Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwech

chwech

Ddydd Gwener, a hithau'n boeth, roedd y drysau a'r ffenestri ar agor ac mae'r brif fynedfa ar agor i ymwelwyr rhwng dau a chwech y prynhawn a rhwng saith ac wyth i dadau.

Ni thynnai hwnnw chwaith ond chwech ar y tro er pob ystryw i'w dwyllo.

Syrthiodd ei wyneb wrth weld mai lle i chwech a osodwyd.

Un gan Howell Davies; chwech gan Peter Williams--ac ohonynt hwy y mae tair yn gyfieithiadau, ac un yn ei Saesneg gwreiddiol; cyfieithiadau o bregethau gan Whitefield, James Hervey, William Romaine, y brodyr Erskine a'r brodyr Wesley.

Cipiodd bowlwyr Morgannwg chwech o wicedi Essex ar ddiwrnod cyntaf y gêm Bencampwriaeth ar Erddi Sophia.

O'r diwedd, ar ôl saib o bum deg chwech o funudau, aildechreuodd y gêm gyda Antonis Kleftis yn y gôl dros Gyprus.

Wrth gwrs, dyw e ddim help bod chwech o'r tîm chwaraeodd ddydd Sadwrn yn chwaraeu hail gêm mewn pedwar diwrnod.

Nid oedd trydan wedi ein cyrraedd a chlywem oddi ar y newyddion chwech o'r gloch ar y radio ei bod yn waeth mewn llawer man nag a oedd arnom ni.

Methais â chael visa i ddychwelyd i Saudi Arabia lle bu+m am chwech wythnos ar ôl i Irac oresgyn Kuwait.

Un, dau, tri Greenhill oedd ein tai ni a rhifau saith, wyth a naw yn eu dilyn ymhen ychydig, ond yn y bwlch rhyngddyn nhw roedd tomen fawr o rwbel y cyfan a oedd yn weddill o rifau pedwar, pump a chwech.

Ar y parwydydd o'u cwmpas yr oedd chwech o ddrychau, a phob un o'r chwech yn wahanol.

Un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, saith ...

Chwech yn unig yn cystadlu, a phryddest gymedrol yn hytrach na disglair yn ennill.

Os y bechid rhagor na chwech wrtho, - petai hynny ond yn un yn fwy, - ni symudai yr un fer.

Mae Peter Ebdon ar y blaen o naw ffrâm i chwech yn erbyn James Wattana a phencampwr 1997, Ken Doherty, wedi ennill pedair ffrâm gynta ei gêm o yn erbyn Nick Dyson.

Yn y pegwn arall, yr oedd gan gapel bach Annibynwyr Pant-glas chwech o athrawon a dim un disgybl.

Ymunodd a Bwrdd Datblygu Cymru chwech mlynedd yn ôl fel Gweithredwr Datblygu Hyn.

Câi merched eu rhoi i'w priodi yn ifanc iawn, weithiau yn ddim ond chwech neu saith oed.

'Mi fasan nhw wedi sgorio chwech gôl heblaw amdanaf fi,' broliodd Huw.

Pan enillwyd y gêm honno o gôl i ddim a Chymru wedi sicrhau chwe phwynt allan o chwech, ac ar frig y grwp, roedd na freuddwydio go iawn wedyn.

A oedd yr hen geffyl yn medru cyfrif i chwech wrth glywed 'clic' y wagenni fel y tynhaent yn gynffon y tu ôl iddo?

Daniel Owen oedd yr olaf o chwech o blant a aned i Robert a Sarah Owen.

Bu pobl yn byw yma ers yn fore iawn, ac y mae olion o Oes yr Haearn, bedwar can mlynedd cyn Crist, yn profi iddynt dderbyn eu cynhaliaeth o'r tir a'u hamddiffynfa yn yr hen gaerau a godwyd ar hyd a lled sir Aberteifi, a rhyw chwech ohonynt ar lannau Wyre o Ledrod i Lanrhystud ac un o fewn i'r plwyf, sef Caer Argoed.

Yn rownd gyn-derfynol y dynion yfory bydd Andre Agassi yn wynebu Patrick Rafter am yr ail flwyddyn yn olynol a phencampwr chwech o'r saith mlynedd ddiwetha, Pete Sampras, yn wynebu Vladimir Voltchkov.

Rhyw chwech ar y mwyaf sydd ar ôl.

Mae felly chwech prif egwyddor sylfaenol sy'n gynsail i'r cwricwlwm i blant dan bump.

