Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwedlonol

chwedlonol

Er mai yn y blynyddoedd 1909 ­ 1915 y cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd ei anterth, gyda 'Gwlad y Bryniau', 'Yr Haf' ac 'Eryri', yr oedd y llanw wedi troi yn erbyn Rhamantiaeth erbyn hynny, gan fod darllenwyr wedi syrffedu ar yr awdlau a'r pryddestau hyn a oedd wedi eu lleoli mewn rhyw orffennol chwedlonol, ac wedi syrffedu hefyd ar eirfa'r Rhamantwyr.

Mae'r pentrefi'n amlwg yn amrywio o ran maint a staws - rhai gyda nifer o dai sylweddol, a gerddi, a llwybrau dymunol rhwng y coed ar y ffiniau - darlun chwedlonol a rhamantaidd o flaen fy llygaid - eraill yn fwy clod a diaddurn.

Fe berthynai'r saint, yn fras, i'r oes Arthuraidd, a rhan o'r darlun hanesyddol o Arthur yw'r portread ohono a geir yn y Bucheddau, er ei fod yn sicr yn cynnwys elfennau chwedlonol.

Aiff y ddwy, y naill i Gwm Irfon a'r llall i Gwm Elan, â chi i olwg sawl lle o ddiddordeb hanesyddol neu chwedlonol.

mae'r llyfr yn cynnwys popeth fyddech chi'n ddisgwyl mewn cyfrol o'r fath - yr holl straeon chwedlonol am antics meddw, ar blerwch alcoholaidd oedd yn fygythiad i yrfar grwp yn y dyddiau cynnar.

(Del yw ffrind chwedlonol pob un ohonom, y ffrind a fu farw'n ifanc cyn rhoi cyfle i ni gael ein dadrithio).

Yr oedd 'Dias' yn un o chwaraewyr chwedlonol Aberystwyth a sgoriodd dros 400 o goliau i'r clwb.

Ond bu rhai eraill o'i gyfoeswyr yn dangos diddordeb dwfn yn y gorffennol - boed hwn yn orffennol chwedlonol a rhamantaidd fel yr un yr ymhyfrydai T Gwynn Jones ynddo, neu yn orffennol hanesyddol, gwareiddiedig ac aristocrataidd fel eiddo Saunders Lewis, neu yn orffennol Cristnogol fel yr un a ymddengys yng ngwaith Gwenallt.

Beirniad y gystadleuaeth a phrif symbylydd yr e-gwyl yw ‘Y Bilwg', un o breswylwyr chwedlonol yr Annedd.

'Does dim dwywaith nad ydyw'r llyfr yn taflu llawer o oleuni, mewn sawl lliw, ar y chwedl dan sylw; ac, wrth fynd heibio megis, ar lawero weithiau chwedlonol a ffuglenol eraill, o Lyfr Genesis i Un Nos Ola Leuad.

'Mae'r gêm hon wedi bod yn dda i mi', meddai, 'a theimlaf ei bod hi'n ddyletswydd arnaf i roi rhywbeth yn ôl iddi.' Ei gariad at y gêm a'i rhwydodd i rengoedd dethol dyfarnwyr Pencampwriaeth y Siroedd, gan ddilyn esiampl y ddau Gymro chwedlonol, Dai ac Emrys Davies.

Mae'n cyfleu'r digwyddiadau hanesyddol neu chwedlonol heb foesoli na thynnu gwers a heb geisio bod yn symbolaidd.

Fe gafodd gyfle i weithio gyda Bob Monkhouse, Dave Allen ac eraill, ac mae'n cyfadde' ei fod yn anodd cadw'r profiad o gyfarfod ffigurau chwedlonol y cyfnod rhag mynd i'w phen.