Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwiban

chwiban

Bu'r perthi a'r goedlan yn crynu er diwedd Chwefror gyda sgrech, chwiban a chrawcian, a gollyngwyd pob offer o law i wrando'r deryn du o'i gangen ar y pren ysgawen; ac yn y distawrwydd hwyrnosol, deuai nodau trist y gylfinir o'r ffridd uchaf drwy ffenestr ystafell fy ngwely.

Cafodd y ddau dîm gyfleon cyn y chwiban olaf, yr agosa oedd cynnig Richard Kennedy o'r Barri yn taro'r trawst.

Roedd yn gyflym ei feddwl,yn uchel ei gloch, a'i ddyfodiad i dy neu feudy, gyda'i chwiban neu'i gan, yn orcestra o swn; yng nghwt y moch ei wich o a fyddai uchaf, a lle na byddai roedd rhialtwch fel pe bai wedi colli'i denantiaeth.