Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chymreig

chymreig

Felly, yn ein barn ni, mae'n hanfodol fod y Cynulliad, o'r cychwyn cyntaf, yn cael ei sefydlu fel corff fydd yn gallu gweithredu'n effeithiol i ymrymuso'r iaith Gymraeg a hybu datblygiad cymunedau rhydd, cryf a Chymreig. 01.

Er na fydd tribiwnlys Cymraeg na Chymreig, pan fydd tribiwnlys yn eistedd yng Nghymru ac yn delio ag achos Cymraeg, mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi iddo'r hawl i alw ar arbennigedd Cymraeg ac yn gosod dyletswydd arno i ystyried anghenion penodol plentyn o Gymro.

Credwn fod gan sefydlu'r Cynulliad botensial anferthol o ran datblygu llywodraeth deg a Chymreig ynghyd â hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yng Nghymru.

Roedd y diweddar Raymond Williams, yn fwy na neb, yn ymwybodol o'r tueddiad Prydeinig - a Chymreig, afraid dweud - i osgoi gorfod wynebu cwestiynau dirdynnol ein hoes trwy weu mytholeg briodol o'n cwmpas.

Nid oes amheuaeth mai achlysur Cymraeg yn ogystal a Chymreig yw Eisteddfod yr Urdd.

Mae Bys a Bawd, sy'n fusnes teuluol a sefydlwyd ym 1955, yn arbenigo mewn llyfrau Cymraeg a Chymreig ac yn fusnes sy'n hollol ymrwymiedig i'r iaith Gymraeg a'i diwylliant.