Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chymorth

chymorth

Cynhaliwyd yr arolwg, a ariannwyd gan y Bwrdd ar y cyd ag S4C, gan NOP Consumer Market Research, gyda chymorth y Swyddfa Hysbysrwydd Ganolog.

Cafodd ei chynhyrchu gyda chymorth Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Llyfrau Cymru.

strategaeth genedlaethol i ddarparu digon o dai ar rent a chymorth i brynwyr tro cyntaf.

Gyda chymorth y bobl a safai gerllaw iddo arestiwyd y dyn a daflodd y bom.

Cafodd ofal tyner gan ei chwaer Edith a chymorth gan ei chwaer Peggy.

Bwriadai i'r eglwys golegol hon estyn croeso a chymorth Cristnogol i ddieithriaid a chrwydriaid yn ôl traddodiad yr efengylau.

Cafodd yr adeilad ei godi gyda chymorth ariannol gan y Cynulliad Cenedlaethol o £90,000.

Yn eironig ddigon, gall cymorth datblygu fod yn rhatach o lawer na chymorth bwyd.

Honnodd fod diwydianwyr ledled y byd, gyda chymorth yr economegydd Milton Friedman, wedi addo buddsoddi gwerth ugain biliwn o ddoleri yng Nghuba y diwrnod y caiff Fidel ei ddisodli.

Cafwyd gwasanaeth byr ar ol cyrraedd yng ngofal Mr Glyndwr Thomas a chymorth Capten Trefor Williams, Mrs Gwyneth williams a Miss Gladys Hughes.

Bu'r ddwy yn y llyfrgell am ryw hanner awr wedyn yn dod o hyd i'r llyfrau, gyda chymorth Mrs Morris.

Ychydig oedd y prynhawnau bellach pryd na fu ar grwydr gyda'i ddryll hyd y copaon, yn chwilio gyda chymorth gwydrau am yr ymosodwr llwyd.

Prif symbylydd clwb Maesywaen yn y gystadleuaeth nodedig yma yw Maureen Jones gyda chymorth, nid bychan, Gwynedd y gŵr.

Cymorth beirniadaeth E Lewis Evans, y mae M Wynn Thomas yn edmygus iawn ohono, ysgolhaig a gweinidog Annibynnol a ddeallodd yn gynnar ba mor astrus oedd ei arwr; a chymorth beirniadaeth Hugh Bevan ar ei ôl, yr hwn yn Morgan Llwyd y Llenor a astudiodd yr awdur fesul llyfr yn ogystal ag yn gyffredinol.

Argraffydd ydoedd wrth ei alwedigaeth; priododd un o ferched y Rhos, sefydlodd fusnes yma, ac efo a'i deulu, gyda chymorth y Cymro pybyr hwnnw, William Stephen Jones, a sefydlodd ac a gynhaliodd yr Herald.

Dymuna CYD gydnabod yn ddiolchgar gymorth ariannol y Swyddfa Gymreig a chymorth ymarferol ac amhrisiadwy Teledu AGENDA i'r cynllun hwn.

Merched Fflint yn amlwg yn cael cefnogaeth a chymorth gwerthfawr.

Roedd hi wedi derbyn y byddai eisiau ei chymorth ar ei mam, gan ei bod hithau wedi gorfod ymgymryd at weinyddu ewyllys ei gwr.

Gyda chymorth cyfryngwyr (mediums) megis Y Prifardd Elwyn Roberts a Winni Marshall, treuliodd ef flynyddoedd lawer yn ymweld â thai ac yn cynorthwyo pobl a boenid gan bresenoldeb ysbrydion.

Mae'r Cyfeiriadur yn defnyddio gwybodaeth gan y Brosiect Gyfeiriadur Agored, prosiect sy'n ceisio creu'r cyfeiriadur mwyaf trwyadl o adnoddau ar y We Fyd-Eang, gyda chymorth llu o wirfoddolwyr.

Fe'm cyflwynodd i Tomi ac i ŵr Pen y bryn, a thra cydnabyddai ei genedl ei dyled iddo cydnabyddai yntau angen y rhai ifainc am gefnogaeth a chymorth a chalondid, megis pe bai'n barod, nage yn awyddus, i fyw drachefn yn y genhedlaeth newydd gynyrfiadau creu.

Gyda chymorth ariannol ei dad-yng-nghyfraith - anghrediniwr di-gapel, gyda llaw - dilynodd tad Euros gwrs addysg am dair blynedd yn Ysgol Baratoi Pont-y- pridd a Choleg Coffa, Aberhonddu.

Canys yn y dyddiau cyn dyfod i feddwl dyn ddarganfod trydan, arferid tynnu'r trenau i ben y bryn gyda chymorth mul.

