Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwaraewr

chwaraewr

Ond yn gyffredinol, profodd chwaraewr fel Scott Gibbs ei fod yn ymgeisydd chwyrn a theg a dylsai gael ei farnu ar y dystiolaeth honno.

Ar Sadwrn diwedthaf fei gwelwyd nid yn unig yn dangos cystal chwaraewr yw o gael y blaenwyr iawn o'i flaen ond hefyd yn ateb y beirniaid hynny syn ei gyhuddo o fod yn swil i daclo.

Yn ôl adroddiadau o'r Eidal mae chwaraewr canol-cae Juventus a'r Iseldiroedd, Edgar Davids, wedi methu prawf cyffuriau.

Gwyddai pawb arall mor ddi-ddal oedd y chwaraewr ac na fyddai'n dod.

Chwaraewr "dawnus ond milain" gydag elfennau "chwerw a budr weithiau" yn ei chwarae.

Yn sgîl presenoldeb cynhyddol y camerau dylsai unrhyw chwaraewr syn euog o ddigwyddiadau ysgeler, annerbyniol, dderbyn y gerydd a ddaw i'w ran.

Wedi'r holl son am ymddeoliad rhai o'r prif chwaraewyr ym muddugoliaeth Cymru dros Ffrainc ddydd Sadwrn - mae'r sylw yn troi at olynwyr i chwaraewr allweddol fel Robert Howley, Scott Gibbs a Neil Jenkins.

Os bydd chwaraewr yn dal tair pêl mewn un llaw tra'n 'syrfio' ni chaiff ddim ond anlwc.

Ond cyn pen dim roedd Portiwgal wedi taro nôl gydag ergyd wych gan Luis Figo - y chwaraewr yr oedd Bobby Robson wedi rhybuddio Lloegr y byddain rhaid i Loegr ei ffrwyno.

Cafodd chwaraewr-hyfforddwr Cwmbran, Mark Aizlewood ei ddanfon o'r maes ar ôl ffrwgwd.

Blackburn Rovers oedd y ffefrynnau i'w arwyddo, ar ôl i'r ddau glwb gytuno ar bris o £2,750,000 am y chwaraewr ugain oed o Lanelli.

Bydd dau o'r pedwar chwaraewr yng Ngharfan Ddatblygu Rygbi Cymru sy wedi ennill capiau llawn yn y tîm i wynebu Dwyrain Canada nos Wener.

Honno gyda llaw oedd gêm gynta Kevin Ratcliffe i Gymru a rhoddodd berfformiad gwych yn marcio dau chwaraewr perycla'r gwrthwynebwyr, Mazny a Nehoda.

Yn yr oriel uwchben y grisiau roedd y gerddorfa fach o bum chwaraewr wedi dechrau cyfeilio i'r dawnswyr, a daeth yr hen wefr gyfarwydd dros Meg nes iddi deinlo bod ei thraed eisoes wedi magu adenydd.

Daeth llythyr i law oddi wrth Gyngor Bwrdeisdref Arfon yn gofyn am enwebiadau ar gyfer Noson Wobrwyo Chwaraewr y Flwyddyn - penderfynwyd nad oedd y llythyr yn berthnasol i ni fel rhanbarth.

Mae sibrydion bod chwaraewr canol-cae Cymru, Craig Bellamy, am symud o Coventry - tasai'r clwb yn disgyn o'r Uwch-gynghrair ddiwedd y tymor.

Mae Steve yn chwaraewr poblogaidd dros ben.

Mi fydden sioc enfawr a dweud y gwir, sen ni yn ennill, meddai Andrew Jones, chwaraewr disgleiria Cymru yn eu buddugoliaeth yn y rownd ddiwetha yn erbyn Sir Oxford.

Mae e y teip o chwaraewr sy'n chwarae fel cefnwr de neu gefnwr yn y canol (centre-half) a fel chwaraewr canol cae.

Mae Kevin Morgan yn un o'r 38 chwaraewr yng ngharfan Cymru fydd yn mynd ar y daith i Siapan mewn llai na mis.

Mae Ryan Giggs ar restr fer Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol am yr anrhydedd o Chwaraewr Gorau'r Flwyddyn.

Gavin Gordon, ymosodwr Lincoln, yw'r chwaraewr diweddara i ddal llygad y rheolwr Alan Cork.

Roedd yn rhaid cadw Matthew Bound ar ôl y tymor dwetha, roedd en chwaraewr allweddol yn ein hymdrech ni i ennill pencampwriaeth yr adran, meddai Jason.

Mae chwaraewr canol-cae Cymru, John Robinson, wedi methu ymuno yn sesiwn ymarfer carfan pêl-droed Cymru yn Yerevan y bore.

