Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cinio

cinio

Y Dywysoges Namotto a roes y syniad iddo ar amser cinio un diwrnod pan oeddynt yn mwynhau pryd o wynwyn wedi'u stwffio a chaws llyffant a dail criafol mewn mel gyda saws o neithdar bysedd y cŵn drostynt.

Peidiwch â bod yn hir efo'ch cinio, rhag i ni fod yn hwyr yn yr ysgol." Ni fum yn hir yn llyncu fy nghinio, a phan gyrhaeddais at y gamfa, yno'r oedd Capten yn disgwyl amdanaf.

Ac wrth gwrs bu'n rhaid cael llun o'r cinio.

Pan weithiai ar y meysydd a dyfod chwant bwyd arno cyn amser cinio neu amser te, ysmygai sigaret i leddfu'r chwant.

Tuag amser cinio, roedd hi madam wedi dod at ei hunan dipyn yn ei ffordd galed, gomon i hunan.

Wnâi hi ddim, achos mi oedd hi wrthi'n gosod y cinio allan, a berwi'r dŵr i 'neud te, ac mi oeddan ni'n awchu am fwyd erbyn hynny hefyd.

Erbyn amser cinio, daeth yn amser ffarwelio â'r lle, ac roedd hyd yn oed Dafydd Morgan Lewis yn gyndyn i adael.

Cynhaliwyd cinio Nadolig yn y Clwb a hefyd cafwyd noson o ddathlu, gydag adloniant wedi ei drefnu gan y Pwyllgor Merched.

Ac ar ôl cinio yn yr awyr agored, gall ddawnsio hyd oriau mân y bore.

Wedyn cawsom gip ar waith y Body Shop gyda Lisa Davies, ac yna ar ôl cinio Theatr Gorllewin Morgannwg yn cyflwyno hanes y diwydiant cocos ym Mhenclawdd.

Fel gwyddost ti, ma'r 'Dolig ydisgyn ar y Sul, ac y mae'r awdurdodau goruchel acw wedi trefnu i gael y cinio nos Lun am saith.

Teimlai'n reit sâl wrth weld Huw'n deifio ar lawr i ddangos sut roedd wedi arbed gôl wych yn yr ysgol amser cinio.

Ar yr ochr gadarnhaol, dywed yr adroddiad fod mwy o bobl ifanc yn hoffi cinio ysgol a gwelwyd cynnydd yn y nifer sy'n yfed llaeth sydd a llai o fraster.

Am hanner dydd, cinio, yr unig dro yn yr wythnos y caem gig, a phwdin reis digymar Mam i orffen.

'Nid bob dydd y lleddir mochyn' chwedl f'ewyrth, ar derfyn cinio diwrnod dyrnu.

Yn ystod y gaeaf oer diwethaf gawsom ni oedd hi, ac yn ystod rhyw bythefnos neilltuol o oer, roeddwn i, ac amryw byd o rai eraill gallwn feddwl, wedi dod o hyd i gornel gynnes mewn tafarn diraen ynghanol y ddinas lle ceid bob amser cinio danllwyth o dân ar lawr.

Hi fyddai yn gwneud y pwdin erbyn cinio, a dyna beth oedd pwdins: roly poly, pwdin berw, pwdin y frenhines, heblaw pwdin reis a thapioca.

Ar ôl sglodion a pheint yn Rose Lane amser cinio ddydd Sadwrn, byddai'n amser i fynd draw am y gêm.

Amser cinio daeth un o uchafbwyntiau'r penwythnos.

Amser cinio cafwyd cyfle i dynnu'r sgis, datod yr esgidiau, sythu 'nghoesau, ac, wrth gwrs, diod poeth o 'Le Mumba' - siocled poeth a brandi!

Gwnaeth Anti gyw wedi ei rostio erbyn cinio, ond ni adawodd i mi fwyta'r croen!

Amser cinio - Susie a Scarlet yn galw hefo llond lle o rosys cochion imi.

Cinio a sgwrs yng nghwmni Gwynn Pritchard, BBC Cymru oedd y digwyddiad cyntaf.

Dychmygaf rhyw wyddonydd heb ddim gwell i'w wneud yn cyhoeddi nad yw Sion Blewyn Coch yn mwynhau ieir a ffowls a hwyaid Llyn y Felin ar ei fwrdd cinio.

Gan fod Mam yn rhy brysur ar fore Sadwrn i feddwl am baratoi cinio, byddai Dad yn galw yn y siop sglods ar ei ffordd adre i brynu cinio parod.

