Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clywaf

clywaf

Ar ôl diolch am allu i'w fwyta, clywaf ef yn dweud, "Er i mi dreulio bron i hanner can mlynedd ar y môr fy hoff sŵn yw si awel ysgafn dros barc o geirch aeddfed." Credaf fod gwên radlon yr "hen Grynwr" ar y bocs ceirch yn ysbrydiaeth iddo hefyd.

Dewis cyntaf RT yw 'y Beibl wrth gwrs': Clywaf chwi'n murmur y byddai detholiad o'r Beibl yn hwylusach ac yn well.

Yn yr ardal lle'r wyf yn byw yn awr clywaf y genhedlaeth hynaf yn cyfeirio yn aml at y dioddef a'r cyni a brofasant y dwthwn hwnnw.

Os clywaf ar y radio fod heddwch yn teyrnasu yng Ngogledd Iwerddon, y Dwyrain Canol a mannau eraill yn y byd, fe fydda' i fel Tomos yn amau'r ffaith, er mai dyna fy ngobaith a'm dymuniad.