Cyn-chwaraewr y mae'r to presennol yn mynd i fedru uniaethu ag e yn hytrach na phwyllgorddyn di-gefndir.

Colli ddaru o, ond mae'n siŵr gen i ei fod o'n chwaraewr dan gamp.

Na, nid chwaraewr newydd arall i Abertawe, ond Morus y Gwynt.

Trueni, mewn gwirionedd, nad oedd gen i amser i chwarae yr hyn syn cael ei alw yn Egg Invaders ller ydych chi, y chwaraewr, yn gondom syn saethu at hâd gwrywaidd er mwyn amddiffyn wy benywaidd rhag rhaib y dihiryn Sberman.

Llwyddwyd i gael rhai o sêr y cyfryngau i annerch y dorf, canwr pop, actor enwog a chyn-chwaraewr rygbi.

Ar fy synnwyr digrifwch i, neu ei ddiffyg, y mae'r bai efallai; yr hen duedd yma sydd ynof o fod eisiau tynnu'r mwgwd i weld y deigryn ar rudd y clown a'r siom ar wyneb y chwaraewr dartiau.

Yr Iseldiroedd gyda chwaraewr fel Davids yng nghanol y cae a dau greadigol arall yn Bergkamp a Kluivert.

Pan oeddwn in chwarae doeddwn i ddim y chwaraewr mwya ar y cae o bell ffordd.

Wrth ddechrau chwarae, dylai'r bêl gael ei gosod fel bod enw'r gwneuthurwr yn weladwy i'r chwaraewr gan fod hyn yn lwcus.

Os oedd ei eirie'n ein synnu, felly hefyd ei weithredoedd ac o fewn llai na phythefnos i'r mab afradlon ddychwelyd adre roedd yn enwi ei garfan gynta un a honno'n cynnwys cymaint ag wyth chwaraewr oedd heb enn;lll cap llawn i Gymru o'r blaen.

Eu gobaith yw penodi Dean Saunders, ymosodwr Cymru yn chwaraewr/hyfforddi Abertawe, a Leighton James yn aelod o'r tîm rheoli.

Yna gôl wych gan chwaraewr y gêm, Mark Dickerson, wedi camgymeriad gan golwr Caerdydd, Jon Hallworth, yn dod a Llanelli yn gyfartal.

Chwaraewr canol-cae Lerpwl, Steven Gerard, gafodd ei ddewis yn Chwaraewr Ifanc Gorau'r Flwyddyn.

Bu son fod y chwaraewr yn anhapus â'r ffordd y mae'r rheolwr Arsene Wenger yn newid ei garfan o gêm i gêm.

Ond yn y rownd gyn-derfynol mae'n cyfarfod y chwaraewr sydd ar dân, Ronnie O'Sullivan, sy eisoes wedi ennill dwy bencampwriaeth y tymor hwn a cholli'n y rownd derfynol mewn un arall.

Mae chwaraewr canol-cae Wrecsam, Wayne Phillips, wedi bod yn gefnogwr Manchester United gydol ei oes.

Bydd gweld gwraig â llygaid croes yn y dorf cyn dechrau'r gêm yn anlwcus iawn ac ni fydd y chwaraewr hwnnw yn llwyddo i daro'r bêl unwaith y diwrnod hwnnw!

Daeth y rheolwr, Alan Cork, mewn i'r stafell newid ar yr hanner a doedd e ddim yn rhy hapus, meddai'r chwaraewr canol cae, Kevin Evans, sgoriodd gôl gynta Caerdydd.

Chwaraewr y gystadleuaeth oedd Zinedine Zidane.

Un dyn fydd a'i lygad ar y digwyddiadau yn Elland Road yw chwaraewr canol-cae Caerdydd, Kevin Evans.

Mae'r chwaraewr sboncen o Gymru, David Evans, yn amddiffyn ei deitl ym mhencampwriaeth agored Prydain sy'n dechrau heddiw.

mae'r cwyno di-ddiwedd wrth ambell chwaraewr rôl derbyn cleisiau corfforol wedi dechrau arfer annerbyniol.

Does dim un chwaraewr o Gymru yn nhîm y Barbariaid fydd yn chwarae De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sul.

Mae'n angenrheidiol i chwaraewr sicrhau bod blaen bysedd ei fenygyn cyffwrdd â'r ddaear ac yn pwyntio at y lle mae ei dîm yn eistedd pan fydd yn cychwyn allan i fatio.

'Ac oherwydd anafiadau roedd nifer y garfan yn fychan - dim ond 17 chwaraewr oedd gynnon ni allan.

Mae'n chwaraewr sy di methu.

