Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwaith

chwaith

Yma mae ganddo ddysgeidiaeth, ac fe all apelio at eiriau yr Arglwydd Iesu i'w gefnogi - "nid myfi chwaith ond yr Arglwydd".

Ni thynnai hwnnw chwaith ond chwech ar y tro er pob ystryw i'w dwyllo.

Dyn a chryn ddychymyg ganddo debyg iawn a benderfynodd fod tri phlwyf Llangwyryfon, Llanrhystud a Blaenpennal yn dod at ei gilydd ar ynys fechan yng nghanol Llyn Eiddwen, ac nid yw ffin Lledrod ym mhell o'r un uniad chwaith.

Ni pharodd y berthynas honno'n hir iawn chwaith ac aeth Dic i yfed yn drwm.

Y mae elfen gref o hiwmor yn rhai o'r straeon, ond nid jôcs mohonynt chwaith - dyma enghraifft:

Ni wireddwyd gobeithion Caerdydd am eu blaenwyr 'chwaith, gan i Delme Thomas godi'n uwch~nag erioed yn y llinelle y prynhawn hwnnw.

A does dim sicrwydd ei fod ef yno chwaith.

Wrth gwrs, yr oedd OM Edwards yn ysgrifennu gan edrych yn ôl dros ysgwyddau'r blynyddoedd, ond mae'n amlwg ei fod yn teimlo fod y gymdeithas wedi sylweddoli ei hamcanion, a gallwn gytuno ag ef i raddau, ond nid yn gyfan gwbl chwaith.

Teg yw dweud na fuont erioed yn ymffrostio yn hynny chwaith.

Peth gwirion fyddai iddynt fod yn rhy agos i'w gilydd, ond roedd yn bwysig peidio ƒ mynd yn rhy bell chwaith, rhag ofn i rywbeth fynd o'i le.

Ni chlywem lawer o Gymraeg chwaith.

A doedd y ddynes sy'n llnau'r lle ddim yn cofio'i gweld hi, chwaith." Bu tawelwch rhyngddyn nhw am eiliad cyn i Mam siarad eto.

Ond doedd dim digon o le iddyn nhw i gyd mewn un gwely, ac mi fydden nhw'n gweiddi, "Rydw i bron _ syrthio o'r gwely!" "O, rydw innau bron _ syrthio!" "Does gen i ddim digon o le!" "Does gen innau ddim digon o le chwaith!" "A rydw i'n cael fy ngwasgu yn y canol!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn gallu cysgu'n gysurus, ac roedden nhw wedi blino'n l_n.

Dyw tasg y gohebydd ddim yn gyfyngedig chwaith i egluro pwy yw pwy yn y lluniau hynny, fel y gall y gwyliwr cul ei feddwl ddathlu ergyd sy'n taro'r gelyn a thrista/ u pan fo'r un darlun o alanast a dioddefaint yn digwydd dilyn ergyd a drawodd un o'n `bechgyn ni'.

Toes mo'i angen o'n fan hyn, na chditha chwaith.

A fyddai dim rhaid cael dþr a brws bras i'w sgwrio hi ar ôl gorffen chwaith.

Nad anghofiwn chwaith un arall o hogiau'r Penmaen sydd wedi ymddeol yn ddiweddar.

Ond problem unrhyw ddiwylliant lleiafrifol yw ei bod yn straen ar adnoddau dynol ac ariannol gorfod darparu'r helaethrwydd defnyddiau sy'n angenrheidiol i blesio chwaeth amrywiol y gynulleidfa, ac na ellir chwaith fforddio troi unrhyw ffurf lenyddol i gyfeiriadau rhy esoterig ddeallusol ar draul ennyn diddordeb y mwyafrif (sydd ynddo'i hun yn lleiafrif!) Felly rhaid o hyd ennyn diddordeb yn y gair Cymraeg printiedig trwy gyfrwng pethau fel Cyfres y Fodrwy neu'r papurau bro, er bod y wasg argraffu'n anleu fwyfwy at bobl sy'n meddwl yn ystyriol erbyn hyn.

Ni allaf weld chwaith y gwnai rhew niwed i blanhigion glaswellt, mae defaid yn pori trwy'r gaeaf nes bydd arwynebedd y borfa yn llwm iawn, hynny yw, wedi torri'r glaswellt yn agos iawn i wyneb y pridd ond heb ei niweidio ar gyfer porfa'r tymor dilynol.

Dydi'r wal ddim chwaith.

Nid ydynt chwaith yn gwahaniaethu rhwng y Cymry Cymraeg a'r rhai di-Gymraeg.