Daeth y cais cyntaf o'r chwech pan gafodd Castell Nedd sgrym bump ar ôl i Luc Evans ddal cic letraws Steve Bowling, ac er syndod i bawb, gwthiwyd wyth Llanelli dros eu llinell a chwympodd Gareth Llywelyn, yr wythwr, ar y bêl.

Ond fe newidiodd popeth ar ol tri deg chwech.

Yno gweithiai ceffyl yn tynnu wagenni i ben y domen, - ond chwech, a dim mwy na chwech, a dynnai ar y tro.

Ar ddiwedd yr ail sesiwn mae O'Sullivan ar y blaen, deg ffrâm i chwech.

Aem drwy'r astudiaethau manwl hyn hefyd ar y goes gan dreulio tri mis gyda'r aelod hwnnw ac felly am bob rhan o'r corff: rhannau fel y benglog a'r ymennydd neu'r bol, a cheid arholiadau bob rhyw fis neu chwech wythnos ar yr astudiaethau hyn.

Dwi'n poeni na fydd seilia' ar gyfer lefel A mor gadarn ag y buon nhw ac y bydd yn rhaid gostwng safon gwaith dosbarth chwech.

cyrhaeddodd hi'r fflat tua chwech o'r gloch.

Neu un â chwech o freichiau?

Fel y gŵr drwg ei hun." "Cychwyn i'r lle chwech wnaeth hi," meddai Mam, "ond welson ni ddim golwg ohoni wedyn.

un fil pum cant chwe deg a chwech, Ac o'r dydd hwnnw ymlaen, bod y cwbl o'r Gwasanaeth Dwyfol i'w arfer a'i ddweud gan y Curadiaid a'r Gweinidogion trwy'r holl Esgobaethau a nodwyd, lle mae'r Gymraeg ar arfer yn gyffredin, yn yr iaith Frytaneg neu Gymraeg grybwylledig .

O gymhwyso'r syniadau hyn at Ogledd Iwerddon, byddai Ulster, yn eu cynllun hwy'n cynnwys naw sir yn hytrach na chwech.

'Mae o tua un deg chwech centimedr,' oedd ateb Alun.

Erbyn i'r chwarae orffen ddiwedd y dydd yr oedd Sri Lanka mewn dyfroedd dyfnion ar 98 am chwech.

Dechreuodd Lloegr y dydd ar 393 am chwech.

Ymunodd ag un o longau Porthmadog fel Mêt gyda chwech o griw.

Y Llywodraeth yn caniatáu darllediadau teledu rhwng chwech a saith gyda'r nos.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Chwech yn marw wedi ymosodiadau treisgar yn ystod streic y glowyr yn Llanelli.

Ond tra'n dreifio i lawr stryd y Trallwng am chwarter wedi chwech, sylweddolais nad ffermwyr oedd yr unig rai i godi'n fore - 'roedd rhywun yn brwsio'r palmentydd, un arall mewn lori nwyddau a siopwr yn gwerthu papurau.

Cyrraedd i Bari yn frwnt ac yn lluddedig am chwech yn y bore.

Mae gen i bwyllgor pwysig am chwech o'r gloch, ac isio mynd i swyddfa'r Gwyliwr ar fusnes pwysig iawn cynd mynd i'r pwyllgor.

Dyna rybudd chwech o grwpiau cadwraeth Prydain sy'n galw ar y Llywodraeth i lunio mesurau i amddiffyn holl rywogaethau Prydain.

Wedi'r cwbl, y trefniant a wnaethpwyd efo'r cwmni oedd y buasai'r bws yn ôl yn y garej erbyn chwech.

Cyhoeddwyd bod chwech o noethlymuniaid yn mynd i nofio ras gyfnewid o un pen i'r loch i'r llall.

Mae 17 o chwaraewyr o Loegr wedi eu dewis, tri o'r Alban - gan gynnwys Simon Taylor, dewis 'annisgwyl' y daith - a chwech o Iwerddon.

Daeth yr argraffwyr i ben eu defnydd hanner ffordd trwy dudalen chwech, a gadawyd y gweddill yn wag, yn lle'i defnyddio i roi hysbyseb rhad ac am ddim i'r blaid.

Nid oedd unrhyw ddrwg deimlad rhyngom neu fe fyddwn wedi cael y veto wrth geisio symud i Rif Chwech gan ei fod yntau yn byw yno hefyd.

Cysgais gwsg y cyfiawn y noson honno beth bynnag, ond tua chwech o'r gloch y bore cefais fy neffro gan Akram.

