Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chymdeithasol

chymdeithasol

Mae'r Panel yn cydnabod fod lles economaidd a chymdeithasol cymuned y Parc yn bwysig er mwyn cadwraeth effeithiol a mwynhad o'r Parciau, ac na ddylid edrych ar ymwneud Awdurdodau'r Parciau yn y maes hwn fel prif swyddogaeth ond fel swyddogaeth gefnogol i asiantaethau eraill.

Meddai Gill Brown, cyn athrawes gelf a chrefft sydd bellach yn Reolwr Datblygu Sgiliau Personol a Chymdeithasol yr Antur, 'mae hyn wedi rhoi hyder anhygoel iddyn nhw.' Mae'r siop yn ddeniadol, a'r silffoedd yn llawn o nwyddau amrywiol.

meysydd cydnabyddedig hynny megis yr esthetig a chreadigol, mathemategol, corfforol, gwyddonol, ysbrydol a moesol, technolegol, liaith a llythrennedd, dynol a chymdeithasol a maes cartref a'r ysgol.

Felly mae angen ymchwil i ganfod: - Manteision cognitif a chymdeithasol dwyieithrwydd; - Y ddelwedd sydd gan y Gymraeg.

Gweithred ddidrugaredd a oedd yn ganlyniad system economaidd a chymdeithasol ofnadwy o anghyfiawn.

Er nad oeddent yn ddibris o'u hen etifeddiaeth, daeth egni newydd i'w pregethu, eu haddoli a'u gweithgareddau eglwysig a chymdeithasol.

Trwy'r cylchgrawn hwn yn bennaf y dylanwadodd Gruffydd ar fywyd llenyddol a chymdeithasol ei gyfnod a llwyddodd i sicrhau cyfraniadau oddi wrth bob ysgolhaig, llenor a bardd o bwys.

Serch hynny, y mae hwn yn faes y bydd yn rhaid ei ddatblygu a byddwn yn ystod y cyfnod dan sylw yn ceisio defnyddio pob cyfle i ddwyn mwy o ddylanwad ar y sawl sy'n ffurfio a gweithredu polisïau economaidd a chymdeithasol.

Gwelodd fod yr epigram Groeg yn ymddangos yn debyg i'r englyn Cymraeg mewn sawl ffordd - o ran ei arddull, ei fyrder a'i addasrwydd at wahanol destunau a swyddogaethau llenyddol a chymdeithasol, a hyd yn oed o ran mesur.

Nid digon manylu ar eu cyflwr economaidd a chymdeithasol.

Arwyddocâd hyn yw fod gwaith mawr yn ein haros i dorri trwy'r rhwystrau meddyliol a chymdeithasol sy'n atal Cristionogion yn gyffredinol rhag mabwysiadu safbwynt sydd mor amlwg gyson â dysgeidiaeth Iesu Grist.

Cyffyrddwyd yma â syniadau ieithyddol a chymdeithasol a ddaeth, yn ddiweddarach, yn rhai pur amlwg a dadleuol ymhlith rhai Cymry.

"Ww - traed mawr oedd ganddo fo." Dylan Iorwerth Fe gyrhaeddodd yr Unol Daleithiau ar adeg o ferw gwleidyddol a chymdeithasol.

Mae oblygiadau cyhoeddus a chymdeithasol i ddefnyddio iaith ac i beidio â'i defnyddio.

Nid oedd gan y Saeson, fel yr oedd yng Nghymru, draddodiad cryf o ganu achlysurol a chymdeithasol, a byddai beirdd Saesneg yn troi at y clasuron am batrymau i'w dilyn.

Llesgedd gwleidyddol a chymdeithasol Gorllewin yr Almaen oedd un o themâu amlycaf protestiadau'r myfyrwyr yno.

Aethpwyd ati wedyn i lunio rhestr enghreifftiol o eitemau, a gynrychiolai lefel sylfaenol o fedrau, y byddai ar oedolyn ei hangen ar gyfer bywyd proffesiynol a chymdeithasol mewn cymuned Saesneg.

Nid sôn yr wyf am yr isfyd llenyddol, lled- lenyddol a chymdeithasol a ddatguddiwyd gan ysgrifenwyr fel Steven Marcus, Fraser Harrison, Kellow Chesney, Peter Gay ac eraill.

Sylweddoliad pwysicaf Cymdeithas yr Iaith oedd gweld na ellid ysgaru'r iaith o'i chyd-destun economaidd a chymdeithasol.

Problemau cyfreithiol a chymdeithasol

Y mae gan lywodraethwyr ysgolion lawer o bwerau a chyfrifoldebu statudol a chymdeithasol, fodd bynnag rhaid i ni sylweddoli fod y ddau brif rym bellach yn nwylo y llywodraeth ganolog.

Hebddynt hwy buasai'r sefyllfa Gymreig yn fwy afiach nag y bu, yn wleidyddol a chymdeithasol yn ogystal â chrefyddol.

Ar yr un pryd, rhydd gyfleoedd ychwanegol i'r disgyblion a fydd yn hybu eu datblygiad pynciol, personol, addysgol a chymdeithasol.

rhoi addysg bersonol a chymdeithasol dan bynciau fel gofal iechyd, cynllunio gyrfa, ymddygiad moesol, ymwybyddiaeth wleidyddol/ economaidd ayb.