Yn anffodus nid oedd yr operasiwn honno'n gwbl lwyddiannus chwaith ac 'roedd y dwythell yn dal i gau o bryd i'w gilydd, gan achosi cholangitis rhwystrol.

Nid codi byddin o gyfieithwyr chwaith.

Ni ellir peidio a sylwi chwaith ar ddylanwad yr Alban.

Siawns na chredodd honno chwaith wrth wreichionni ar dafod ysig y fflamau y doi iddi eto awr o ogoniant aur.

Doedd ei unigrwydd artistig chwaith ddim yn unigryw.

Ond er bod y briodas yr ochor arall i Fôr Iwerydd, doedd pobol Y Mwmbwls ddim am gael eu anghofio chwaith ac mi fuon nhw hefyd yn dathlu priodas un o'u merched enwaoca.

Nid oes sicrwydd am oroesiad yr ysgolion, nac am y cymunedau Cymraeg chwaith.

Doedd Ysgrifennydd Cefn ddim yn gwybod chwaith.

Doedd ei wyneb ddim fel hen esgid, chwaith.

"Fedra i ddim symud fy mraich chwith na'm coes chwaith," sibrydodd wrth Royal.

"Wyt ti'n clywed rhywbeth?" "Nac ydw i." "Na finna' chwaith." "Sandra, pam rwyt ti'n sibrwd?" gofynnodd Joni, gan ddal i wneud hynny ei hun.

A doedd e ddim yn poeni rhyw lawer am ferched chwaith.

Wnaeth e mo'i brifo ond doedd e ddim yn dyner chwaith.

Ni allai gwyno am yr ystafell na'r gwely chwaith.

Ond nid oedd hi am golli Iestyn chwaith.

Dyw sgorio ceisie ddim yn haws i Gymru chwaith.

Teimlai nad oedd yntau, chwaith, wedi cael siwrnai esmwyth drwy'r misoedd diweddar.

Doedd Wil ddim ymhell o fod yn uniaith chwaith, - yn uniaith Gymraeg.

Os oedd o'n meddwl y byddai ei eiriau'n effeithio ar Alun roedd o'n iawn, ond nid yn y ffordd yr oedd o wedi bargeinio amdani chwaith.

Ni alwyd Greta'n 'slwt' erioed gan Paul, ac nid yw'r awdur chwaith mor nawddoglyd wrth lunio'u golygfeydd caru.

A dydw i ddim yn sôn am fynd â mymryn o eog adref i'r gath chwaith.

Go brin fod Tegla chwaith wedi manteisio'n llawn ar bosibiliadau dramatig y Rhyfel Degwm.

Doedd y llain ddim yn un da i whare arno cyn mynd lan i Lords, chwaith.

Mi af allan drwy'r cefn i'w osgoi o." "Does arna' inna' ddim isio'i weld o 'chwaith," meddai Snowt.

Yr wyf yn amau nad oedd gan ein gwron fawr o amynedd chwaith at ei gyfoeswyr ymhlith y beirdd yr oedd cynffon y weledigaeth hon yn chwipio'u dychymyg, sef y rhai megis Saunders Lewis a Gwenallt a fynnai gysylltu'r Gymru oedd ohoni yn y tridegau gyda rhyw Gymru reiol ufudd-Gristionogol mewn gorffennol di-ffaith.

Ni fuaswn byth yn cynghori neb i anwybyddu barn na ffansi leol chwaith!

Peidiwch â chamsynied, chwaith; nid gornest yn null y Barbariaid oedd hi, eithr ymryson ffyrnig gyda hyrddio, rycio a thaclo tanbaid.

Nid yw'r agerbeiriant nerthol, Ac nid yw y trydan 'chwaith, Wedi troi yn anghysegrol, Nac anserchol ddim o'n hiaith.

Ond nid hollol estron Fryniau Casia chwaith.

Doedd dim melodrama yn ei llais wrth ddweud y pethau hyn, na chasineb chwaith.

Rhai o'i gwendidau sylfaenol yw nad yw'n cynnwys y sector preifat sydd heddiw mor ddylanwadol ym mywydau pobl Cymru ac nad yw chwaith yn ystyried y chwyldro technolegol sydd wrthi yn trawsnewid holl ffurfiau cyfathrebu ac yn awtomeiddio gwasanaethau.

All yr eglwys chwaith ddim aros yn lle'r oedd hi ganrif neu lai yn ôl, er ei bod yn ymddangos mai dyna yw dyhead llawer o'i haelodau.

