Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwerwedd

chwerwedd

Prin y derfydd gyda'r genhedlaeth hon y chwerwedd sydd wedi deillio o'r fath fwnglera anffodus'.

Y wir farddoniaeth sy'n sicrhau ymateb ysgytiol gyffrous yw honno pan yw'r cydio trosiadol yn uno'r annhebyg, y gwrthwynebus a'r ymddangosiadol anghydnaws - ac os caf ddyfynnu, heb ennyn chwerwedd rhai beirniaid, eiriau Coleridge, ...

Ac wrth reswm, yr oedd ysbryd herfeiddiol y glowyr yn ganlyniad nid yn unig i'r tipyn chwerwedd ynghylch y plocynnau pren ond hefyd i annhegwch didostur holl amgylchiadau eu llafur a'u tal.

Gellir dirnad y siom a'r chwerwedd yng ngwawd y rhai a watwarai Iesu, yn cynnwys y 'lleidr' (gwrthryfelwr, yn bur sicr) a waeddai, 'Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau'.

"Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, A Ddaeth Ato Ef." Torrodd Cyllell ei gariad mwyaf cu drwy chwyd fy chwerwedd, a rhedodd allan grawn drewllyd.

ym mustl chwerwedd, yn pori yngwerglodd y cythrael, yn cael ei lithio gan chwant, yn pori glaswellt .

Ac adnabum i ryw raddau bach yn yr awr honno, megis y profais eilwaith flynyddoedd yn ddiweddarach o dan law yr athronydd a'r seicolegydd, Dr David Phillips, (Coleg Diwinyddol y Bala) y cariad sy'n Dod at y truan ("Came where He was"), y cariad sy'n iachau'r meddwl oddi wrth chwerwedd ei bryder.