Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cilfachau

cilfachau

Wrth fynd heibio i un o'r cilfachau ymochel ar y pier fe welson nhw hen ŵr a hen wraig yn eistedd gyda'i gilydd.

Mewn cilfachau creigiog y ffurfir y crisialau gorau.

Y mae ganddynt sawl gwâl yma ac acw mewn cilfachau cysgodol ac fel y try'r gwynt newidiant hwythau wâl i gyfateb i hynny.

Wrth i'r silt waddodi a llenwi'r cilfachau ac yna wrth i dyfiant organig a malurion gau am ffurfiad y llongddrylliad bydd yn cael ei selio a'i hamddiffyn rhag chwalfa bellach.

Y mae yna gred gyffredinol fod yma doreth o ddŵr wedi ei gaethiwo yn rhewllyd mewn cilfachau dyfnion o'i mewn yn union fel y ceir rhew parhaus o fewn y Twndra yma ar y Ddaear o fewn yr Artig oer.

O ran pensaernïaeth yr adeiladau, fe welwch fod cilfachau'r cyfieithwyr ar lefel uwch na'r siambr drafod, er mwyn i'r cyfieithwyr gael gweld yr aelodau i hwyluso'r cyfieithu.

Dechreuodd darnau o graig ddod yn rhydd ac aeth y cilfachau'n llai, ond fe fyddai ar y brig cyn bo hir ...

Cre%odd y plygiadau wendidau yn y creigia ac mae'r môr wedi manteisio ar mannau gwan yma i greu y baeau a'r cilfachau o gwmpas y Fro.

Roedd hi'n gynnes braf yma yng nghysgod y gwynt, y llyn yn ddrych clir, yr awyr yn sidanaidd ac esgyrn eira'n Machio'n y cilfachau.

Yr oedd y sŵn mor felys ac mor lleddf, yn atsain ar draws yr hen gwm, a'r cilfachau'n dynwared y canu a'r wylo, a ninnau'n ochneidio fel mewn llesmair wrth ei glywed .

Gosododd ei dwylo yn y cilfachau, wedyn ei draed.

Cewch olygfa dda o'r cilfachau cysgodol a'r creigiau geirwon.

Fe'i gwelir ar nifer o blanhigion yn ystod yr haf, ar y coesau, tan y sepalau neu mewn cilfachau rhwng dail a choesau.