Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwefror

chwefror

Yr ugeinfed o Chwefror oedd y dyddiad, tri ugain taten o Sharpe's Express mewn un gyfres o dair ffram a orchuddir a'r teip traddodiadol sydd fel ffenestri, a deugain ychwanegol o'r math Manna mewn cyfres arall o dair ffram orchuddir â phlastig.

Mae cyhoeddiad diweddaraf yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru i fabwysiadu'r cynigion hyn fel ei 'Lwybr Dewisiol' ef ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr, yn dilyn ymateb ffafriol y mwyafrif i'r arddangosfa ym mis Chwefror.

Bu'r perthi a'r goedlan yn crynu er diwedd Chwefror gyda sgrech, chwiban a chrawcian, a gollyngwyd pob offer o law i wrando'r deryn du o'i gangen ar y pren ysgawen; ac yn y distawrwydd hwyrnosol, deuai nodau trist y gylfinir o'r ffridd uchaf drwy ffenestr ystafell fy ngwely.

Yr oedd y cyfarfod yng Nghaerdydd ddiwedd mis Chwefror yn un o gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus a drefnwyd yn fuan wedi dechrau'r flwyddyn i wadu honiadau'r Dirprwywyr a'u tystion.

Nid anghofiodd y wlad 'ma eira mawr Chwefror chwe blynedd yn ôl, a'r pryder a oeroedd ein gwaed y Chwefror eleni.

Mae Chwefror 18, 1968, yn ddiwrnod na fyddaf yn ei anghofio byth - y diwrnod yr oeddwn yn gadael Cymru am Awstralia.

Gwynt Chwefror ddaw â gwanwyn cynnar.

Ond er i ni gael ar ddeall y byddai rhywun cymwys yn cael ei benodi chafodd neb ei ddewis erbyn cyfarfod nesaf y Cyngor ar 7 Chwefror.

Ond mae'n ymddangos fod Miss Rowlands wedi dweud wrthynt ganol Chwefror na allai eu cynnal a'u gwahodd i adael ei thŷ .

Darma gyfnod yw hon, addasiad Eigra Lewis Roberts yn cael ei ffilmio gan gwmni Llifon i'w darlledu fis Chwefror nesaf.

Eira a barrug trwy Chwefror, poeth trwy'r haf.

Yn ail, cynhaliodd cwmni Beaufort Research ar ein rhan arolwg barn y cyhoedd ar y ddogfen ymgynghorol ym mis Chwefror 1996.

Tua chanol mis Chwefror byddai'r adar yn dechrau 'telori rhwng cangau'r coed'.

Mi fydd y rhaglen yn cael ei darlledu nos Lun Chwefror 12 am 18:10 ac wedyn yn cael ei hail ddarlledu b'nawn Sadwrn am 12:30.

Newidiwyd ddiwethaf ar Chwefror 22ain 1996.

Mae Cymdeithas yr Iaith felly yn pwyso am gyfarfod gyda Meryl Gravell ar Chwefror 21 i glywed y canlyniad.

Torrwyd ein lawntiau ni am y tro cyntaf ar yr ail ar bymtheg o Ionawr eleni, eilwaith ar y dydd olaf o'r mis, dim unwaith yn ystod mis Chwefror, ni bu tyfiant yn ystod y mis hwnnw, ac yna ar y seithfed ar hugain o Fawrth.

Os yw'r gath yn cynhesu yn yr haul yn Chwefror bydd yn cynhesu ger y tân ym Mawrth.

Mis pwysig i ieuenctid oedd Chwefror oherwydd tua'i ganol disgwylid ffolant; os na ddigwyddai hynny, diflas fyddai ar y person hwnnw o safbwynt carwriaeth tan Galangaeaf.

Addaswyd ar Chwefror 4ydd, 1998.

Drwy ddiwedd Chwefror, Mawrth, Ebrill a Mai disgynnodd drwy Ddyffryn Elwy.

Newidiwyd ddiwethaf ar Chwefror y 18fed, 1996.

'Roedd mis Chwefror yn fis hanesyddol i Nicky Wire, James Dean Bradfield a Sean Moore, gan berfformio yng Nghiwba a chyfarfod Fidel Castro.

Newidiwyd ddiwethaf ar Chwefror 19eg, 1996.

