Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chymharu

chymharu

Yn y deng mlynedd diwethaf datblygodd archaeoleg i'r graddau fel y gellir yn awr ei chymharu ag astudiaethau cyfatebol ar y tir.

Os ydym am edrych ar wlad sydd i'w chymharu â'r hyn allai ddigwydd yng Nghymru, yna at y Basgiaid y dylem droi.

Nid oes gennym yn y Gymraeg yr un chwedl am Drystan i'w chymharu â'r rhain, er bod arwyr Arthuraidd eraill, megis Peredur ac Owein, wedi cael sylw mewn nifer o destunau rhyddiaith Cymraeg Canol.

Er nad yw'r adran yn fawr o'i chymharu a rhai adrannau o brifysgolion eraill y wlad, mae ei chyfraniad i wyddorau'r môr yn sylweddol ac mae llawer o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y cyd gyda phrifysgolion Ewrop, yr UDA, Awstralia a gwledydd eraill y byd.

Taith fer ydyw oddi yma i Berlin, cartref Schneider, o'i chymharu â'r pellter rhwng Abertawe a phrifddinas hen-newydd yr Almaen.

Ymddengys y wybodaeth a geir o astudio llongddrylliadau hanesyddol a safleoedd dan y môr yn ddigon pitw o'i chymharu â'r adnoddau hyn, ond er hynny y mae iddi bosibiliadau mawr.

O'i chymharu a'r ystafell yma, cwt cwningen o le oedd ganddo ef gartref.

O'i chymharu ag Agra, roedd stesion Delhi'n edrych yn lan pan gyrhaeddon ni'n ol heno, a'r YMCA., pan gyrhaeddais hwnnw ar ol taith wallgof trwy draffig ardal yr orsaf mewn rickshaw-peiriannol, yn ddigon croesawgar yr olwg - ymron yn aelwyd gynnes gyfarwydd.

Yr oedd yr hen gell yn olau, yn eang ac yn serchus o'i chymharu â'r gell gosb.

I ateb y cwestiwn bwn, y mae'n rhaid dyfalu beth fyddai wedi digwydd petai'r llywodraeth heb ymyrryd, a chymharu cwrs tybiannol yr economi yn absenoldeb ymyriad llywodraethol â chwrs hanes.

Mae hyn yn dangos yn glir y gwendidau sydd yn y sylfaen gyflogaeth yng Ngwynedd o'i chymharu â siroedd a rhanbarthau eraill.

Weithiau, bydd angen mwy o wybodaeth neu agwedd newydd ar bwnc a fyddai'n rhoi gogwydd ychydig yn wahanol i'r stori o'i chymharu â fersiwn y sianel arall.

Nid oedd y golled ariannol yn ddim yn ei olwg o'i chymharu â'r gwawd y gwyddai a fynwesid, yn y man, nid yn unig gan ei uchafiaid, ond ei isafiaid hefyd.

Pan ddown at fyd busnes, y mae'n bosibl inni wneud amcangyfrif (neu gyllideb, fel y'i gelwir yn gyffredinol) am y flwyddyn, a chymharu'r cyfrif elw a cholled ag ef ar derfyn y cyfnod.

mae'r llyfr hefyd yn tanlinellur hyn rydyn ni i gyd yn ei wybod yn barod - fod Cerys yn seren hollol unigryw, er fod hi'n cael ei chymharu â phob cantores ers degawdau, o Janis Joplin i Debbie Harry.

Cerdd Dant a Chynghanedd yn cael eu llusgo dan brotest i gefn Folfo a'r Babell Lên grand yn lle "i gael y'ch gweld" o'i chymharu â'r hen gwt ieir annwyl a fu.

Mae'r Rwsiaid bellach yn ymwybodol iawn fod diffyg nwyddau yn y wlad o'i chymharu a gwledydd llewyrchus y gorllewin, ac o'r herwydd mae eu hagwedd tuag at ymwelwyr tramor yn atgoffa dyn weithiau o'r 'Cargo cults' ers talwm.