Mae chwaraewr canol-cae Ffrainc, Emmanuel Petit, ymunodd â Barcelona o Arsenal yr haf diwetha, wedi dweud ei fod eisiau gadael y Nou Camp.

oedd y chwaraewr ieuenga rioed i chwarae yn y llinell flaen i Gymru a'r ail ieuenga i chwarae o gwbl i Gymru ar ôl John Charles.

Mae Hywel Jenkins, chwaraewr rheng ôl Abertawe, wedii ddanfon adre o daith carfan ddatblygu Cymru yng Nghanada ar ôl bod allan yn yfed y noson cyn i'r tîm guro Tîm Canada A, 67 - 10.

Roedd Capten Lewis yn chwaraewr gwyddbwyll medrus anghyffredin, a byddai ef a Chapten fy nghatrawd i yn chwarae'i gilydd ambell dro.

Newidiodd y chwaraewr o Gastell-nedd ei safle a mynd yn brop a buom yn uned effeithiol am dair blynedd nes iddo raddio.

Mae'n ymhyfrydu yn y ffaith i'w yrfa gerddorol gychwyn fel chwaraewr fiola yn Ngherddorfa Ieuenctid Cymru ond yr oedd, yr un pryd, yn chwilio am rywbeth tu hwnt i dawelwch Y Garnant.

Cafodd y ddau chwaraewr gêm amlwg dros ben.

Wedi iddyn nhw reoli'r hanner cynta a mynd yn agos at sgorio ar bump achlysur cafwyd camgymeriad gan Clayton Blackmore, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, yn chwarae ei gêm gynta i Fangor.

'Roedd pob chwaraewr yn gwbod beth oedd ei waith e - yn gwbod beth oedd e'n gorfod wneud -ac i fod yn hollol onest fe wnaethon nhw eu gwaith yn wych.

Llanelli, wrth gwrs, yw fy hen glwb i - fel chwaraewr ac fel hyfforddwr.

'Dwedodd fod y clwb wedi bod yn colli arian drwy gydol y tymor,' meddai Huw Jenkins, cyn-chwaraewr sydd hefyd yn gyfrifol am safle'r clwb ar y we.

'Mae gan bob un o'r pum neu chwech chwaraewr yna obaith da iawn.

Mae tasg anodd o flaen y chwaraewr canol-cae ugain oed.

Y chwaraewr a wynebodd y gosb honno dan law'r dyfarnwr, Meirion Joseph, oedd asgellwr Pen-y-bont, Doug Schick, am iddo droseddu yn erbyn Andy Hill, a hynny pan oedd yr ymwelwyr yn ennill o dri phwynt i ddim.

Lloegr a sgoAodd gynta drwy Paul Manner ac wedyn llwyddodd eu chwaraewr canol cae dawnus Glen Hoddle, i daro'r postyn ddwy waith, a'r bar.

Hardly catchy, fel y dwedodd y chwaraewr criced o China.

Ar nodyn mwy cadarnhaol - bydd cyd-chwaraewr Jones yng Nghaerlyr, Robbie Savage, yn gobeithio chwarae yn erbyn Manchester City wythnos nesa.

i droi at yr olwyr roedd disgwyl i hall gymryd lle gibbs ac ni fyddai neb yn dadlau ynglŷn a dewis nigel davies sy'n chwaraewr cyfansawdd.

Yn ystod y gawod dechreuodd y chwaraewr oedd wedi ei anafu deimlo'n wan a chael poen yn ei ysgwydd chwith.

Mae Chelsea wedi cytuno i dalu £11 miliwn i West Ham am y chwaraewr canol-cae rhyngwladol.

Spadea yw'r chwaraewr gyda'r record salaf ar y gylch-daith - mae wedi colli 22 gêm yn olynol.

Cerdd am John Roberts, y chwaraewr rygbi rhyngwladol a aeth yn genhadwr, ^wyr Iolo Caernarfon, beirniad a phrifardd eisteddfodol, yw 'Y Dyrfa'. Disgrifir gêm rygbi yn Twickenham ynddi, a hynny gan ddefnyddio termau rygbi wedi eu lled-Gymreigio.

Bydd pob chwaraewr yn cael adroddiad personol gan Graham Henry a bydd y rhan fwya - os nad pawb - yn cael eu gwahodd i ymarfer gyda'r brif garfan dan ofal Peter Herbert yn hwyrach yn yr haf.

Y Ffrancwr David Romo yng nghanol y cae oedd chwaraewr gorau Abertawe.

Chwaraewr Llanelli sgoriodd hi - clasur o'i bath.

Hefyd yn ymuno â Glyn Ebwy mae dau chwaraewr rheng ôl Cross Keys, Will Thomas a Rhys Williams.

Aeth cic gornel Andy Legg yn syth yn erbyn y postyn a roedd angen chwaraewr canol i reoli'r bêl a'r gêm.

