Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwyddo

chwyddo

Nid oedd yn rhaid i'w lygaid duon ei hanwesu ac i'w gyhyrau wingo dan ei groen tywyll pan fyddai'n rhwydo na theimlai hi ei gwaed yn byrlymu yn ei gwythiennau a'i chalon yn chwyddo.

Hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg telesgopau plygu oedd y mwyaf poblogaidd, sef telesgopau sy'n defnyddio lensau i gasglu a phlygu'r golau a chwyddo'r ddelwedd.

Gwelir hyn yn hanes diweddar Cymru; chwyddo nerth a gogoniant y wladwriaeth Brydeinig fu swyddogaeth y genedl hon ers cenedlaethau.

Fe'u huriai i ymwelwyr yn yr haf, ond ni yr hogiau lleol fynddai'n mynd a nhw ar y dwr ddechrau'r tymor ermwyn i'w coed chwyddo - eu 'stanshio' nhw ys dywedem.

O'r awyren gwelwn oddi tanom wlad wastad, isel, yn ymestyn bob ochr i'r afon Mekong, afon sydd yn chwarae rhan bwysig ym mywyd y wlad, afon sydd yn chwyddo i ffurfio llyn Tonle Sap ar ei ffordd i'r môr.

Cliriodd PC Llong ei lwnc a chwyddo'i frest i'w llawn maint.

Yn hytrach na mynd yn deneuach, mae ei holl gorff, gan gynnwys ei hwyneb, wedi chwyddo'n erchyll.

Yn y gwanwyn mae'r blagur yn chwyddo ac yn agor i orchuddio'r goeden a chanopi o ddail.

Roedd y drws yn gam ac wedi chwyddo.

Aberthai rhieni lawer cysur er mwyn cymhwyso eu plant gogyfer â'r gystadleuaeth lem am ddyrchafiad, ac aberthent y genedl Gymreig a'i hiaith er mwyn chwyddo nerth a gogoniant yr Ymerodraeth fawr yr oedd Cymru'n rhan ddinod ohoni.

Fel hyn y mae sicrhau 'incentives' i bobl ymuno yn y frwydr a chwyddo nifer y cefnogwyr.

yr oedd eira chwefror a glawogydd tros w ^ ŵyl ddewi wedi chwyddo nentydd yr ardal a chreu rhaeadrau yn hafnau 'r bryniau, a 'r cwbl yn llifo i afon afon nes ei bod hi, erbyn cyrraedd y dyffryn lle safai aberdeuddwr, yn genllif gwyllt gwyn, ar frys i gyrraedd y dolydd tu hwnt i trillwyn isa lle gallai orlifo i 'r caeau a chael ymwared a 'i ffyrnigrwydd.

Does yna ddim all e wneud yn ystod y mis nesaf i wella'i gyfle ef o oroesi, heblaw am chwyddo pleidlais Llafur yn gyffredinnol.

Y mae gormod o lyfrau, gormod o ddysgawdwyr, a'r ffynhonnau a'r goleuadau bellach yn gwneud dim ond chwyddo a dallu dyn.

'Rwy'n cofio'r goleuadau yn y Neuadd yn diffodd yn araf, nid yn sydyn fel yn ysgoldy'r capel, a'r goleuadau'n chwyddo wedyn ar y llwyfan, y llen yn codi a byd hudolus y ddrama yn ymagor o flaen fy llygaid.

Ond annheg â'r gwylwyr ar ddyddiau felly yw dewis un pwnc a chwyddo'i bwysigrwydd allan o bob rheswm.

Chwilen ddu flonegog ydoedd, a tharian adenydd yn chwyddo'n uchel dros ei habdomen.

Byddai wrth ei fodd yn gweld ei hwyneb wedi chwyddo.

tonnau'n chwyddo yn y pellter fel mynyddoedd mawr symudol, ac yn nesu a thorri'n gesyg gwynion anferth a chlecian a chwalu ar y Maen Du.

Byddai, mi fyddai'r plant yn tyfu'n gryf, yn cael eu hysgol yn rhad ac am ddim, ac yng ngolau'r addysg rhad hwnnw'n tyrru'n eu holau i chwyddo cyfoeth, aelodaeth, a dylanwad y capel.

Roedd ef wedi bod yn chwarae â'r syniad am rai blynyddoedd o gyfansoddi darn ag iddo un thema yn unig, ond y byddai'r thema honno yn tyfu mewn harmoni, ac yn chwyddo mewn dyfeisgarwch offerynnol.

Mae'n brysur ar hyn o bryd gan fod y galwadau meddygol yn cynyddu pan fo ymwelwyr yn chwyddo maint y boblogaeth leol.

Wrth i'w cynulleidfaoedd chwyddo, tyfai'r gweinidogion yn fwyfwy dylanwadol, a daeth yr ardal ddiwydiannol yn faes cenhadaeth deniadol i ŵyr brwdfrydig a dysgedig megis Thomas Rees, Cendl, Noah Stephens a Robert Ellis (Cynddelw), Sirhywi, John Jones (Ioan Emlyn), Glynebwy a William Roberts (Nefydd), y Blaenau.