Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clymu

clymu

"Rhywun wedi clymu wifren gref ar draws y ffordd o un goeden i'r llall!

Yn hytrach, cwmpasai holl oblygiadau perchtyaeth yn yr union ffordd y bu i lys y brenin daenu ei warchodaeth dros holl ddeiliaid y deyrnas ac amddiffyn eu buddiannau gorau, sef sicrhau heddwch a threfn a fyddai'n hybu cynnydd a golud gwlad ac yn clymu'r deiliaid hynny'n fwy ffyddlon i'r frenhiniaeth.

Roedd y cynllwynwyr eisoes wedi clymu honno wrth simdde'r fflatiau.

Tynnodd Jabas lun arall cyn clymu'r cwch wrth hen fodrwy haearn rydlyd.

Yn aml byddai ffermwyr yn clymu darn o'r pren i'r aradr neu'r chwip fel na allai'r un wrach witsio'r anifeiliaid.

Cofio fel oedd ei mam yn hel ei dilladau i'r trynciau ar frys a'r tad yn clymu y ceffylau wrth y wagen a'r trap i ffoi am ei heinioes fel y dywedodd Eluned yn "Dringo'r Andes".

Efallai mai rhyw flas gwrthgyferbyniol, tebyg i hwnnw sy'n ddolen gysylltiol rhwng melys a chwerw neu rwng gwir a gau, sy'n eu clymu ynghyd a'u dwyn yn unsang o flaen llygad fy meddwl.

Beth bynnag yw'r sefyllfaoedd, dylid eu clymu wrth y tyfiant patrymol hwn.

Yr hyn oedd yn clymu'r cynrychiolwyr oedd eu diddordeb a'u profiad o faes addysg yn y blynyddoedd cynnar, sef addysg i'r plant ifancaf.

Yn y gynhadledd cytunwyd ar ddau dealltwriaeth, un ohonynt ar Newid Hinsawdd sy'n ymdrech i reoli y difrod i'r atmosffêr, a'r ail yn Ddealltwriaeth ar Amrywiaeth Bywydegol (Biodiversity) - sy'n clymu llywodraethau'r Byd i amddiffyn ein rhywogaethau lu.

Gynted ag yr oeddent wedi clymu'r rhaff, i ffwrdd â nhw ar draws gwlad am ffin Ffrainc, gan fwriadu dal i fynd ddydd a nos nes cyrraedd adref.

Paid clymu dy hun.

O dan 'cynnwys' sonia am y llinynnau sy'n clymu dynion - (a) iaith gyffredin, (b) tir cyffredin, (c) diwylliant cyffredin, a (ch) bywyd economaidd cyffredin.

Rhai'n clymu rhaffau'n ddiogel a'r lleill yn rhoi sylw i bopeth symudol oedd allan yn yr awyr agored.

Ers talwm roedd yr arferiad i olchi rhan briwedig o'r corff gyda cherpyn a dŵr y ffynnon ac yna clymu'r cerpyn i frigau'r ddraenen.

20,000 o ferched yn clymu dwylo ac yn amgylchynu gwersyll Comin Greenham mewn protest yn erbyn gosod 96 o daflegrau Cruise yno.

Ar ôl clymu'r wifren wrth ei gar yn ddiogel edrychodd y ffrind tuag at y wal un droedfedd ar ddeg o uchder yn bryderus.

Tri thei o'r dror acw, wedi eu clymu yn ei gilydd oedd am ei gwddf" Gwaethygodd y briwiau bob awr ar garlam gwyllt.

Cofiaf y deiagramau a luniais yn ystod gwersi sych yn dangos union safle'r tanciau a sut y dylid clymu hen ddrws arnynt.

Yr oedd Anghydffurfiaeth Gymraeg yn clymu'n undod wlad a thref.

Roedd Thomas a Gomer wedi clymu'r waliau yn ei gilydd yn grefftus ond roedd hyd yn oed eu crefft hwy'n annigonol i rwystro ambell grac rhag amlygu'i hun.

Roedden nhw'n eu clymu eu hunain am ei gorff fel rhaffau byw.

Ar yr un pryd, mae ysbytai ar hyd a lled Cymru'n gwario degau o filoedd o bunnoedd ar drefniadau diogelwch, o dagiau i'w clymu am goesau'r babanod i gamerâu a drysau diogelwch.

Gobeithio fy mod wedi clymu'r plu a'rblaen llinyn yn iawn.

Ond mae mor hawdd siarad, clymu stribed o eiriau ystyrlon at ei gilydd heb ddweud dim byd sy'n golygu dim yn y diwedd.