Arweiniai'r ymweliad hwn ni at ei hanes fel gwas bach (page boy) yn Llwyngwair gyda'r Boweniaid a'r atgofion am ymweliadau'r teuluoedd o'r Cilgwyn a Stradmore a'r dillad hardd a wisgent wrth y bwrdd cinio lle'r oedd disgwyl iddo weini yn gwrtais.

Gofynnodd am Ceri yn syth, a rhois ei llythyrau iddo Bu'n darllen ac ailddarllen tra oeddwn i'n paratoi'r cinio.

Gofynwyd imi annerch cinio misol o Rotariaid a bu+m yn ceisio egluro dipyn am Gymru yng nghyfarfod y merched pwysig, sef, 'The Daughters of the Revolution'.

Mwynhaodd pawb y Cinio Nadolig ym Mwyty Fronolau.

Erbyn amser cinio 'roedd cricedwyr Morgannwg wedi cyrraedd 183 am bum wiced wedi 42 pelawd.

Cofia, saith o'r gloch nos Lun." Wrth sefyll am foment ar ben y lôn wedi dywedyd 'Nos dawch,' clywn fy nghyfaill Williams yn mwmian canu - "'Does unman yn debyg i gartref." Pan gyrhaeddais gyffiniau Siop y Sgwâr ar noson y cinio yr oedd yn amlwg fod ysbryd y Nadolig wedi meddiannu'r lle.

Ar ôl cinio mynd i siopa o gwmpas y dref.

Wedi cael stamp arnynt ac ymadael â'r llyfrgell aeth y ddwy i ganol y dref i gael cinio.

Un tro pan oedd ewythr iddynt yn tynnu eu coesau, gan ddweud na allent wneud pennill i'r basn cawl, a oedd ar y ford ar y pryd, gan ei bod yn amser cinio, fe Iwyddodd y ddau i lunio'r pennill hwn, a hynny cyn pen winc.

Pe gwelet ti'r bwrdd cinio wedi'i osod, mi 'ddyliet mai'r brenin a'i wraig a'i modryb fasai'n mynd i eista wrtho, a threulio awr a hanner yn dilio-dalio wrth 'i ben o!

Parhaodd y digwyddiadau amser cinio poblogaidd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gyda chyfres o dri chyngerdd ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd, yn cyflwyno cerddoriaeth Gymreig newydd i gynulleidfaoedd.

Amser cinio cyn y gêm yn erbyn Lloegr cawsom y bregeth fwya tanllyd y gallech ddychmygu ganddo.

Fe gyhoeddir yn swyddogol amser cinio mai Graham Henry fydd hyfforddwr y Llewod ar y daith i Awstralia haf nesaf.

Dwi'n lecio Anti Nel yn iawn hefyd, chwara' teg, achos ar ôl cinio mi ddaru hi fynd â fi i weld y Pafiliwn.

Byddai yn mynd i'w wely yn syth ar ol cinio'r Sul i orffwys ac atgynferthu at yr hwyr.

Y noson honno, roedd y cinio'n y gwesty yn ofnadwy a gan nad oedd yr apres sgio yn rhyw ysbrydoledig iawn - gwely'n gynnar amdani i drio gwneud i fyny am ddiffyg cwsg y noson gynt.

Cyrhaeddodd ychydig cyn i'r lori reis gyrraedd gyda'n cinio.

Clwb yr Efail: Cynhaliwydd y cinio blynyddol ddechrau Mawrth yng ngwesty Eryl Mor, Y Garth.

Bu Cinio Nadolig Ysgol Llangelynnin yn bryd arbennig iawn ar hyd y blynyddoedd ac fe gaed pryd traddodiadol yn flynyddol.

Hyderai'r Cadeirydd y byddai mwy o aelodau'r Pwyllgor Rheoli yn medru dod i'r Cinio Nadolig nesaf er mwyn iddynt gyfarfod a'r Cynghorwyr.

Cofiaf rai blynyddoedd yn ol, mewn cinio ym Mangor, wrando ar y gŵr gwadd sef Richard Lloyd, cyn Organydd Eglwys Gadeiriol Henffordd ac yn ddiweddarach Durham, sydd yn awr wedi ymddeol ac yn byw ym Mhentraeth, Mon, yn cofio ei wyliau pan yn fachgen yn Llangairfechan ac yn mynd i un o ddatganiadau Ffrancon a hefyd yn cofio ei garedigrwydd drwy ganiatau iddo ymarfer ar organ wych Eglwys Crist.

