Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cludiant

cludiant

CYNIGION: Ceir cryn bosibiliadau ar gyfer parhau i ehangu defnydd cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd, yn ogystal â thargedu adnoddau'n fwy soffistigedig tuag at y grwpiau a'r unigolion hynny a fyddai'n gwneud y defnydd gorau arno.

EFFEITHIAU: Yn fras, gellir rhannu effeithiau fel a ganlyn:- llai o lygredd a thagfeydd traffig, llai o alw am gerrig mâl, gwell ansawdd bywyd yng nghefn gwlad a hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r amgylchedd drwy gynllunio teithiau cludiant cyhoeddus i hybu canolfannau ymwybyddiaeth o'r amgylchedd.

Agwedd Ragweithiol: Cymera'r Adain hon agwedd ragweithiol tuag at ddarparu rhwydwaith cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd sy'n integreiddiedig ac yn gynhwysfawr.

Mae'r problemau hyn yn codi yn bennaf o ganlyniad i werthu uniongyrchol o'r canolfannau mewn achosion lle mae cost cludiant yn ddrud iawn, a hefyd yng nghyswllt Cynllun Adnoddau CBAC oherwydd bod effeithiolrwydd y system yn dibynnu ar swyddogion yr Awdurdodau sy'n gyfrifol am y dosbarthu i'r ysgolion.

Hi oedd modd cludiant popeth o gerrig i lwyth o ddodrefn ar adeg mudo ym mân dyddynnod y mân bentrefi.

Yn ddefnyddiwr cadair olwyn, bu'r cyn-athro o Ddwyran, Ynys Môn, yn ddiwaith am gyfnod hir cyn cael swydd - gan weithio o'i gartref - yn trefnu cludiant i bobol anabl eraill sydd heb ddefnydd car.

Ychwanegir £2.00 (cost cludiant) at bob archeb.

Eto i gyd, oherwydd costau cludiant, does dim gobaith dosbarthu'r bwyd i bobl anghenus y wlad.

Cadeirydd pwyllgor streic y gweithwyr cludiant oedd Mann, syndicalydd enwocaf Prvdain.

(c) Ymgynghoriadau ynglŷn â ffyrdd a thrafnidiaeth gan gynnwys polisi%au cludiant, gyda'r hawl derfynol i wneud argymhellion i'r Cyngor Sir neu'r Ysgrifennydd Gwladol neu unrhyw berson neu gorff arall.

Gwasanaethau Staff: Noda'r Adain fod yr Awdurdod yn gwario mwy o arian ar annog ei staff ei hun i ddefnyddio cludiant preifat nag ar ddarparu cludiant cyhoeddus i'r Sir yn ei chrynswth.

Os yw'r niwed gyfryw fel bod gofyn i'r aelod o'r staff gael cymorth a/ neu sylw parhaus yna fe fydd yr aelod uchaf o'r staff sydd ar gael yn penderfynu p'un ai i drefnu cludiant neu alw am ambiwlans.

Anghenion arbennig: Mae enghreifftiau o'r gwaith hwn yn cynnwys y Fforwm Cludiant, cludiant addysg, cludiant i grwpiau o fewn diffiniad daearyddol, sicrhau cyd-drefnu rhwng gwahanol ffurfiau ar deithio.

Oni chytunir yn wahanol bydd cost cludiant cyhoeddus am deithio ail ddosbarth.

Dim cymorth, dim cludiant, dim cyngor, dim cydymdeimlad.

Danfonid y pennill ar y dydd olaf o Chwefror a hynny heb dâl cludiant.

Y mae stryd brysur o ansawdd amgylcheddol is na stryd dawel Y mae cyfyngiad ar gyflymdra hefyd yn golygu gwell amgylchedd Y mae cludiant cyhoeddus yn rhoi cyfle i bobl leol beidio â defnyddio eu ceir Y mae parcio oddi ar y ffordd yn creu gwell amgylchedd