Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chyfiawn

chyfiawn

Nid heddychwr mo Saunders Lewis ond gwelai'n eglur, yng ngoleuni ei egwyddorion ei hun, nad oedd nac ymarferol na chyfiawn i frwydro'n arfog dros ryddid ei genedl.

Dyma'r cyfnod pan berchid astudiaeth drylwyr o hanes yn gyfrwng ynddo'i hun i ddeall sut y dylid llywodraethu'n ddoeth a chyfiawn.

Mae ei ymddygiad dirwestol a chyfiawn yn gosod Robert Pugh y Trawscoed - ei gymydog agosaf - yn y cysgod gydol y nofel o ran synnwyr cyfiawnder a phob dim arall.

Serch hynny, y mae'r nod o sefydlu democratiaeth ddiwylliannol a chyfiawn i gwrdd â chyfrifoldeb yr unigolyn tuag at draddodiadau ei genedl yn nod y dylid brwydro i'w chynnal hyd eithaf ein gallu, a thrwy ennill calonnau ac ewyllys y bobl y mae unrhyw beth, dybiwn i, yn bosibl.

Byddai'n fwy rhesymol a chyfiawn iddynt ladd y Saeson na lladd yr Almaenwyr, fel y gwnâi'r Gwyddelod.

Bid hynny fel y bo - ond maen ymddangos i mi mai y ffordd gall a chyfiawn o drin materion fel hyn fyddai; gwahardd y chwaraewr euog am o leiaf yr un faint o amser ag y bydd y chwaraewr arall yn methu â chwarae oherwydd yr anaf a gafodd.