Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cilio

cilio

Pan oedd pawb wedi cilio i'w cytiau, roedd un o fechgyn y Llynges yn crwydro o amgylch y gwersyll yn chwilio am hoelion a darnau o bren a sachau, ac wedi iddo lwyddo i gael digon o ddefnyddiau aeth ati i wneud gwely bach reit handi iddo'i hun.

`Wedyn fe symudwn ni nhw ymlaen pan fydd yr eira'n cilio.' Roedd Ivan yn siarad â'i gŵn yn aml.

Cyn pen hir fe fyddech wedi hen alaru ar weld prynwr ar ôl prynwr yn cilio oddi wrthych dan regi a cheisio cymryd arno nad oedd newydd gael sioc ei fywyd.

Fel y cwympai'r refs ac y collai'r car ei gyflymiad, gwelai gar Davies a Rogerson yn cilio i'r pellter.

Yr oedd y wasg wedi dechrau brygawthan am 'rwyg' yn y Blaid, ac ateb y Gynhadledd oedd - unfrydedd tros bolisi cydnabyddedig y Blaid."' Nid oedd unfrydedd llwyr, a bod yn fanwl; ond mae'n debyg fod y rhai a oedd yn anghytuno â'r penderfyniad a basiwyd wedi cilio heb bleidleisio ar y cynnig, ar ôl i'r gwelliant a gynigiwyd ganddynt fethu.

Ond erbyn hanner dydd yr oedd yn cilio draw a daeth glaw y prynhawn i'w olchi ymaith.

Roedd yna fygwth go iawn, wrth gwrs, ac nid yw wedi cilio eto.

Roedd y gwrid wedi cilio'n barod a thaflodd ei bag dros ei hysgwydd.

Yn y man, gwelir cyfaredd y ddogma Gomiwnyddol yn cilio fel y ciliodd swyn Gwylan, a'r arwr yn barod am newid arall.

Byddai Morgan Llwyd yn pregethu ym Mhwllheli ar ddyddiau marchnad, a'i arfer oedd myned trwy'r farchnad a'i ddwy law ar ei gefn, a'i Feibl yn ei law; a byddai y bobl yn cilio o'i flaen, fel pe buasai gerbyd yn carlamu trwy'r heolydd.

Roedd y dynion wedi cilio 'nôl i'w gwersyllfa, heb benderfynu sut i weithredu, ond nawr neidiasant ar eu traed a rhedeg, pob un yn ôl ei nerth, tuag at eu gwaredyddion, a'r clwyfedig yn olaf, a'r gwaed o'r rhwymyn trwsgl am ei law ddarniedig yn ddafnau cochion ar y ddaear.

Pan ddaw'r barrug cyntaf, a dail derw a ffawydd glan yr afon fel creision yd, a sgerbydau'r coed yn cyhoeddi cilio o'r haf a'r hydref - dyna pryd y bydd y ddau bysgodyn yma ar eu gorau.

Steve Buscemi (Adolpho Rollo yn y ffilm hon; Mr Pink yn Reservoir Dogs) yn ddelwedd ynddo'i hun - ei wyneb; llygaid pysgodyn, dannedd ymwthiol a gormod ohonynt, gwallt tenau yn cilio o'i dalcen - wyneb hyll yn y bôn ond un nad oes modd tynnu'ch llygaid oddi arno.

Er syndod iddo, doedd y car arall ddim yn cilio o gwbl; os rywbeth roedd yn agosa/ u.

Symudai'n rhwydd, mesur, pellter yn gywir, cilio o flaen neu gydag ergyd a chadw ei ddwrn chwith yn rhyfeddol o gyson yn wyneb ei wrthwynebydd.

'Roedd Rick yn rhy hirben yn y pen draw, ond diolch fod honno wedi cilio dros y gorwel, neu dyn a þyrfaint ei gallu i'w hudo i ddinistr.

Roedd ochrau'r cwm a Chraig y Lleuadau fel pe baent wedi cilio i'r pellter a safai Meic ar wastatir eang a gwyntog.

Ymddengys i Thomas Jones lunio cynllun cadoediad, lle byddai'r ddau drên a gyrhaeddodd nos Iau yn cael mynd trwy'r groesfan, pe byddai'r milwyr yn cilio i'r orsaf am bymtheng munud.

Cyn iddo gyrraedd gartref roedd yr amheuon wedi cilio ac wrth fynd i'w wely'r noson honno edrychodd ar ei gorff yn y drych.

Mae'n cilio oddi wrth glybiau gwyllt y ddinas ac yn cyfaddef mai creadures digon cartrefol yw hi.

Fel y pydrai'r cerpyn byddai'r aflwydd yn cilio.

mae'r corau wedi cilio.

Ond brysia i ddweud bod yr ymdeimlad hwn yn cilio'n raddol, ac nad yw'n gyffredin ond yn rhannau Cymreiciaf sir Frycheiniog erbyn hyn.

Roedd pob atgof o Llio wedi cilio.

Beth bynnag fo tymer yr haul, y gwynt a'r glaw, gellir derbyn fod y rhew wedi cilio o'r tir am gyfnod.

`Mae naws y gwanwyn yn yr aer.' `Rydw i'n meddwl fod y gaeaf yn cilio o'r diwedd.' `Bore Da.' `Braf i'ch gweld chi.' Bore ym mis Mawrth oedd hi ac roedd tref Farnham yn Surrey yn brysur fel arfer.

nid yw'n rhyfedd fod pawb yn cilio ...i'w ffyrdd eu hunain, a chywilydd ganddynt arddel gwaith y dydd...

\Cyfeirir yn Efengyl Ioan a awydd llawer o'r bobl yng Ngalilea am ei wneud yn frenin, ac awgrymir mai dyna'r rheswm pam y mynnai ymneilltuo i le anghyfannedd, cilio i'r mynydd (vi.

A'r rhuo hefyd, yn distewi, yn cilio yn sgil y niwl caredig.

Ond roedd e'n dod, yn dod trwy'r llen, a honno'n gwanhau, a'r cochni'n dechrau cilio'n raddol - na!