Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clogwyni

clogwyni

Rwy'n hollol sicr fod y meddwl dynol dan straen fawr pan fo'n ymgodymu â materion nefol uwch clogwyni Deall.

Ar lan y môr, mae pobl yn penderfynu eu bod nhw'n mynd i ddringo'r clogwyni, yna hanner ffordd lan maen nhw'n darganfod na fedran nhw ddim mynd i fyny nag i lawr.

`Does dim modd ei weld e o fan hyn,' atebodd plismon, `ond mae e tua hanner ffordd i lawr ar silff fach.' `Y clogwyni hyn yw rhai o'r rhai gwaethaf yn y cylch,' meddai Reg.`Mae'r garreg yn briwsioni dim ond i chi edrych arni hi.

Mae'r clogwyni ger Trwyn y Witsh yn werth eu gweld oherwydd mae'r haenau o garreg galch a siâl Lias yn llawn o ffosiliau Gryphea yn ogystal ag amonidiau a nautiloidiau.

Sugnodd i'w gyfansoddiad yr olygfa wrth syllu ar y clogwyni llwydwyn y tu ol iddo, a rhythu'n obeithiol tua Ffrainc.

Hwylio ar wyneb y ceudwll oeddan ni, gan edrych i fyny i ben y clogwyni lle mae trefi bychain gwyngalchog yn disgleirio yn yr haul, fil o droedfeddi uwch ein pennau.

Cyrhaeddodd y gwesty ar ben y clogwyni ymhen hanner awr.

gwelodd ellis owen ar unwaith na allai yn ei fyw ddal gafael yn hir cyn cael ei lusgo gan y lli erchyll a 'i hyrddio yn erbyn y clogwyni yn is i lawr.

Mae gwaith anodd o'n blaen ni.' Aeth y tîm achub i safle ar y clogwyni a oedd yn union uwchben y bachgen.

Fe'i gwelais gyntaf un min nos braf ym mis Mehefin ar dir sych uwch clogwyni'r môr ym mhen dwyreiniol yr ynys.

Mae'r clogwyni yn mynd yn uwch wrth i chi gerdded o aber yr Ogwr, ac yn dechrau ger y clogwyni isel mae'r creigiau Triasig yn gorwedd ar y Garreg Galch Carbonifferaidd.

Wrth symud ymlaen tuag at Gaergybi, mae modd gwylio fideo o adar y môr yn hedfan ac yn nythu o gwmpas clogwyni Ynys Lawd, gyda'r goleudy'n cadw golwg gerllaw.

Ac yno'r ydwyt tithau - a myfi, Am byth yn chwerthin, tewi, a thristau, Ac yno mae'r clogwyni, a'r niwl yn niwl, A Medi'n Fedi o hyd, ac un ac un yn ddau.

Byddwn yn eich argymell i gerdded ar hyd y traeth hir cyn belled â Lavernock er mwyn gweld y modd mae'r graig Rhaetic o'r cyfnod Triasig yn gostwng yn y clogwyni i lawr i'r traeth.