Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwareli

chwareli

Maen' nhw'n deud imi fod arian da iawn i cael yn y Sywth yna." "Gobeithio 'wir, ond mae cimint yn cael i lladd yn y pyllau glo yna." "Mae digon o hynny yn y chwareli yma, petai hi'n mynd i hynny, a digon o bobol yn marw o'r diciâu." "Oes, digon gwir." "A dyna i chi siopau'r dre yna wedyn.

Hyd yn oed wrth droi'n ddiweddar at destunau'n nes adref yng Ngwent am ysbrydoliaeth, mae gweddillion chwareli mewn llefydd fel Clydach, heb fod ymhell o'r Fenni, wedi galluogi Bert Isaac i barhau â'r thema.

Gyda golwg ar y tair stori a leolir ym Morgannwg, straeon am gyfnod y Streic Fawr yng nghanol y dauddegau ydynt; ac yn un ohonynt, sef yn 'Gorymdaith,' teflir cip yn ôl ar y cyfnod yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddaethai hen dadcu a hen famgu Bronwen i'r cymoedd am y tro cyntaf, 'wedi teithio mewn cert o Sir Gaerfyrddin.' Un o ferched Arfon oedd Kate Roberts wrth gwrs - ni chaiff neb anghofio mai yno y'i maged: Arfon (fel y gwelsom) oedd y magned a'i tynnai hyd yn oed ar ei gwely angau - a chan mor gysa/ ct a thriw y portreada hi fywyd y werin-bobl a drigai yno, ei llenyddiaeth hi yw'r nesaf peth at hanes cymdeithasol bro'r chwareli a luniwyd erioed.

Fel yn achos pobloedd o bob rhan o Ewrop, bu America yn dynfa anodd ei gwrthsefyll i'r Cymry yn ystod y rhan gyntaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig yn sgil datblygiad y diwydiannau dur a glo, a chwareli llechi ym Mhensylfania.

Agor chwareli Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog i ymwelwyr.

Dechreuodd y chwareli gau fesl un yn y Gogledd wrth iddyn nhw orfod cystadlu â deunydd toi rhatach o wledydd eraill.

Erbyn heddiw, mae'r chwareli i gyd wedi cau, i bob pwrpas.

Wedyn, pan wnaed ffyrdd o ryw fath fel y gellid mynd â throliau a wagenni i'r chwareli, rhaid oedd wrth geffyl rhwng y llorpiau ar gyfer symud rheini wedyn.

Gwelir hen adeiliadau, simneiau, a thomennydd gwastraff yn gysylltiedig â'r gweithfeydd glo a haearn a'r chwareli ym mhobman ar hyd a lled y wlad; ond, yn amlach na pheidio, mae'r hen longau hwyliau wedi pydru ers blynyddoedd yn y dŵ'r hallt, neu wedi cael eu dinistrio neu eu symud er mwyn gwneud lle mewn porthladdoedd.

Am y rhan helaethaf o oes y chwareli roedd i'r 'ceffyl gwaith' - canys dyna fel y cyfeirid ato - ei le a'i ran ym mhatrwm eu gweithio.

Rowland Hughes a oedd yn ingol ymwybodol o broblemau cymdeithasol yn ar ardaloedd y chwareli a'r gweithfeydd glo.

Mae'r awdl hefyd yn creu darlun trist o'r dirwasgiad a ddaeth i ardal y chwareli llechi wedi i'r economi cenedlaethol wegian, a chau'r chwareli fesul un wrth iddyn nhw orfod cystadlu â deunydd toi rhatach o wledydd eraill.

Mae'r disgrifiad yn nodweddiadol o agwedd yr artist at chwareli segur yn gyffredinol.

Tua'r de mae creigiau llechfaen chwareli Cefndu a Glynrhonwy.

Roedd yn arferiad gan setwyr o chwareli ithfaen symud o le i le pan oedd y fasnach sets wedi arafu ac fe gawn fod amryw yn mynd dros y dwr o Drefor o dro i dro.

Ciliodd o'r caeau a'r meysydd pan drodd amaethyddiaeth at beiriannau; cafodd ei ddisodli oddi ar y ffyrdd gan y modur; a diflannodd oddi ar bonciau'r chwareli pan ddaeth y 'loco' i gymryd ei le.

Ni ddaeth ei mam hi o Lyn o gwbl; cafodd ei magu yn ardal y chwareli.

Arhosodd Llanaelhaearn yn ardal amaethyddol wasgarog hyd at ddiwedd y ganrif ddiwethaf pryd y trawsffurfiwyd y cylch yn llwyr gan ddyfodiad y chwareli ithfaen ar hyd yr arfordir.

