Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chymharol

chymharol

Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf o garafanau yn dod gyda ffenestri dwbwl, ac os nad oes gwresogydd ynddi, mater bach a chymharol rad yw cael gosod cyfarpar felly.

Cychwyn yn ofalus a chymharol ddi-hyder y mae'r Cynulliad.

Ef oedd y bachgen yn Y Golud Gwell ag y byddai'r bechgyn yn yr Ysgol yn edliw iddo - 'Wyddost ti ddim pwy ydi dy dad na dy fam ,' Daw ef i mewn yn y bwndel a ddisgrifir yn Y Pentre Gwyn fel 'Nifer o blant cyffredin a chymharol dlodion.

Ond, fel y soniwyd eisoes, yn aml ni all y llawfeddyg cyffredinol dibrofiad a chymharol anfedrus fforddio danfon achos cymhleth at rywun mwy profiadol gan fod ei fywoliaeth yn dibynnu ar wneud yr operasiwn ei hun.