Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwyrnu

chwyrnu

'Roedd EJ eisoes yn y gwely yn chwyrnu'n dawel, a Debora yn ei llofft yn cysgu, ei bawd yn ei cheg fel arfer, a bysedd y llaw arall yn cydio'n dynn mewn darn o siol dreuliedig.

Mae cordiau'r llais yn tynhau a'r unig sŵn y maen nhw'n medru ei gynhyrchu yw chwyrnu cras, tebyg i sŵ n blaidd.

Ymlaciodd hithau yn ei erbyn, a theimlo'i haelodau'n ymollwng fesul un wrth i'w anadlu dwfn arafu, a throi'n chwyrnu rheolaidd isel.

Roedd Alun yn meddwl am yr hen stori pan ddechreuodd Bob chwyrnu'n ffyrnig.

Syrthiodd Gwgon i gwsg trwm o'r diwedd ym mreichiau'r cawr gan chwyrnu cysgu fel ci bach boddhaus.

Cyn pen chwarter awr arall o fyfyrio ar y groes o gyswllt gytbwys accenog yn nodiadau sych Wali, roedd Jabas hefyd yn chwyrnu'n braf.

Ar ôl treulio tua hanner awr yn rwdlan a chanu aeth i chwyrnu cysgu.

Dôi sŵn chwyrnu uchel o rywle, a sylweddolodd mai yn yr ystafell y safai ef wrthi y canai'r utgorn.

Torrodd chwyrnu Bob yn gyfarth cynddeiriog.