i oroesi pob barn a chwaeth a mympwy, nes mynnu eu lle fel anhepgorion.