Cawsom ein cinio ar yr ochr draw, cyn i'r haul ddiflannu tu cefn i Lliwedd ac i'r oerfel ddechrau gwasgu.

Yr oedd y cynrychiolwyr wedi trefnu cinio a dawns tuag at elw cronfa cynrychiolwyr

Holodd ni'r plant a oeddem ni wedi bod ar gyfyl ystafell Mr Sugden, ond na, gallem gymryd ein llw, ac er bod arni gywilydd mawr o'i hamryfusedd 'doedd dim amdani ond gosod allan liain glân iddo a byw trwy amser cinio ac amser te ac amser swper mewn sachliain a lludw, yn ymwybodol iawn o'i bai ond heb ddweud gair wrth y gŵr gwadd amdano.

Paid â gwrthod, was i ne cinio digalon fydd o i mi." Diolchais yn gynnes i'm cyfaill, yn fwy felly gan nad oedd gennyf olwg am fawr o ddim amheuthun fy hun.

Ond dyma'r eira'n dechrau dod yn blu bach yma ac acw ac ymhen rhyw awr brasaodd a bu rhaid gadael tân braf a llyfr blasus a'r boliaid cinio'n pwyso'n drwm.

Oedden ni'n mynd yn y bore i'r ysgol sul, cwrdd yn y pnawn ar ol cinio, ac ysgol gan ar ol te.

"Mae Stiwart wedi'n gwadd i gael cinio gydag e a Meri fory, os nad oes gennych chi wrthwynebiad," meddai Tom, cyn paratoi at fynd i'w wely - neu 'n hytrach, ei soffa.

Y cinio a'r te yn cael eu cario mewn basgedi efo ni yn y trap mawr, a dada yn taenu canfas o dan gysgod y coed, a mam yn rhoi lliain gwyn "damascus", ar danteithion i gyd ar ben Tan yn cael ei wneud, a'r tecell haearn yn mynd ar hwnw i ferwi dŵr i gael gwneud te.

Amser cinio yr oedd Pakistan yn 97 am dair wiced.

Bydd y penwythnos yn cynnwys pryd canol dydd o sglodion a physgod gyda Mrs OTT (GILLIAN ELISA), cinio'r hwyr gyda'r cogydd, DUDLEY NEWBERY a thaith o gwmpas Stadiwm y Mileniwm yng nghwmni RAY GRAVELL.

Mi ddaru 'na ffrindia' i Anti Nel ddod yn ôl i ga'l cinio efo ni - mae hi'n governess ar blant yn un o dai mawr y dre' 'ma, ac mi ddaru Anti Nel fy warnio fi i fyhafio 'ngora'.

Parhaodd y digwyddiadau amser cinio poblogaidd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gyda chyfres o dri chyngerdd ar ddechraur Flwyddyn Newydd, yn cyflwyno cerddoriaeth Gymreig newydd i gynulleidfaoedd.

Ar ôl cinio a dychwelyd unwaith yn rhagor at gynhesrwydd Pentre Ifan, fe rannon ni yn ddau griw.

'Wedi gaddo mynd adra,' meddai gan estyn ei law am y platiaid cinio a estynnai'r robot iddo.

Cinio yn y bae ac wedyn ymweliad â Stadiwm y Mileniwm.

Ar ôl cinio aeth y ddau i'r lolfa am goffi ac yno roedd nifer o bobl wedi ymgynnull, yn eu plith amryw o Wyddelod lleol gan gynnwys offeiriad llawn hwyl.

Gyda'r cwtogi gan yr Awdurdod nid oedd yr ysgolion yn cael Cinio Nadolig, ond fe sicrhaodd Mrs Jones fod yr ysgol yn cael eu cinio Nadolig Traddodiadol fel o'r blaen yn aml iawn ar ei chost ei hunan.

Yr oeddwn wedi mynd i lawr yn hamddenol braf y prynhawn dydd Gwener, ac ar ôl bwcio fewn i'r gwesty yn siarad gyda ffrindiau cyn cinio ym mar y Belle View Royal Hotel ar y nos Wener heb ofal yn y byd.

Yr oedd y lliain mor glaerwyn, y grefi mor ansefydlog, llygaid Anti Lw a'r misus mor dreiddgar, fel y byddai'n amhosibl bron i mi ddod trwy'r cinio'n ddidramgwydd ac yn ddigonol.

Wrth glirio llestri brecwast, rydan ni'n meddwl beth i'w wneud ar gyfer amser cinio!