Yn ail, o ganlyniad ni bu chwaith unrhyw gais politicaidd hyd at yr ugeinfed ganrif i adfer statws yr iaith Gymraeg na chael ei chydnabod mewn unrhyw fodd yn iaith swyddogol na gweinyddol.

Nid oedd fy fferau i yn ymwthio dros ymylon fy esgidiau bach i fel rhai Emli Preis, na fy nwyfron i'n hongian mor llac, na'm bol i mor dynn chwaith o dan fy sgert i.

Nid oedd yn chwennych y daith drwy'r gwyll i'r fferm chwaith, ond tasg i'w chyflawni yn y nos ydoedd, y nos oedd yr amser i herio galluoedd y tywyllwch.

Sut bynnag, ar ôl heddiw doedd e ddim yn siwr a oedd yn hoffi bod tu allan gyda phobl eraill chwaith.

Gwell peidio casglu'r blodau chwaith, gwywo'n llipa wnant cyn pen fawr o dro wedi eu codi, mae'n llawer rheitiach eu gadael i eraill fwynhau eu prydferthwch.Cynefin tra gwahanol sydd i Flodyn y Gog un sychedig yw hwn ac felly ar weirgloddiau llaith a glannau afonydd y'i gwelwn.

Does dim eisie i neb arall ddweud dim chwaith.' Felly allan â hwy heb ddweud gair a cherdded tua'r beiciau yn y cwt.

Ond nid yw cydio ynddo'i hun yn ddigon chwaith.

Cyrhaeddais yr arhosfan ond doedd neb yno chwaith!

Ddaru'r stori%wr ddim cynnig math o esboniad pam yr oedd ysbryd hollol Brydeinig, yn ôl pob golwg, yn cydgartrefu â theulu bach o Iraniaid, na chwaith pam roedd gwyrda o gred Foslemaidd, oedd yn credu mewn adenedigaeth, yn cymryd y fath ddiddordeb mewn ysbrydegaeth.

(Rwy'n ymddiheuro am fod ei deitl yn un trwsgl, ond does i'r gwreiddiol Saesneg, sef 'Custody Officer', fawr o geinder chwaith.) Fel yr awgrymir gan ei deitl, priod waith y Swyddog Cadwraeth yw cadw.

Ac nid sbarblis mohonynt chwaith.

Wrth gwrs, alle inne mo'i gweld hi chwaith.

Dyw'r ham ddim yn edrych yn hapus iawn ''chwaith, atebodd Nellie.

Ar y tudalen flaen mae'r bocs dialog yn lliw porffor - nid gwyn fel rydym yn disgwyl; a'r eicon 'chwilio' ddim yn hollol amlwg chwaith.

Ni chyfrannodd yr ardaloedd diwydiannol ddim newydd chwaith i'r bywyd cymdeithasol Cymreig nac i lenyddiaeth yr eisteddfodau.

Nid fy acen i'r tro hwnnw oedd yn milwrio yn fy erbyn, ond na, diolch yn fawr, 'doeddan nhwtha' ddim yn ystyried bod deunydd milwr yno' i, chwaith!

Mi faswn i'n leicio gwybod." Ac ar Faes yr Eisteddfod, fydd neb yn gwybod chwaith - yn groes i arfer y blynyddoedd diwetha', fydd y Bwrdd ddim yno gyda'u logo coch a gwyrdd, sydd un ai'n groes neu'n saethau'n mynd ar i mewn.

Doedd dim sôn am y cledrau chwaith.

Gwyddem y caem bymtheng munud gwefreiddiol, ond ni wyddem yn union faint mor wefreiddiol, chwaith .

Nid cyfnod Tomi a Nedw sydd yma chwaith- nid blynyddoedd y tlodi sur a'r crafu byw i deuluoedd mawr .

Rhaid i mi adrodd yr hanes wrthych." Eisteddodd y wraig ar y gwely gyferbyn ac nid oedd hi'n siwr iawn beth i'w feddwl ohonof innau chwaith, erbyn hyn.

Wyddoch chi beth, gyfeillion, tydwi ddim hyd yn oed yn ei feio fo chwaith - wel, toeddwn i heb arfer hefo lladron yr adeg honno, yn nago'n, yn enwedig lladron yn codi o fôn llwyn drain i ymosod arnaf ac yn fy mraw mi wnes i gadw braidd gormod o sþn.

Nid ei hun y daeth Rhiannon 'chwaith, canys yn gydymaith iddi ar y daith ye oedd ei merch fach, Delwen, sy'n saith mis oed.

"Dydi o ddim yn deg â'r plant chwaith þ gorfod dod yr holl ffordd yma i gadw golwg arnat ti." "Nac ydi, rwyt ti'n iawn."

