Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chyngor

chyngor

Cafodd ei chynhyrchu gyda chymorth Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Llyfrau Cymru.

Mae sefydliadau trawsewropeaidd wedi hen arfer â defnyddio mwy nac un iaith: yr Undeb Ewropeaidd â'i un iaith swyddogol ar ddeg, a Chyngor Ewrop yn defnyddio pump yn aml.

Edrychaf ymlaen at glywed beth fydd ei chyngor i'w mam ynglyn ag Arian Amcan Un ac yn y blaen.

Daeth yn aelod anhepgor o Senedd a Chyngor y Coleg, a chymerodd ran mewn nifer o ymgyrchoedd yno - ynglŷn â statws y Gymraeg (ymgyrch a'i cleisiodd yn arw), ynglŷn â phrifathrawiaeth y cyn-Brifathro, ynglŷn â phenodiad cofrestrydd newydd; a phan oedd yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau cafodd un ysgarmes enwog ynghylch ad-drefnu.

Ac mae Cyfeillion y Ddaear a Chyngor Diogelu Cymru Wledig hefyd wedi beirniadu'r cynllun adnewyddu am nad yw yn cynnwys unrhyw waith insiwleiddio a bod y tai yn colli cymeriad oherwydd y defnydd o pebl dash a ffenestri plastig gwyn.

Ac yr oedd wynebu ei chwaer Gwen, wedi iddo ddiystyru ei chyngor, yn beth poenus iawn iddo.

Trwy gyd-gysylltu a Chyngor Henoed Gwynedd a'r Uned Hybu Iechyd llwyddwyd gyda'r cais wnaed i'r Swyddfa Gymreig i sefydlu swydd hybu iechyd yr henoed.

Yn aml iawn, caiff pobl eu gwahanu oddi wrth lawer o ffynonellau gwybodaeth a chyngor y mae'r gweddill ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.

Cawsom ddarlithwyr, hyfforddwyr gwych yng ngwahanol adrannau byd amaeth ac y mae llawer brawddeg a chyngor yn canu yn y cof o hyd.

Nid llys na synod na chyngor eglwysig mohono ond brawdoliaeth.

Edrychai pethau'n addawol dros ben iddo ef - pobl o bob plaid ac enwad a chyngor yn fodlon cydweithio a'i gilydd i ennill rhywbeth mawr, sylweddol i Gymru.

Chwarter miliwn o boblogaeth yw'r rhif a ystyrir yn angenrheidiol gogyfer â chyngor sirol.

Rhoddwyd yr holl sector, yn unigolion, yn gwmniau a Chyngor y Celfyddydau mewn cyfyng-gyngor aruthrol.

Cais llawn - adfer a newid wynebau blaen y siopau Rheswm: I roddi cyfle i'r Prif Swyddog Cynllunio drafod y cais ymhellach gyda'r aelodau lleol a Chyngor Tref Pwllheli.

Mae'r Academi a Chyngor y Celfyddydau hwythau wedi chwarae eu rhan ac mae i lenyddiaeth Eingl-Gymraeg rywfaint o le yng nghyrsiau'r Brifysgol.

Ond yma yng Nghymru y cwbl a oedd gennym oedd un diwrnod i Gymru yn y Senedd bob blwyddyn, cyfarfod o benaethiaid y gwasanaeth sifil, a Chyngor Ymgynghorol nad oedd yn cynnwys ond yn unig aelodau wedi eu henwebu gan y Prif Weinidog ei hun.

Wedi gadael Berlin fe beidiodd i raddau helaeth ag ymgymryd ag unrhyw weithgaredd gwleidyddol ac felly nid oes ganddo syniad lle i droi am gymorth a chyngor pan mae'r angen yn codi.

I raddau helaeth ymateb i argymhellion y llywodraeth 'roedd y ffermwr unigol - datblygwyd peirianwaith eang o grantiau a chyngor ac o addysg, yn wreiddiol dan adain Llundain, ac yn ddiweddarach o dan ddylanwad Brwsel a'r Polisi Amaeth Cyffredin (PAC/CAP).

Yn sicr, byddai ganddynt stori i'w hadrodd, a chyngor i'w rannu a fedrai fod o fudd mawr i mi yn bersonol, ac i'r eglwys yn y gorllewin.

Mae rhywun, byth a hefyd, yn cyhuddo cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg a Chyngor Llyfrau Cymru o fod yn swil ac aneffeithiol pan yw hi'n fater o werthu eu cynnyrch.

'Fe glywa'i swn dyfroedd a llifogydd ofnadwy,' meddai hi, 'a swn peiriannau na welodd neb eu bath.' 'Pan fydda'i farw,' meddai hi dro arall, 'gofelwch raffu fy arch ar yr elor.' Ni chymerwyd sylw o'i chyngor ond ar ddydd ei hangladd fe ddychrynodd y ceffylau a dechrau carlamu a phan ddymchwelodd yr elor feirch fe syrthiodd arch Gwenno i lawr i ryw geunant.

Mae pryder gan nifer o gwnmiau am safonau y cnau pys (peanuts) a fewnforir ar gyfer bwyd i adar gwyllt, wedi arwain at sefydlu'r Gymdeithas Safonau Bwyd Adar (y BSA), sy'n derbyn cefnogaeth a chyngor gan y Gymdeithas er Gwarchod Adar a'r Ymddiriedolaeth Adareg Bryneinig.

Ar ran yr eglwys cyflwynodd y Parchedig Huw John Hughes ddeheulaw'r gymdeithas iddynt ac roedd ei eiriau o anogaeth a chyngor yn ysbrydoliaeth i'r gynulleidfa yn ogystal a'r bobl ieuainc.

Derbyniais anrheg ganddi a dymuniadau da a chyngor i fod yn "hogyn da%.

Ymwelodd Dr Tudur Jones, Dafydd Jones Caefadog a minnau ddwywaith â Chyngor Lerpwl i geisio'i annerch.

Gefais air o gyngor hefyd gan un neu ddau o'r blaenoriaid, a chyngor yn siop Glandulyn gan Mr Samuel avies.