Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwart

chwart

Gwaeddasant arnaf a dywedasant y cawn chwart o gwrw os gorweddwn ar lawr, ac ddynt hwythau gael ei dywallt i fy safn.

Trefn o fesur a roddodd inni ddywediadau lliwgar fel Dim llawn llathen a Rhoi chwart mewn pot peint.

Cymysgwch a rhoddwch i'r fuwch mewn dau chwart o de danadl poethion.

Yn fynych iawn, un o'r pethau cyntaf a wnaethpwyd i fuwch a ddioddai o glwy'r llaeth oedd tynnu pedwar neu bum chwart o waed!

Gollyngodd ei dannedd gosod i jwg chwart o ddwr a halen, penliniodd i ddweud ei phader ac yna dringodd i'r gwely dwbl i gysgu noson arall yng nghwmni llun Cynddylan Jones a siampler ac arni'r adnod - 'Na thrysorwch i chi drysorau ar y ddaear', mewn ffrâm fahogani.

Caniateais innau iddynt wneuthur feUy, a gorweddais ar wastad fy nghefn ar lawr, a chymerasant y chwart cwrw a chodasant ef i fyny, a thywalltasant cwbl ynghyd â Uawer ychwaneg, i lawr i fy ngwddf, fel i bwU o dwr.

Plannodd ei llaw i ganol y jwg chwart ac yna sodro'r dannedd yn ei cheg; gwthiodd ei thraed i'w slipars rywsut-rywsut a'i ffwtwocio hi am y ffenestr.

Dyna pam y gwnaed yr awdur, JK Rowling, yn aelod er anrhydedd o'r BWMA - British Weights and Measures Associaction - cymdeithas sydd a'i bryd ar ddiogelu'r peint a'r chwart a'r pwys a'r owns.