Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwarddodd

chwarddodd

Neidiodd o'i groen bron pan ehedodd aderyn yn swnllyd o'r goeden wrth y wal a chwarddodd yn uchel wrth ei weld ei hunan yn gymaint o fabi.

'Dydy o ddim wedi priodi eto," a chwarddodd Elis Robaitsh hen chwerthiniad awgrymog.

Bobol bach mae yna ddigon o'r rheiny yma,' a chwarddodd yn braf.

Chwarddodd wrth chwilio am ddisgrifiad.

Pe bai'n rhaid i mi ddewis rhwng y frech goch a chwmpeini Matthew'r Sgidia', mi fasa'n well gen i y frech goch." Chwarddodd Rees.

Petasa posib iddo fo brynu rhagor o lygada i rhoi yn i ben mi fasa'n gwneud hynny, er mwyn gwatsiad rhag ofn bod rhywun yn dwyn." A chwarddodd Jane Gruffydd.

Chwarddodd un o'r milwyr yn iach a gwaeddodd rywbeth mewn Almaeneg.

Chwarddodd Dan yntau wedi iddo ddarllen yr hysbysiad: 'Drwy i ddwr dorri i mewn a difetha'r stoc o bapur yn y seler, nid ymddengys Yr Utgorn yr wythnos hon.

Chwarddodd Wyn.

'Dydw i ddim yn dweud.' 'Pwy sy'n dy licio di, 'ta?' 'Wn i ddim.' 'Pwy sy'n caru dy wallt hir tywyll ac yn ysu am gribinio ei fysedd drwyddo?...Bertie?' Chwarddodd Bigw yn bryfoclyd.

Chwarddodd yn ansicr.

Chwarddodd y Cripil ar hynny a hwn oedd ei ymateb cyntaf i'r sgwrs.

A lladd eu cywion o flaen eu llygaid!' Chwarddodd y chwilen wrth gofio'r gyflafan.

Chwarddodd yn ddireidus am ei phen ei hun yn bod mor fusneslyd.

Chwarddodd yr arolygydd wrth weld yr olwg anghyfforddus ar Marged.

Trodd un o'r bechgyn a gweiddi arni, 'Ble ma' dy ysgub di?' a chwarddodd ei gyfaill.

Rwy'n gallu hedfan yn iawn," chwarddodd pan oedd yn uchel yn yr awyr.

Chwarddodd y tri.

Chwarddodd y Llengwr gan afael ym mraich Meic.

'Dy ateb di?' chwarddodd Gwawr wrth ddeall ei benbleth.

Hanes plant ar bob planed ydi hynna, yntê?' chwarddodd gan ddangos rhes o ddannedd mân, miniog.

Chwarddodd eto, yr un chwerthin gyddfol, ond yn sydyn trodd y chwerthin yn gyfog a gwelodd Llio waed yn llifo o'i cheg, ei llygaid yn troi a'r graith yn goch hyll ac yn amrwd.

Ac y mae yna bethau pwysicach na phris." Chwarddodd Jenkins.

"Dyden ni ddim am wneud yr un camgymeriad eto," chwarddodd pennaeth y gwersyll yma gan gymryd coesau metel oddi arno.

Rhythodd y gweddill arno, a chwarddodd un o'r merched yn sbeitlyd.

Nhw ddaru ofyn imi roi hysbysiad yn Y Gwyliwr.' A chwarddodd, gan gerdded o amgylch yr ystafell fel hogyn wrth ei fodd.

Dy gario di bob cam ar fy nghefn." Chwarddodd y Cripil yn llawen o fewn clydwch y breichiau mawr.

Chwarddodd yn ysgafn.

"Fe gaiff pawb ei gymryd o'n ei dro i gysgu yn y gwely ar y llawr," gorchmynnodd eu mam cyn iddynt fynd i gadw, "mae'r tŷ yma mor llawn - dyma'r unig ffordd y medrwn ni i gyd gysgu." "Yn llawn o Domosiaid!" chwarddodd Elen.

Chwarddodd yr Ap dros y lle.

Ond chwarddodd y twr bechgyn yn galonnog, a heb ddangos unrhyw ddig tuag ataf.

naddo.' 'Dan ba arwydd y cest ti dy eni - Virgo?' Chwarddodd y lleill a cheisiodd Dei chwerthin hefyd er nad oedd o'n deall y jôc.

Chwarddodd wrth deimlo'r tethi'n caledi o dan ei fysedd.

Cofiodd am bechod gwraig Lot, a chwarddodd.

Chwarddodd pawb, a chafodd Francis lonydd.

Yna chwarddodd yn uchel eto wrth sylweddoli nad oedd ond yn ganol y prynhawn.

Chwarddodd yn uchel a dweud.