Roedd gwahoddiad i chwech ohonom i'w sosial, ac aethom mewn hen Austin oedd gan Dic Tyddyn Bach, pedwar ohonom fel sardines yn y tu ôl ac yn chwys diferol.

CYNHALWYD gwylnos ym Môn yr wythnos yma er cof am mam o chwech o blant bach a fu farw ar ôl digwyddiad erchyll yr wythnos cynt.

Y bwriad oedd dod o hyd i bump neu chwech o chwaraewyr gyda'r potensial i chwarae rygbi rhyngwladol.

O flaen torf o dros dair mil, roedd Llanelli'n colli'r gêm o naw pwynt i chwech, a dim ond ychydig funude o'r gêm yn weddill, pan lwyddodd Andy Hill i groesi am gais a droswyd gan Phil Bennett, eiliade yn unig o'r diwedd.

COLLEDION: Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu farw chwech o drigolion yr ardal.

Mae gen i bwyllgor pwysig am chwech o'r gloch - y Tradesmen's Council.

UN mis Medi, penderfynwyd mynd â chwech o fyfyrwyr o'r Coleg yn Kampala ar saffari er mwyn iddynt gael profiad o fyw a gweithio allan o'r labordai.

Am chwarter i chwech yn y bore cawsom orchymyn i godi, a dywedwyd wrthym y caem awr i grwydro'r dref.

Roedd Metron wedi achwyn ar ôl dod o hyd i Hilary yn dodjio gwers biano yn y lle chwech.

Hyn yn golygu fod raid codi am chwech ar ol noson chwyslyd a heb gael unrhyw gyfle i addasu i wlad ddieithr.

Yr oedd y bos wedi meddwl ennill hefo'r bwmpen honno yn y sioe." Disgynnodd y gansen yn galed chwech o weithiau ar law Douglas.

Roedd Gareth Lloyd yn chwech ar hugain oed, fodfedd yn fyr o'r chwe troedfedd traddodiadol, ond nid angenrheidiol, yr heddlu, du ei wallt ond golau, os nad gwelw, ei wynepryd.

Perfformiodd Delyth ar ei chlarinet mewn cyngerdd terfynol yng Nghastell Penrhyn, gyda chwech o gystadleuwyr eraill.

Felly bydd chwech o'r tîm sgoriodd ddeg cais a 67 o bwyntiau yn erbyn Tîm A Canada yn chwarae eu hail gêm mewn pedwar diwrnod.

'Roedd ei gŵr yn gwasanaethu yn Ffrainc, meddai, ac yn anfon deuddeg swllt a chwech yr wythnos iddi at ei byw.

Un o'r pethau sydd yn ddiddorol i ni heddiw ydy na cheisiwyd yn y chwech a'r saithdegau gyfuno'r ddau symudiad: at Brwsel ar un llaw, ac at ddatganoli ar y llaw arall.

Erbyn iddynt fwyta eu sosej a'u sglodion a'u hufen iâ bob tamaid a mynd i'r lle chwech efo Owain ac i'r ystafell newid clytiau efo Guto, roedd awr a hanner wedi mynd heibio er pan adawsant y car, ac yr oedd Carol ar bigau'r drain yn poeni am Emyr ar ei ben ei hun yn tŷ yn pryderu amdanynt hwythau.

Ar wahân i'r chwech a gladdwyd yn y môr, bu farw'r ail fêt a morwr arall yn yr ysbyty.

Yr oedd gennyf gymaint o feddwl o Ioan Brothen fel gþr diwylliedig nes imi ddweud ar ddarlith i fyfyrwyr Bangor un tro : "O ran ei ddiwylliant mi dynnwn fy het i Ioan Brothen na chafodd ond chwech wythnos o ysgol o flaen eich hanner chi% Ym myd hynafiaethau bu Ioan Brothen yn fwy o help imi na neb.

Ychydig dros hanner canrif yn ddiweddarach aeth Mr D J Williams Yn Chwech ar Hugain Oed i'r pyllau glo yng Nghwm Rhondda.

"O'n i'n gweithio ar y bâd, y Carmania am chwech mis yn 'neud cabaret ar cruises pump diwrnod new fwy, yn mynd o Fort Lauderdale...

Erbyn chwarter wedi chwech, mae hanner y seddau yn llawn a dim un ar ôl erbyn saith a phobl yn dal i gyrraedd, rhai gyda'u cadeiriau eu hunain yn eu llaw.

Am ryw reswm fe'm cadwyd gartref gan fy rhieni tan fy mod yn chwech oed a gallwn rifo ac ysgrifennu a darllen erbyn hynny, diolch i mam.

