Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chymraeg

chymraeg

Pan oedd hi'n ddeg oed roedd Taid wedi'i gyrru i ysgol breswyl yng Nghymru, er mwyn gwella'i Chymraeg, ac roedd hi'n falch o gael mynd.

Canys trasiedi eironig a chwerw yw Prifysgol Cymru, ffrwyth pennaf deffroad cenedlaethol y werin Gymreig a Chymraeg.

Cyn cychwyn, roedd John Griffith - `Y Gohebydd' i ddarllenwyr Y Faner a phawb arall - wedi gosod ei fwriad ar bapur, gyda'i gymysgedd arferol o gyfeiriadau Beiblaidd, ebychiadau Saesneg, a Chymraeg cartrefol, byrlymus.

Mae cyffro yn y gwynt ac os gwrandawn ni, fe glywn ni bobl yn siarad Ffrangeg, Llydaweg, Eidaleg a Chymraeg hyd yn oed.

Mae blodeugerdd ddiweddar o gerddi Saesneg a Chymraeg, Poets against Apartheid/Beirdd yn erbyn Apartheid - blodeugerdd sy'n cynnwys peth canu cyffredin iawn, iawn - yn profi fod calonnau pobl yn y lle iawn, a'r lle hwnnw nid yn unig o fewn Cymru erbyn hyn.

Arfogi'r athrawon ar gyfer dysgu eu pynciau yn yr amrywiol sefyllfaoedd dwyieithog a Chymraeg sydd yn bodoli yng Nghymru.

Yn 1960 cafodd Mr a Mrs Beasley bapur dwy-ieithog yn hawlio'r dreth leol oddi wrth Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli, a Chymraeg y bil lawn cystal â'i Saesneg.

Wedyn cefais fynd i ddinas a oedd gryn bellter o'r lle yr arhoswn a chefais swper efo boneddiges oedd â'i Chymraeg yn berffaith.

Stadau mawr o dai, a dal i gynyddu mae y tai i bob cyfeiriad, ac mae mwy o Saesneg yn cael ei siarad yno na Chymraeg.

Bydd Gwyneth Evans yn ein diddori ar y delyn ac fe gawn ganeuon Saesneg a Chymraeg gan Gôr Acappella o un o'r ysgolion lleol.

Er mai rhan o'r rhwydwaith cenedlaethol Cymreig a Chymraeg yw stiwdio'r gogledd, bu yma erioed rhyw ymdeimlad o arwahanrwydd ac annibyniaeth.

Cymraeg oedd iaith swyddogol yr Ysgol Sul a Chymraeg oedd iaith y gwersi yn ddieithriad ond eto Saesneg siaradem â'n gilydd fel plant.

Teimlwn bod Saesneg yn dod yn rhwyddach i Len Phillips na Chymraeg.

Yn sicr, dydi meddylgarwch dreiddgar a Chymraeg graenus Gwyn Erfyl, gyda phob gair wedi ei ddewis yn ofalus, ddim yn rhywbeth y mae rhywun yn gweld gormod ohono y dyddiau hyn.

Nid turio i'r Mabinogi a Chymraeg Canol a wnaeth, a chwilio am batrymau fel ysgolhaig, ond ysgrifennu o gyflawnder ei enaid fel Cymro o Lanuwchllyn.

Perthynai i genhedlaeth nad oedd yn cydnabod Cymru a Chymraeg yn ddyletswydd.