Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwyldroadol

chwyldroadol

'Roedd mwy o amser i hamddena ar ôl i'r undebau ymladd am lai o oriau gwaith ac ar ôl cyllideb chwyldroadol Lloyd George.

Ac yn ail, y mae'n ystyried y cysylltiad rhwng brwydr Cymru a'r cyfnewidiadau chwyldroadol yn Nwyrain Ewrob.

Felly o lwch y Nationalistische Front (y Ffrynt Genedlaethol) cododd y Sozial revolutiona%re Arbeiterfront (Ffrynt Cymdeithasol Chwyldroadol y Gweithwyr).

Mae'n anodd heddiw deall pa mor chwyldroadol oedd y Stryd pan gychwynnodd: cyfres am bobl gyffredin o'r dosbarth gweithiol yng ngogledd Lloegr gyda cherddoriaeth agoriadol ddigalon.

Ond mae'n rhaid cadw mewn cof bod y mudiad rhamantaidd yng Nghymru yn ffynnu ar adeg o newid chwyldroadol yn y gymdeithas, o ddiwydiannu cyflym, a symud poblogaeth, hagru'r tir, o newidiadau ym myd crefydd ac iaith.

Yn yr amgylchiadau hyn, a'r Basgiad yn ymladd dros ei hunaniaeth Fasgaidd, "y mae iddo siarad ei iaith ei hun yn weithred chwyldroadol".

Geiriau chwyldroadol, rhaglen chwyldroadol.

Tra bu i rai o leisiau amlycaf yr adain chwith megis Gudrun Ensslin ac yn ddiweddarach Ulrike Meinhof droi at drais, yr ateb i eraill oedd ffurfio celloedd unigol lle dôi criw bach at ei gilydd i drafod theori chwyldroadol.

`Pan fydd y plant yn gorffen fan hyn, fe fyddan nhw'n ymuno â'r pwyllgorau chwyldroadol ac fe fyddan nhw'n barod i ymgymryd â gweithredoedd chwyldroadol - yn y byd Arabaidd a'r tu hwnt.

Eleni, hefyd, ar ôl i'r Gymdeithas fod ar yr hen ddaear yma am deugain namyn dwy o flynyddoedd fe lwyddwyd i wneud rhywbeth, chwyldroadol, na wnaethom erioed o'r blaen, sef apwyntio dau gadeirydd.

I gloi'r gyfres cafwyd dadl, In Place of Wales, a drafododd y newidiadau chwyldroadol a gafwyd yng Nghymru yn ystod y 15 mlynedd o 1985 hyd heddiw gan edrych ar y rhagolygon i'r dyfodol.

Am gyfnod, roedden nhw'n gorfod gwisgo sgertiau byrion ac yntau'n eu galw yn `lleianod chwyldroadol'.

Aethpwyd yn ôl i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg trwy ofyn am Arwrgerdd, cam enfawr yn ôl i'r gorffennol wedi arbrofion chwyldroadol y dauddegau yng nghystadleuaeth y Goron.

Mae'r datblygiadau chwyldroadol wedi ein galluogi i addasu solidau i bwrpasau arbennig.

Am gyfnod, mynnodd eu bod yn gwisgo sgertiau byr, a chyfeiriai atynt fel 'y lleianod chwyldroadol' - er bod lle i amau eu purdeb.

Mewn araith i wragedd y blaid gomiwnyddol, dywedodd hefyd fod Cuba wedi cyrraedd pinacl ei hanes a'i bod yn bryd penderfynu a ddylid tynnu'r baneri chwyldroadol i lawr.

Yn hyn o beth bu'n wahanol iawn i lawer o'r alltudion eraill, a ddenwyd gan syniadau Calfinaidd mwy chwyldroadol.

Y mae'n amheus gennyf a sylweddolem yn y Blaid ar y pryd mor chwyldroadol oedd yr hyn a hawliem.

Mae'n mudiadau chwyldroadol ni yn ymwneud â'r holl fyd, a'r ddynoliaeth gyfan.'

Mae'r danteithion dros y dwr yn America yn golygu mwy iddyn nhw na sloganau chwyldroadol y pumdegau.

I gloir gyfres cafwyd dadl, In Place of Wales, a drafododd y newidiadau chwyldroadol a gafwyd yng Nghymru yn ystod y 15 mlynedd o 1985 hyd heddiw gan edrych ar y rhagolygon i'r dyfodol.

'Pan fyddan nhw'n gorffen fan hyn,' atebodd Ismail, 'byddan nhw'n ymuno â'r pwyllgorau chwyldroadaol, a byddan nhw'n barod i ymgymryd â gweithredoedd chwyldroadol - yn y byd Arabaidd a'r tu hwnt.

Yn wir, gwelodd esblygiad y dull hwn o sgrifennu newid chwyldroadol ers i'r awdur hwn droi at y cyfrwng.

Mae'n mudiadau chwyldroadol ni yn ymwneud â'r holl fyd a'r ddynoliaeth gyfan.'