Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwibanu

chwibanu

Sawl tro yng nghynffon y gân maen troin offerynnol cyn i'r llais ddod i mewn eto ar gân yn gorffen gyda swn chwibanu.

Mae'r chwibanu'n peidio ar unwaith ac mae'r goedwig yn hollol dawel.

Wrth gerdded trwy'r tyrfaoedd ar y prom fe ddechreuodd Joni chwibanu.

Os oedd hi'n ddydd gwaith, a dyn yn ymdrechu, hyd orau'i allu i chwibanu a chodi'i galon wrth gerdded yn anfoddog tua'r ysgol, mynnai'r galon guro'n gyflymach wrth imi brysuro heibio'r rhes o dai lle roedd Talfan yn byw, ac yno y pwysai'n llechwraidd yng nghysgod y drws, ei wallt cnotiog du yn ei lygaid a darn o'i dalcen yn gwenu arnaf.

Gallem ei glywed yn chwibanu drwy'r gwifrau, yn dyrnu'r ffenestri, ac yn sgrialu'n llithrig ar hyd y deciau heibio talcenni'r cabanau.