Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clamp

clamp

Os medrwch chi gadw wyneb syth yn ystod yr eiliadau nesaf mi fyddwch chi'n haeddu clamp o fedal.

Clamp o wledd y noson gyntaf.

"Wel, yn ôl yr hanes, o dan y cerrig hynny y mae clamp o drysor.

Ond ddiwedd yr wythnos hon y llynedd pan oeddwn ar wyliau yn yr Alban yr oedd yno goblyn o le wedi i hogan bedair ar bymtheg oed redeg bron yn boeth at Tiger Woods ar ddeunawfed grîn y Scottish Open a rhoi clamp o sws iddo fo a dawnsio o'i gwmpas.

Yn nhawelwch y Lotments un noswaith, a'i hoff arddwyr o'i gwmpas yn drist eu hwynebau ac yntau'n dal clamp o wnionyn braf yn ei law, cymerodd y Brenin Affos lw y gwnai ei orau i gadw'r wnionyn a'r Lotments rhag dinistr dan law'r datblygwyr.

Wedi i'r fflach o olau gilio, gwelodd gyda syndod ei fod yn sefyll yno gan ddal clamp o gleddyf addurniedig, a gemau lliwgar ar ei charn, a'i llafn mor ddisglair nes ei bod yn goleuo'r gell gyfan.

Ond o'r diwedd, fel hwylbren gobaith o dan y gorwel, fe ddaeth clamp o laethwr ffyddiog heibio.

Eleni, mae clamp o goeden yn sefyll yn browd yn ein lolfa da Santa yn ei choroni yn hytrach na'r angel arferol.

Roedd yr hynaf wrthi'r diwrnod o'r blaen yn codi clamp o gastell a'i addurno â cherrig a gwymon ac yna gwneud ffos o'i gwmpas yn barod i ddal dŵr y môr yn dod i mewn?

Cyn iddo gael ei flasu o ddifrif, camodd clamp o gawr crand ato a holi ei fusnes yno.

Clamp o adeilad crand yn neuadddau mawreddog i gyd gyda phob math o chwaraeon, restaurant neu ddau, dau neu dri o farau a pharc moduron i gymryd y gweddill o'r tir.

Nid yn unig hynny cafwyd clamp o berfformiad gan Maryna Vyskvorkina soprano o'r Iwcrain.

Rhaid prynu clamp o gerdyn yn dangos golygfa ganoloesol yn yr eira gan Breughel yr ieuenga'.

Cyn bo hir gwelir cyhoeddi clamp o nofel gan Rhydwen Williams yn ymdrin a helyntion personol a chyhoeddus y frenhiniaeth yn y cyfnod cythryblus hwnnw, sef Liwsi Regina.