Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cleddyf

cleddyf

Bydd traean o'th bobl yn marw o haint ac yn darfod o newyn o'th fewn; bydd traean yn syrthio trwy'r cleddyf o'th amgylch; a byddaf yn gwasgaru traean i'r pedwar gwynt ac yn eu dilyn â'r cleddyf.

"Wel," medd y milwr gan dynnu ei gleddyf o'r wain, "efallai ei fod yn farw, ond gwell i mi wneud yn siŵr," Mae'n codi'r cleddyf uwch ei ben ac ar fin dy drywanu pan wyt yn troi'n sydyn, yn codi dy goesau ac yn ei gicio yn ei stumog.

Llosga draean ohono mewn tân yng nghanol y ddinas pan ddaw dyddiau'r gwarchae i ben; cymer draean a'i daro â'r cleddyf o amgylch y ddinas; gwasgara draean i'r gwynt, ac fe'i dilynaf â chleddyf.

Syfrdanwyd y crwydryn a dychrynodd drwyddo wrth weld y bachgen bach annwyl o'i flaen yn tynnu cleddyf o'i wain i'w fygwth yntau.

Bryd arall codwyd ofn arno gan ddyn cas yr olwg a ddiflannodd yr un mor barod pan fygythiodd Idris ef â'r cleddyf.

Roeddet yn ofni y byddai golau dy ffagl yn tynnu sylw'r milwyr, ond fe fyddai'r golau wedi dy alluogi i weld y cleddyf miniog a oedd yn hongian o'r nenfwd.

'Fe deflaist y cleddyf?'

Bu'r un mor barod i daro cleddyf â gweinidogion Ymneilltuol, a chyd- weinidogion o fewn ei fudiad ei hun.

Wedi i'r Beirdd ymgynnull wrth y maen, gweiniwyd y cleddyf ganddynt ac eglurodd y 'datgeiniad', sef llywydd y seremoni, Iolo Morganwg, na fyddai'r Beirdd yn arfer cario cleddyf noeth yng ngŵydd neb ac na fyddent yn caniata/ u i neb gario un yn eu gŵydd hwythau ychwaith.

Roedd y cleddyf mor drwm nes bod raid iddo ddefnyddio'i holl nerth i'w ddal...

'Cleddyf Islam' yw'r enw a roddodd i'w fab hynaf.

Y funud nesaf roedd y cleddyf yn fflachio yn llaw Idris.

Bydd yn rhyfedd iawn os na chewch rywbeth yn yr agoriad: hiraeth melys rhyw salm; callineb bydol bachog rhyw ddihareb; ysblander gweledigaeth proffwyd neu ddifinydd; stori brydferth swynol neu bryd arall stori erwin frawychus; brathiad cleddyf neu foesegwr di- dderbyn-wyneb a yrr eich hunangyfianwder ar ffo; murmuron tawel a leinw eich enaid a hedd.