Pan nad oedd ond llwybrau digon garw ac anhygyrch i fynd i'r chwareli cynnar cludid y cynnyrch ohonynt mewn cewyll ar gefnau ceffylau a merlod.

Bellach does ond ambell atgof yn aros o ran y ceffyl yng ngweithio't chwareli, a hynny dros ddegawdau lawer, ac hefyd ambell i enw, fel - Llwybr y Gaseg Wen a Llwybr y Ceffylau, - yn eco o'u rhan hanfodol ym mhatrwm y gweithio.

Ac wrth i'r chwareli gau, nid diwydiant yn unig a gollwyd, ond diwylliant arbennig bröydd y chwareli.

Gwyddent yn iawn beth oedd ystyr y corn yn canu i ddweud fod diwrnod gwaith ar ben, ac mae cof o hyd am geffyl a weithiai yn Chwareli'r Oakeley, pan ollyngid ef o'r tresi ar ganiad y corn, yn mynd ar hyd rhan o'r chwarel a thrwy y Lefal Galad, yna dilyn Llwybr y Ceffylau oedd yn mynd dros geg y Twnnel Mawr, i lawr i'r ffordd fawr ac i'w stabl yn y Rhiw ac at y minsiar heb neb wrth ei ben i'r dywys.

Iddo ef, llefydd i'w gadael ar drugaredd natur ydynt, i ddirywio yn eu hamser eu hunain; ac mae'n arwyddocaol mai Dorothea ddadfeiliedig oedd yr ysbrydoliaeth fawr am flynyddoedd, yn hytrach na'r chwareli a drowyd yn atyniadau twristaidd ym Mlaenau Ffestiniog.

Mae'n debyg fod John Evans yn gyfarwydd a chychwyn y gweithio yn y chwareli yma.

Gwahanol hefyd yw ei hoff gyrchfannau diwydiannol - hen chwareli sy'n mynd â'i fryd yn hytrach na phyllau glo, er mai'r rheiny oedd agosaf ato yn ystod ei fagwraeth yng Nghaerdydd.

Un arall oedd y Teifi, llong Capten Robert Roberts Mynytho (Robin Carmel) a ddeuai fel amryw o rai eraill i lwytho ithfaen o chwareli Llanbedrog.

Wrth ddod o'r twll (sef y tan ddaear) un bore ychydig cyn amser cinio, trodd y prif oruchwyliwr i'r stabl ato a gofyn: "Sut fwyd wyt ti'n 'i roi i'r ceffyl ma?" Atebodd hwnnw: "Tebyg i fwyd labrwr." Cymeriad arall oedd Wil Lloyd Penbryn ac ar un adeg yn gweithio hefo dau o'i geffylau yn un o chwareli'r ardal.

Creithiau ar wyneb y tir oedd y chwareli bellach a di-waith oedd nifer fawr o'r chwarelwyr.

Er i reilffordd, - boed honno'n llinell gul neu n llinell letach, - ddod i gludo cynnyrch y chwareli yn y man a dim galw mwy am y ceffyl ynglŷn â hynny o waith, roedd yna lawer o geffylau yn gweithio tu fewn i'r chwareli, yn llusgo wagenni a sledi - yn llwythog neu fel arall - ar y ffyrdd haearn a oedd yn gwau ac yn cyrraedd i bob twll a chongl mewn chwarel.

Erys colofnau creithiau'r caledwaith yn y cloddiau, y cwteri a'r chwareli, gyda chaib a rhaw, bwyell a phladur, cyllell a llwy, heb sôn am fwa saeth y rhai o'u blaen hwy; ac eto fe fynnwyd rhoi amser i'r Achos a'r achosion.

Mewn rhan arbennig o Chwareli'r Oakeley roedd yna un ohonynt wrth ei waith hefo'i geffyl pan lithrodd hwnnw a syrthio ar ei liniau rhwng y bariau am ryw reswm neu'i gilydd.

Ac roedd hyn mor wir yn hanes Chwareli Stiniog ag a ydoedd yn hanes ardaloedd eraill y llechi.

Yn sgîl y celfi cyfarwydd hynny yn ei gartref - y mangyl, yr harmoniym, bwrdd y gegin ac amryw bethau eraill - deuai rhyw atgof neu'i gilydd am y gorffennol i'w feddwl, a thrwy gydol y cynhyrchiad fe'n tywyswyd yn ôl ac ymlaen mewn amser wrth i'r eitemau hyn roi cyfle iddo ail-fyw profiadau ei blentyndod a'i ieuenctid - profiadau cyffredin ac oesol y gall pob un ohonom uniaethu â nhw ond a gaiff eu gwisgo yng nghyfnod y chwareli gan T.