Y mae hyn yn ormodiaith ond nid yw'n hollol am y pared â'r gwirionedd chwaith.

Doedd hiwmor ddim yn brin chwaith y llynedd gyda fersiwn Cymru o The Fast Show sef Lucky Bag yn ymddangos ar ein sgriniau.

Doedd dim rhaid mynd i Caerdydd chwaith, meddai, i weld merched yn gwerthu'u cyrff.

Nac ydi, meddai'r apostol, a lle mae'r person di-gred yn hapus i barhau gyda'r cyfamod priodas, yna ni ddylai'r Cristion wneud un dim i ymwahanu, na chwaith gredu fod y briodas o lai o werth, neu yn briodas lygredig, oherwydd yr anghredadun.

Gwir y gair, roedd pawb yn perthyn i bawb, ond ches i ddim munud o drafferth, chwarae teg John Jones, Bron Aber, wedyn, y bugail, a phencampwr y treialon cŵn defaid, ynte'n dweud - 'Pobl y mynydd ydyn ni' roedd hynny'n berffaith wir, ond doedd dim o oerfel y mynydd yn perthyn iddyn nhw chwaith - cynhesrwydd ges i ar bob llaw.

Nid bod hynny'n syndod o gwbl chwaith o gofio pwy ydi hen wraig 'i mam hi.

fe fydd dawns yno heno, a dydy'r bwyd ddim yn ddrwg chwaith.

Doedd hi ddim rhyw fodlon iawn chwaith - deud nad oedd hi ddim digon cynnas o hyd i ni feddwl 'drochi, ond mi gytunodd i ni fynd, wrth bod Mrs Robaits, Cae Hen yn mynd â ni.

Nid oedd o am fynd gyda bysus Cae Lloi chwaith er eu bod gryn dipyn yn rhatach na'r tren.

Nid oedd haul y Tegla 'enwadol' yn machlud wrth iddo ymadael o'r Gadair ymhen y flwyddyn chwaith, oherwydd yn yr un Gymanfa fe'i dewiswyd--gan fod y flwyddyn ganlynol yn flwyddyn dathlu deucanmlwyddiant tro%edigaeth John Wesley-i siarad ar y pwnc hwnnw yng Nghymanfa'r flwyddyn ddilynol ym Mae Colwyn.

"Oedd dim byd yn Cwmglo chwaith," meddai.

Nid yw "datblygu'n gyflym" yn golygu eich bod yn rhuthro allan â!ch darnau mawr i ganol y bwrdd chwaith.

Does na ddim chwaith ostyngiad wedi bod yn nifer y gwestai allwch chi eu mynychu.

Sawl tro y ces i fy rhoi yn fy lle wedi i mi wneud sylwadau fel, "Ddim yn meddwl llawer o 'Pobl y Cwm' heno nhad," mi gawn yr atebiad "Pa bryd wyt ti am sgwennu pennod?" Wiw i mi chwaith ddweud fod actor neu actores ddim yn dda, neu mi fyddwn yn cael darlith am gynhyrchu drama deledu o'r top i'r gwaelod.

Nid oes electron nac atom chwaith ond yn ein dychymyg i esbonio'r ffordd mae Atomfa Trawsfynydd yn gweithio, ac i adeiladu systemau teledu gwell.

Ni theimlai gymaint â hynny o golled ar ôl ei gyfeillion chwaith, hyd yn oed pan ddeallodd bod posibilrwydd y caent eu darganfod gan y fyddin Brydeinig.

Nid hynny chwaith mo'r rheswm dros wrthod cynllun Lerpwl.

'Bugeiliaid newydd sydd...' A does 'na ddim dyrnad yn y Capal ar y Sul, na fawr o lewyrch ar gyrdda'r wythnos chwaith." "Rwyt ti yn llygad dy le fel arfar.

Doedd yna na chadair na stôl na dim iddyn nhw eistedd, na phwt o wely chwaith yn ôl pob golwg.

Cyhoeddwyd Papur Ymgynghori'r Grwp, ac yn wir, mi roedd popeth yn mynd i fod yn ddwyieithog, er, na fyddai hynny o'r diwrnod cyntaf, chwaith.

Nid bod llawer o'r rheini wedi bod yn fy achos i chwaith ac y mae dyn yn cael blas masoc-istaidd ar y dalar fel hyn yn myfyrio ar ei fethiant!

Doedd hithau ddim yno ar y funud chwaith.

Nid wyf yn hapus ynglyn â hyn chwaith.