Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cloddiau

cloddiau

I gadw'r gelyn a'r bwystfilod allan, codid cloddiau cedyrn o bridd a cherrig o gwmpas y ddinas, a ffosydd tu hwnt i'r cloddiau; Byddai i bob amddiffynfa ddwy ran, un at gadw'r anifeiliaid a choed tan a phethau eraill, ac un arall gadarnach i'r bobl fyw ynddi.

Nid fel y mae heddiw, pan geir peiriant i'w frwsio ac i'w chwythu ymaith dros y cloddiau ac un dyn yn ddigon i'w reoli.

Heddiw mae'r olygfa wedi newid llawer, yn lle'r caeau bach a'r mynydd a'r cloddiau cerrig shêl - mae'r 'coed duon' yn erwau ar erwau o binwydd - sbriws sitca rhan fwyaf...

Yn y lôn a'r gerddi hyn ymgasglai pawb a oedd wedi dilyn y trên ar hyd y cledrau a phennau'r cloddiau.

Y mae hi'n briodol dweud mai un o'r rhesymau pam y llwyddodd y Gymraeg i oroesi cyhyd yw am ei bod wedi llewyrchu am flynyddoedd lawer rhwng cloddiau amddiffynnol rhai peuoedd (domains) arbennig a fu'n noddfa gadarn iddi.

Yn drystiog, trodd y fyddin i lawr y ffordd gul gyda pherthi uchel yn tyfu ar ben y cloddiau bob ochr iddi.

Gwarchod pawb, nacia, nid y fo ddaru gorddi'r môr a'i chwipio fo dros ben y cloddiau i ganol y tai.

Ffurfir y glannau neu'r cloddiau bychain o bobtu'r afon yn naturiol wrth i'r afon ollwng gwaddod ger y sianel pan fydd yn gorlifo.

Ifan: O'r borfa ar y cloddiau a'r twmpathau ar y gors fe gliriwn y rhent ag ŵyn-tac ac ebolion, pob llwdn fel ebol, a phob poni fel march erbyn y Gwanwyn .

Erys colofnau creithiau'r caledwaith yn y cloddiau, y cwteri a'r chwareli, gyda chaib a rhaw, bwyell a phladur, cyllell a llwy, heb sôn am fwa saeth y rhai o'u blaen hwy; ac eto fe fynnwyd rhoi amser i'r Achos a'r achosion.

Yr oedd yr hen Ymwahanwyr - pobl Robert Browne a Henry Barrow, y bobl yr ymunodd John Penry â hwy - wedi codi cloddiau pur uchel i'w gwahanu eu hunain oddi wrth bawb arall.

Ceir nifer o gaeau bychain o dir glas niwtral a bylchau culion rhwng eu cloddiau pridd.