'Roedd hi'n ymdrech dda gan Abertawe, deg chwaraewr yn dod nôl ddwywaith.

Fe fydd y chwaraewr anghyfarwydd yn aml - yn ceisio ymosod ar Frenin ei wrthwynebydd o'r cychwyn cyntaf ac yn barod i aberthu darnau bach a mawr i gyrraedd ei amcan.

Parhaodd y gêm banel unigryw Tutti Frutti, y cwis pop a gyflwynir gan Adam Walton sydd hefyd yn cyflwyno sioe nosweithiol, i ddenu cynulleidfaoedd mawr, yn yr un modd ag y gwnaeth Game On, lle mae Rupert Moon, y chwaraewr rygbi rhyngwladol, yn dyfarnu rhwng dau dîm o sêr o fyd chwaraeon i brofi eu gwybodaeth am chwaraeon.

Mae chwaraewr canol-cae Leicester City a Chymru, Robbie Savage, wedi dweud ei fod yn ffyddiog y bydd yn ôl yn y tîm cynta yn erbyn Manchester City wythnos i'r Sadwrn.

Mae hyfforddwr Lloegr, Kevin Keegan, wedi cadarnhau bod chwaraewr canol cae Lerpwl, Steven Gerrard, wedi gwella o anaf i'w goes.

Mae'n debygol iawn y bydd canolwr Penybont a chyn-chwaraewr rygbi 13 Widnes, John Deveraux, yn chwarae i Gymru yn erbyn Papua Guinea Newydd.

Mae Bae Colwyn wedi enwi'r amddiffynnwr Colin Caton fel chwaraewr-rheolwr newydd y clwb - ar ôl i Bryn Jones benderfynu ymddiswyddo.

Eto, pan ddioddefodd sgathru maleisus gan chwaraewr o Seland Newydd gadawodd y condemnio i eraill.

Bid hynny fel y bo - ond maen ymddangos i mi mai y ffordd gall a chyfiawn o drin materion fel hyn fyddai; gwahardd y chwaraewr euog am o leiaf yr un faint o amser ag y bydd y chwaraewr arall yn methu â chwarae oherwydd yr anaf a gafodd.

Bydd chwaraewr canol cae Croatia, Mario Stanic, yn ymuno â Chelsea o Parma am £5 miliwn.

Mae Martin Johnson yn chwaraewr uchel ei barch.

Mae'r garfan yng Nghaerdydd yn ymarfer, a bydd chwaraewr tramor newydd y clwb, y batiwr Jimmy Maher o Awstralia hefyd yn ymuno â nhw heddiw.

Dydy Killen ddim yn cael chwarae am mai chwaraewr Manchester City yw e a dyw Mardon 'chwaith ddim yn cael chwarae oherwydd na wnaeth e ymuno mewn pryd o West Brom.

Mae'n anlwcus felly i unrhyw chwaraewr roi menthyg ei fat i un arall gan ei fod yn rhoi iddo hefyd y cyfle i sgorio ar draul ei lwyddiant ef ei hun.

Un tro roedd tîm Caernarfon braidd yn fyr a bu'n rhaid iddynt gael benthyg chwaraewr gennym ni.

Mae batiwr Morgannwg a De Affrica, Jacques Kallis, wedi tystio bod y capten Hansi Cronje wedi dod ato fo a dau chwaraewr arall - Lance Klusener a Mark Boucher - cyn y gêm yn erbyn India ym Mis Mawrth a dweud ei fod wedi cael cynnig i gollir gêm yn fwriadol.

Cafwyd adroddiadau bore yma fod Caerdydd yn ceisio arwyddo'r chwaraewr rhyngwladol addawol Ryan Green o Wolves.

Ar ôl trafod Billy Meredith symudwyd i'r cyfnod rhwng y ddau ryfel byd ac at dri chwaraewr o'r Alban - y Wembley Wizards: Alex James, Alex Jackson a Hughie Gallacher.

Roedd yn gêm gofiadwy tu hwnt, ga/ n mai hon oedd y gêm gwpan pryd y cafodd chwaraewr ei ddanfon o'r maes.

Ni fydd chwaraewr canol-cae Lerpwl, Steven Gerrard, yn mynd i Albania gyda charfan Lloegr - mae e wedi anafu'i gefn.

Mae'n debyg bydd dyfodol chwaraewr canol cae Leeds a Chymru, Matthew Jones, yn cael ei benderfynu y naill ffordd neu'r llall yn y dyddiau nesaf.

Ond mae'r chwaraewr wedi dweud mai gyda thîm Gordon Strachan y mae ei ddyfodol.

Roedd safon y chwarae yn uchel iawn ac un chwaraewr wedi chwarae i ysgolion Lloegr a nifer i'r Sir.