Cyflwynwyd gerbron Pwyllgor Addysg y Cyngor ym mis Chwefror -- ymateb ffafriol iawn eto.

yr oedd eira chwefror a glawogydd tros w ^ ŵyl ddewi wedi chwyddo nentydd yr ardal a chreu rhaeadrau yn hafnau 'r bryniau, a 'r cwbl yn llifo i afon afon nes ei bod hi, erbyn cyrraedd y dyffryn lle safai aberdeuddwr, yn genllif gwyllt gwyn, ar frys i gyrraedd y dolydd tu hwnt i trillwyn isa lle gallai orlifo i 'r caeau a chael ymwared a 'i ffyrnigrwydd.

Ers mis Chwefror diwethaf yr ydw i wedi bod mewn sawl digwyddiad ller oedd AC yn bresennol.

Rwy'n cofio dysgu yn yr ysgol mai 'byr yw dydd a dyddiau Chwefror', a meddwl heddiw na ddywedwyd mwy o wirionedd mewn cyn lleied o eiriau, erioed.

O'r Western Mail ar Chwefror y 29ain -- mae'r Blaid Geidwadol mor desprêt am bres gyda brwydr etholiad cyffredinol ar y gorwel fel eu bod wedi hed-hyntio Trysorydd y Gymdeithas, Lyndon Jones, i gynnig help...

Rhagwelid y byddai'r adeilad newydd yn barod ym mis Chwefror ac y byddai trosglwyddo'r cyfrifoldeb am y storfa yn cymryd lle ym mis Mawrth.

Brwydr fawr Mark Taylor fydd bod yn holliach ar gyfer gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fydd yn dechrau fis Chwefror.

Mewn datganiad i'r wasg gan y Swyddfa Gymreig cafwyd ar ddeall bellach bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru wedi rhoi sel ei fendith ar y cynlluniau ynglyn a ffordd osgoi Llanbedrog a roddwyd gerbron yn yr arddangosfa yn ol ym mis Chwefror.

Roedd darlledu'r ddarlith hon yn Chwefror 1962 yn her newydd i'r Cymry ond o ochr y darlithydd ei hun doedd dim ynddi a oedd yn newydd.

Ein hymgyrch amlycaf yw ILDIWCH I'R GYMRAEG a fu'n ymgyrch weithredol ers dechrau mis Chwefror, ac wedi llwyddo i gadw momentwm ers hynny.

Mae Grwp Statws Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi mis o ymgyrchu mawr o Chwefror y 1af i Fawrth y 1af.

Pan wnaethom ni gyrraedd Awstralia ym mis Chwefror 1968 roedd y tywydd yn ofnadwy o boeth - dros 100F ac ymhen tri diwrnod yr oeddwn wedi llosgi'n ofnadwy.

Abertawe'n fflam am dair noswaith yn Chwefror, 230 yn cael eu lladd, a dinistriwyd canol y dref.

Cyflwynwyd Canrif o Brifwyl mewn pedwar cyfrwng; teledu a radio yn ystod Chwefror a Mawrth 2000, a mewn arlein a dau lyfr.

Pan ymunais â BBC Cymru fel rheolwr ym mis Chwefror eleni, roeddwn yn ffodus iawn.

Erbyn diwedd Chwefror yr oeddwn mewn penbleth.

Cwmni Dr Helen Roberts, Y Felinheli, a gawsom ym mis Chwefror, ac yn ei ffordd naturiol aeth â ni yn ôl genedlaethau i ddisgrifio'r afiechydon a fodolai, gan olrhain y cynnydd a fu dros y blynyddoedd i'w trechu.

Cafwyd trafodaeth frwd ar y pwyntiau uchod yn y cyfarfod ar yr 2il o Chwefror, a phenderfynwyd fod y mater yn haeddu trafodaeth bellach mewn Is-Bwyllgor Ymgynghorol.

Ni fydd tîm pêl-droed Cymru yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm y Mileniwm yn ystod mis Chwefror.

Lluwchfeydd ar draws De Cymru ar ôl y gÍm rygbi rhwng Cymru a'r Alban ym mis Chwefror.

Chwefror heb wynt a barrug - blwyddyn lawog heb fawr o ffrwythau.

Mae'r misoedd Ionawr, Chwefror a dechrau Mawrth yn cyd-daro â gwyliau'r haf.

Mae'r Gymdeithas yn awr yn gobeithio cwrdd â Meryl Gravell ar 21 Chwefror er mwyn cael trafodaeth bellach ar y materion hyn.

Ar y chweched ar hugain o Chwefror ym Mhlas hedd bu farw Mr Joseph Bratt (Joe) gynt o "Mount View%, Ffordd Glynne, yn wyth deg wyth oed.

Danfonid y pennill ar y dydd olaf o Chwefror a hynny heb dâl cludiant.