Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cip

cip

Cip ar Gastell-nedd

Gall ffermwr o'r trydydd byd fod yn ffigur niwlog gyda'i broblemau a'i obeithion yn ddieithr iawn inni - ond wedi inni weld ei wyneb yn eglur a chael cip ar ei deulu a'i gartref a'i gefndir yna daw yn berson y gallwn ddod i'w adnabod.

'Cymer di ofal o hwnna,' meddai Mr Williams gan droi a rhoi cip ar Dilwyn yn y cefn.

Tyd imi gael cip.'

Tyd imi gael cip.' Gwthiodd Elen ei brawd o'r neilltu ac ysgwydodd y llwyn yn synllyd.

Mae'n amheus faint hyd yn oed o'r graddedigion diwinyddol a welsai gopi cyflawn o'r Beibl erioed namyn cael cip ar ddarnau ohono, neu lyfr unigol fel y Sallwyr, ynghyd â phob math o ddeunydd eglurhaol ac esboniadol o gwmpas y testun ei hun.

Gyda golwg ar y tair stori a leolir ym Morgannwg, straeon am gyfnod y Streic Fawr yng nghanol y dauddegau ydynt; ac yn un ohonynt, sef yn 'Gorymdaith,' teflir cip yn ôl ar y cyfnod yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddaethai hen dadcu a hen famgu Bronwen i'r cymoedd am y tro cyntaf, 'wedi teithio mewn cert o Sir Gaerfyrddin.' Un o ferched Arfon oedd Kate Roberts wrth gwrs - ni chaiff neb anghofio mai yno y'i maged: Arfon (fel y gwelsom) oedd y magned a'i tynnai hyd yn oed ar ei gwely angau - a chan mor gysa/ ct a thriw y portreada hi fywyd y werin-bobl a drigai yno, ei llenyddiaeth hi yw'r nesaf peth at hanes cymdeithasol bro'r chwareli a luniwyd erioed.

Oddi ar falconi gwelwn bobl a phlant yr ardal yn syllu trwyr ffens metal gan obeithio cael cip ar unrhyw sêr wrth iddyn nhw gyrraedd.

Mae shiap bwa'r plu yn torri ar hirsgwar y ffenestr, ac ochr potel ar grymedd powlen, ac yna trwy'r ffenestr a'r cip o gwmwl mae awgrym am ryw dirwedd deniadol tu draw.

Ond roedd yn ddigon diogel i fynd heibio'n ddidaro a thaflu cip cyflym.

Ond nid oherwydd y bygythiad, yn gymaint ag oherwydd cyfoeth operatig y llais yr ufuddhaodd hi yn y bôn, a chyn agor y drws, trodd ei phen i roi cip arni ei hun yn y drych ar y silff ben tân.

Ar ei ffordd i lawr i'r ystafelloedd ymolchi ar ddiwedd y dydd aeth am dro o gwmpas y Neuadd Ymgynnull i gael cip slei ar hysbysfyrddau'r tai.

"A phe bai unrhyw un ar y rhostir yn ystod yr ychydig funudau hynny, mi allai weld yr olygfa ryfeddol hon a chael cip ar y trysor," meddai'r ych.

Oes 'na bosib i mi gael un cip bach arni ar ôl cyrraedd Karachi?" Gwenodd y Cadfridog.

Gellir ymgorffori perfformiad yr Artist neu ran ohono mewn Dilyniant Agoriadol neu Ddilyniant Cloi neu i Raglen arall yn yr un gyfres fel Cip-yn-ol neu Gip-ymlaen drwy dalu tal ychwanegol (gwweler Atodlen A).

Daeth ac aeth y tren a oedd yn anghysurus o lawn, er annifyrrwch i Hector a fethodd a chael sedd gyfleus yn nesaf at y ffenestr eang, er iddo gael cip siomedig ar berllannau Caint.

Mae Malcolm, a'i rieni yn gwerthfawrogi yn fawr iawn y gofal cyson gan y meddygon, y gweinyddesau ynghyd a'r timau o arbenigwyr sydd wedi ei arwain o gysgodfeydd y glyn at ffiniau y copaon, ac i gael cip olwg ar amser gwell iddo.