Mae BBC Radio Cymru wedi parhau i adfywio rhaglenni, gyda chymorth strategaeth farchnata fywiog yn seiliedig ar ystod o ddigwyddiadau a chyngherddau awyr agored yr ymddengys eu bod wedi cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif y mae agweddau eraill ar yr hyn a gyflawnodd y llywodraeth yna, yn enwedig y gwasanaeth iechyd a chymorth i amaethwyr, dan fygythiad.

Dysgai y gall unrhyw un trwy ymdrech fyw'n ddibechod, heb ddibynnu ar ras na chymorth Duw a bod pob un yn dechrau'i fywyd yn y byd â dalen lân i'w lyfr.

DIOLCH: i Gladys Williams, Graig Llan, am fod mor barod ei chymorth i fynd o gwmpas gyda'r Casglu Arian Blynyddol at yr Arthritis.

Aethai'r Cymry i Iwerddon am ganrifoedd i geisio lloches a chymorth, ond try Manawydan at Loegr.

Os alla i ddal fy ngafael yn honno, fe fydd rhywun yn sicr o'm tynnu'n ôl i mewn ar ddec y British Monarch." Wrth lwc, a chyda chymorth y lamp fawr oedd yn goleuo starn y llong fasnach, fe ddaeth o hyd i'r wifren.

Mae'r Gweinidog Materion Cymreig yn gwneud a fedro gyda chymorth adrannau o'r gwasanaeth sifil i hybu'r polisi hwn; nid yn ofer chwaith.

Gyda chymorth teiliwr lleol, daethon ni o hyd i'r fflat lle'r oedd Siwsan a'i theulu'n byw yn y diwedd.

Y patrwm triphlyg: mae'n ymddangos fod peth dryswch yma rhwng esbonio'r Beibl gyda chymorth teipoleg, a'r syniad am Oes y Tad, Oes y Mab ac Oes yr Ysbryd.

Tra mae'r myfyrwyr yn penderfynu sut a pham i newid er gwell fywydau'r dosbarth gweithiol (gyda chymorth ysgrifau Mao yn yr achos hwn), maent yn gwrthod yn lân â derbyn y dylent ystyried eu dyheadau eu hunain gyda'r un trylwyredd.

* gynnal sesiynau adborth cyson yng nghanol ac ar ddiwedd gwersi a fyddo'n rhoi cyfle iddynt: -ddarganfod pa syniadau a chysyniadau sydd yn anodd i'r disgyblion eu meistroli ac sydd angen sylw pellach, -ddarganfod pa unigolion sydd angen cynhaliaeth a chymorth ychwanegol (a hynny mewn amgylchiadau caredicach i'r disgybl na sefyllfa athro-ganolog, ddosbarth cyfan);

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar lythyr a dderbyniwyd gan y Cyngor Sir yn tynnu sylw at swydd newydd a fwriedid ei chreu yn y dyfodol agos gyda chymorth Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop sef Swyddog Rheilffordd Cymuned.

Yn hytrach, erfyna yn ddireidus am ei chymorth i'w diwallu.

Ond ni fyddai perfformiad o'r fath safon yn bosib heb lafur ymroddedig ymlaen llaw gan yr athrawon eraill, a chymorth y mamau dawnus oedd wedi addurno'r llwyfan a'r neuadd yn gelfydd a gwneud llawer o'r gwisgoedd tlysion.

Sylweddolais ei bod hi wedi gwella trwy help meddygol a chymorth gweddi.

Hoffwn gydnabod ein gwerthfawrogiad i'n noddwyr hael, Y Swyddfa Gymreig, Banc Barclays, Cymdeithas Adeiladu'r Alliance and Leicester a chymorth ymarferol Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Theledu AGENDA.

ii) Os yw damwain yn digwydd i berson arall, naill ai ar eiddo'r Gymdeithas neu yn unrhyw le arall o ganlyniad i'r arferion gwaith a gysylltir â'r busnes, yna dylai staff fod yn barod i gynnig help a chymorth cyntaf.

Er enghraifft, credai fod cyfiawnhad tros gynnal pregethu gyda chymorth arian cyhoeddus a phan ddaeth Deddf y Taenu i rym ymunodd pobl Llanfaches gyda brwdfrydedd yn y gweithgarwch.

Mae cynorthwyon technolegol a chymorth personol ill dau yn fathau o gymorth - maen nhw'n rhoi i'r person anabl ffordd wahanol o wneud tasgau trwm sy'n cymryd amser.

Trugarha wrthym a chymorth ni fel y dyrchafer enw Iesu yng Nghymru, er gogoniant i'th enw.