Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwant

chwant

Pan weithiai ar y meysydd a dyfod chwant bwyd arno cyn amser cinio neu amser te, ysmygai sigaret i leddfu'r chwant.

Yno, roedd y plant â chwant bwyd a'r rhieni yn sychedig ac fe arhoswyd i brynu pryd o fwyd a pharciwyd y car, gyda'i lwyth ar do'r car, mewn maes parcio cyfleus.

Doedd hi erioed wedi codi fawr o chwant arno.

Ond y nef a helpo'r milwyr a geisiai foddio eu chwant trwy gyfathrach â'r merched brodorol, ac o ganlyniad eu cael eu hunain mewn 'anhawster arbennig' ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.

Yn ystod y dyddiau cynnar hynny, pan oedd Morfudd yn newydd-ddyfodiad, ac enigma'r dro%ell yn sbeis ar dafodau'r fro, awgrymodd un o'r rhai mwy gweledigaethol ymhlith y pentrefwyr unwaith mai rhwystredig oedd yr hen wraig, ac mai chwant rywiol a'i gyrrai i nyddu'n wyllt bob dydd!

Bradycha ymddiried Math a Phryderi, mae'n creu rhyfel rhwng Dyfed a Gwynedd lle collir bywydau lawer, a lleddir Pryderi gan Wydion ei hun, - hyn oll er mwyn bodloni chwant Gilfaethwy.

Yn Arianrhod a Blodeuwedd fe gawn ddarlun o falchder, creulondeb a chwant sy'n hollol wahanol i Franwen addfwyn, ddewr.

Yr oedd chwant cnoi yn ei ddannedd; y poer tan daflod ei enau yn wyn a phluog fel poer y gwcw; ei ben yn boen a'i gorff yn llesg ac yn llaith ac yn darfod o fodfedd i fodfedd.

"Bu+m chwant rhoi'r gorau i'r gegin gawl a drefnwn yn y fan hon ond mae fy ngweithwyr yn dweud wrthyf mai'r cawl a'r bara sy'n cael eu rhannu gan y Genhadaeth yw'r unig fwyd a gaiff rhai o'r trueiniaid yno." Ar ôl iddi hi gyrraedd, yr hyn a welodd Pamela oedd anferth o ddyn a barf drwchus ganddo yn dringo i'r llwyfan i bregethu.

Bu chwant troi'n ôl unwaith.

Doedd dim amdani ond ysmygu i ladd chwant bwyd.

Codwyd amheuon a yw ein chwant i fynnu mwy a mwy o adnoddau'r ddaear, (yn aml ar draul rhywogaethau eraill a'r llwythau dynol llai pwerus) yn gynaladwy heb sôn am fod yn foesol.

Byddai arnoch chwant ei phwnio â'r mesur blawd ar ei phen llygodennaidd.

Ymhen yr eilddydd y roedd chwant bwyd arno.

ym mustl chwerwedd, yn pori yngwerglodd y cythrael, yn cael ei lithio gan chwant, yn pori glaswellt .

Y mae gwylio ffilmiau yn gyffur ac yn chwant nad oes modd ei fodloni - byth.

Gan fod chwant bwyd arno erbyn hynny, aeth i dy bwyta gan wybod yn iawn nad oedd arian ganddo i dalu am bryd.

Canoli ar ddinasoedd mawrion fel Birmingham a Llundain, gwagu cefn gwlad i fwydo chwant y cyflogwyr.

Ond dydi gwybod hyn ddim yn ei gwneud hi'n ddim haws i reoli'n chwant am y bwydydd 'afiach'.

Y farn gyffredinol oedd ei fod wedi cael rhywbeth i'w fwyta ar ôl i arogl y sglodion godi chwant bwyd arno.