Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clyfar

clyfar

Fe honnodd mai "datganiad clyfar" ond disylwedd oedd cyhoeddiad diweddar y llywodraeth ynglŷn â diogelwch.

Cŵn clyfar

"Hwyrach ei fod yn ddigon clyfar i ddod o hyd i drywydd ysbryd!

Ond mae'r cyfan, trwy ffilmio clyfar, yn digwydd rhwng y gwydrau ar poteli ar wyneb bar y mae cwsmeriaid yn yfed wrtho.

Mae llawer o'n hacademwyr lleiaf wedi mynd i gredu hyn eu hunain, a dyna sy'n cyfrif fod cymaint o rigymu pert, eithaf clyfar o ran techneg, ond er hynny heb ronyn o welediad.

Bois caled, clyfar, mentrus yden ni eu hangen.

Roedd yr ewyrth clyfar hwn yn ŵr pwysig yn Llundain yng ngwasanaeth y brenin ei hun, ac roedd yn hoff ohoni hithau.

Ond roedden nhw'n methu'n lan a deall pam roedd y Romans clyfar yma yn molchi a mynd i byllau nofio mor aml a hithau mor wlyb bob dydd.

Fel roeddwn yn dweud, gwnaeth y ffilmio clyfar argraff ddofn.

Hyd yn oed yr adeg honno yr oeddem yn cael anhawster derbyn fod yna rai merched clyfar a rhai merched twp yn union fel ag y mae yna rai bechgyn clyfar a rhai bechgyn twp.

Cyn iddo fedru meddwl am ateb clyfar teimlodd Bleddyn rywbeth yn tynnu ar y lein.

Llygaid bywiog, clyfar, trwyn hir, mwstas a oedd, fel popeth arall, yn tynnu am i lawr, ceg a wenai'n sur.