Hyd yn oed ar ddiwrnod cyffredin gartref yn Surrey e fyddai Guto'n cysgu'n ddi-ffael am ryw ddwyawr cyn cinio, ac ar ben hynny fe fyddai'n siŵr o hepian cysgu bob tro yr âi i rywle yn y car.

Fe ymolchai o'i gorun i'w sawdl, fe wisgai ei grys newydd ac fe ai i gael cinio.

Yr oedd hefyd yn aelod o Glwb yr Efail ac o Gylch Cinio Bangor.

Bwyta cinio efo'i rhieni.

Yn wir, Ebdon sydd wedi bod ar y blaen y rhan fwyaf o'r amser, ond cafwyd 100 gan y roced yn y ffrâm olaf i'w gwneud yn 4 - 4 amser cinio.

Tra oedd Martha Jones, sef y forwyn fach, yn gwneuthur munudiau trwy gil drws y parlwr, o'r lle y tarddai miwsig â mwg tybaco, anadlwn innau'n helaeth o'r aroglau cinio a ddeilliai'n chwaon hyfryd o'r gegin gefn.

Fe wela i chi amser cinio.

Ond erbyn amser cinio yr oedd Indiar Gorllewin wedi taron ôl ac ar ddechraur prynhawn yr oedd Morgannwg yn 117 am chwe wiced.

Ar ôl cinio rhaid oedd bod yn ofalus rhag smygu yng ngŵydd 'Gwep Babi', a rhoi achos iddo ofyn o ble y cawsom hwy.

Felly 'Nhad oedd yn ymgodymu â'r cinio.

Wrth ddod o'r twll (sef y tan ddaear) un bore ychydig cyn amser cinio, trodd y prif oruchwyliwr i'r stabl ato a gofyn: "Sut fwyd wyt ti'n 'i roi i'r ceffyl ma?" Atebodd hwnnw: "Tebyg i fwyd labrwr." Cymeriad arall oedd Wil Lloyd Penbryn ac ar un adeg yn gweithio hefo dau o'i geffylau yn un o chwareli'r ardal.

Roedd y tîm cartref heb sgorio rhediad na cholli wiced amser cinio.

Morgannwg sy'n batio gynta a'u sgôr amser cinio oedd 111 am dair wiced.

Roedd hi bron yn amser cinio ar y plant yn codi drannoeth.

Wedi cyrraedd adre', cael cinio hefo'r teulu a the a thipyn o swper; wedyn tri o'i frodyr yn ei ddanfon i'r stesion i ddal y trên wyth i Gaergybi.

mae'r haul yn tywynnu ac erbyn amser cinio roedd Morgannwg, ar ôl galwn gywir a dewis batio, wedi cyrraedd 89 am un.

'Wyt ti am ddwad i chwarae'r peiriannau hap ar ôl cinio?'

Gweld sbarion cinio y deryn du ar garreg, cragen doredig malwen.

Bob dydd Nadolig, ar ol cinio, cawn fynd i Trofa at Ifan fy nghyfaill i dreulio gweddill y dydd.

Cael cinio cyn i Kate adael.

A chyda hynny o eglurhad eisteddodd Gruffydd i lawr i fwyta cinio, cinio rhywun arall.

Yna, aeth i lawr i gael cinio.

Yn ei araith groeso ar ôl cinio ganol dydd y diwrnod cyntaf, dywedodd y Maer na wyddai'n iawn beth oedd amcanion y mudiad yr oedd yn ei groesawu, ond ei fod yn credu y byddai'r mudiad yn gwneud gwasanaeth mawr i Gymru pe gallai beri i'r byd alw Brythons arnom yn lle Welsh: cawsai ef brofiad chwerw mewn busnes am fod yr un gair Saesneg yn enw ar y Cymry ac yn ferf a oedd yn golygu twyllo.

Dyna pryd mae'n debyg yr hysbyswyd Gwesty'r Hand yn Llangollen o'r union nifer a fyddai angen cinio yno.

Mi fydd y cinio'n barod yn union, os bydd o'n barod byth.

Mynd i'r neuadd fwyta amser cinio a gweld Mabel a Steven, un o fyfyrwyr Kate.

Ar ôl cinio, mynd i siopa unwiath eto yn Yiyang.

Ar ôl i bedair o wicedi Sri Lanka syrthio cyn cinio rhannodd Mahela Jayawardene a Russel Arnold 142 am y bumed wiced.

Boddwyd dau lanc o Wyddelwern toc ar ôl cinio, sef Roberts a Hughes.