Mae pedwar deg y cant o ferched a thri deg chwech y cant o ddynion yn crio oherwydd problemau personol; dau ddeg saith y cant o ferched a thri deg chwech y cant o ddynion yn crio oherwydd dylanwad y cyfryngau.

Y chwech sy'n bwriadu mynd ydi'r Maer, Cyng Brian Williams; ei ddirprwy, Cyng Tudor Owen; a'r Cyngr Meurig Williams, Robert Charles Parry, Jack Thomas a Mair Williams.

Enillodd Chris Small o ddeg ffrâm i wyth yn erbyn Marco Fu a mae'r cyn-bencampwr Stephen Hendry ar y blaen o chwech i dair yn erbyn Mark Davis.

Derbyniwyd chwech i gymundeb, bu farw un, a bedyddiwyd tri.

Cystadleuaeth wan oedd hon, gyda dim ond chwech yn cystadlu.

"Dwi'n gwybod bod 'na lot gormod o siarad am addysg yn yr ysgolion gan bobol Prifysgol sy'n gwybod dim am y peth ond mae gen i gydymdeimlad ag athrawon dosbarth chwech dan drefn newydd pethau.

'Mae gan bob un o'r pum neu chwech chwaraewr yna obaith da iawn.

Codem am hanner awr wedi chwech bob bore, ond nid oedd sôn am frecwast nes inni fynd ar barêd i gael ein cyfrif, ac yn aml byddai'n hanner dydd cyn bod y parêd drosodd, a ninnau bron diffygio.

Rwyt yn adrodd yr hanes i gyd wrth y cwmni o chwech o benaethiaid Tegannedd, o'r diwrnod y gadewaist Trefaiddyn hyd yr amser y daethost i Gors Mallerch.

Gary Sobers yn taro chwe chwech mewn un pelawd oddi ar fowlio Malcolm Nash yn Abertawe.

Tra oedden ni yn Havana, fe gawson ni wahoddiad i ffilmio seremoni dadorchuddio cofgolofn i Lenin, y fwya' a'r hardda' o'r cofgolofnau a oedd iddo ledled y byd - ac roedd trideg- chwech o'r rheiny.

Dau aelod o Fyddin Rhyddid Cymru yn marw mewn ffrwydrad yn Abergele, a chwech arall gerbron y llys yn Abertawe am fod ag arfau yn eu meddiant; dau o'r rhain yn cael eu carcharu.

Pwysodd Ditectif Ringyll Gareth Lloyd ar ymyl y cownter yn gwrando ar John Williams, y rhingyll shifft chwech o'r gloch y bore tan ddau y prynhawn, yn adrodd hanes ffrwgwd Nos Galan yn un o dafarnau'r dref.

Yn ddiweddarach, pan a'r hen wreigan i'r Rex ar ddiwedd y ffilm i chwilio am le chwech, canfydda fod y lle yng ngofal y cyngor ac yn llawn offer dynion-ffordd.

Dewch." Roedd hi'n chwech o'r gloch bron pan ddychwelodd Doctor Treharne i'r pentre.

Y mae'n lle llai, dim ond chwech ohonom, glanach hefyd.

Ar y ffordd tu allan yr oedd rhyw bump neu chwech o blant tlawd, troednoeth yn chware 'i chalon ac yn chwerthin, ac yn cyfarch ei gilydd mewn Gwyddeleg, yn y ffordd fwyaf naturiol yn y byd.

Yr oedd nifer y criw gyda'r Capten yn chwech, dau ar y wats, a phan oedd eisiau symud yr hwyl studding (hwyliau tywydd braf) yr oedd yn rhaid i'r llongwr nad oedd wrth yr olwyn symud yr hwyl ei hun.

Aeth i lawr i'r traeth; ac yno fe ddechreuodd chwarae gyda merch fach ryw chwech oed o'r enw Linda.

Ar un adeg roedden nhw'n 77 am chwech ond fe rannodd Steve James ac Adrian Shaw 61 am y seithfed wiced gyda James yn sgorio 54 heb fod mâs.

Y bore wedyn, ychydig wedi chwech o'r gloch yn y bore, roedd Louis ar ei ffordd adref.

Bore trannoeth cerddai yn ôl ac ymlaen y tu allan i'r siop, gan feddwl y byddai'n cael dechrau am hanner awr wedi chwech er mai hanner awr wedi saith oedd yr amser a drefnwyd.

Dyma gyfle i bump neu chwech o ddynion ifainc esgyn i lwyfan y peiriant.

Chwech yn cael eu lladd mewn ffrwydrad yng nglofa Cynheidre.