Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cicio

cicio

'Byddai mam, wedyn, wyddost, yn hel y buchod i'r llyn, ac yno byddent yn cicio'r mwd o'r gwaelod.

"Edrych arni'n cicio'i choesa'." "Gobeithio na wnaiff y pier 'ma ddim dechra cicio'i goes', 'te," meddai Joni.

Fe wyddoch sut y bydd buwch yn cicio; rhyw bawennu ymlaen yng nhyfeiriad eich pen a'ch bwced.

Wythnos wedi i'r maswr Arwel Thomas adael ei sgidiau cicio at y pyst yn y stafell newid yn Stadiwm y Mileniwm, roedd yn amlwg ei fod eu gwisgo eto ddoe.

Yna aeth o docyn tail gwartheg i docyn gan eu cicio yng ngolau'r ffaglen a hel llond tun o bryfaid genwair.

Yn agor efo riff gitar ac unwaith y mae'r sacsoffon yn cicio, mae'r melodi yn gofiadwy iawn ac yn cylchdroi yn eich pen - catchy, ffres a melodig.

Mae yna lot o gicio yn y stori hon ac os ydach chi ddim yn licio cicio peidiwch â darllan gam ymhellach.

Fel roedd hi, roedd Castell Nedd bron yn cicio'i hunain am ddod o fewn dim i adael y gêm lithro o'u gafael.

Cicio wrtyh i chwi ei godro a chornio wrth i chwi ei gollwng - "Wel diolch i'r nef mai dyma'r tro olaf i mi dy ollwng di% meddwn i ryw fore.

Os ydych chi yn nôl o eich hunan gewch chi letric sioc ac wedun fyddwch chi wedi marw ac nath hi ddweud dim chwara hefo barcud wrth y weiran na cicio pêl i mewn i'r twll yn yr lon pan mae dyn Manweb yn gweithio neu gewch chi eich lichio ym mhell i ffwrdd ac wedun cafodd pawb bresant; gan Paul de-Waart.

'Mae'n siŵr fod na adegau pan nad oeddwn i isio dysgu rhyw adnod ne'i gilydd, fel pob plentyn, ond ar y cyfan doedd 'na ddim cicio a strancio ar fy rhan i,' meddai.

Rwyt wedi dal bwci - os mai dal yw'r gair iawn, gan ei fod yn strancio ac yn cicio fel peth gwyllt.

Efallai ei fod o'n iawn i chwaraewyr rygbi blewog ruthro ar ei hyd a'i led ond doedd o ddim yn gweddu gystal ar gyfer y rhai hynny sy'n cicio yn hytrach na thaflu pêl at ei gilydd.

'Sa fo wedi medru'n cicio ni allan, ein hel ni o 'ma'n basa?'