Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clywais

clywais

Ar unwaith distawodd y lleisiau fel swits Hwfer yn cael ei ddiffodd ac ar ol eiilad neu ddwy clywais gadair yn cael ei symud.

Fwy nag unwaith fe'i clywais yn treulio dros awr heb nodyn o'i flaen yn esbonio, yn dadansoddi, yn rhybuddio ac yn canmol.

Clywais wahanol farnau am wahanol lyfrau'r awdur.

"Wyt ti wedi clywed honno am y ras rhwng y crwban a'r ysgyfarnog?" "Do, siŵr," meddai un arall o'r plant/ "Clywais i honno pan oeddwn i'n ddim o beth." "Debyg iawn, debyg iawn - a beth mae'r stori fach honno wedi ei ddweud wrthyt ti?" "Mae hi'n bwysig dal ati," meddai un o'r merched.

Er pan oeddwn yn hogyn clywais drigolion Uwchaled yn sôn yn aml amdano, a hynny gyda pharch ac anwyldeb.

Clywais ddweud y bu hwn yn fynydd-tanllyd unwaith a bod ei greigiau lliwgar yn profi hynny.

Clywais i fy nhad yn dweud ei fod wedi anfon gair at ddyn o'r enw Rhisiart Roberts yn Washington ynghylch cael gwaith iddo yno.

Mae pethau erchyll wedi digwydd yn y byd ers hynny.' 'Clywais rywbeth am y .

'Aderyn ...' clywais hwy'n sibrwd, '...aderyn brith, aderyn corff, aderyn pêl, aderyn y ddrycin, aderyn yr eira ...' Yr oedd y rhestr yn ddiddiwedd.

Clywais droeon am yr hen orchymyn i ni beidio â chyffwrdd mwyar duon ar ôl bydd Calan Gaeaf.

Rhai gweithiau eraill fe'i clywais yn ddigalon.

Clywais ewythr o gipar yn dweud fel y bu i ryw hogyn a weithiai gydag o ddal ffwlbart mewn magl gwningod.

Clywais mam a nhad yn sôn llawer amdanynt.

Mewn dosbarth nos yn Llanfairynghornwy, Môn, y clywais i gynta am y broffwydoliaeth ryfedd honno a oedd yn darogan diwedd y byd yn 'un naw naw un'.

Yn ddiweddar clywais un oedd yn newydd i mi gan ffermwr o Ben Llyn pan soniai am yr amser priodol i ddechrau trin y tir yn barod i hau ar ol aredig.

Gellid cyfeirio, fel y clywais fy nghydathro Trefor Evans yn gwneud, at yr enwau Macabeaidd ymhlith y Deuddeg Disgybl - y mae mwy nag un Simon a mwy nag un Jwdas - ac ychwanegu fod enwau Groeg hefyd yn eu plith (sef Andreas a Philip).

Lawer tro y clywais nhad yn dweud ei fod am anfon map i Manweb er mwyn iddyn nhw ffeindio'i ffordd i Fodffordd.

Clywais ef yn dweud iddo eistedd oriau wrtho'i hunan ar y bryn a elwir 'The Hill of Tara' - hen gartref Uchel Frenhinoedd Tara - yn myfyrio am hen orffennol y genedl Wyddelig, a bron, meddai ef, na allai weld yr hen ogoniant yn rhithio o flaen ei Iygaid wrth eistedd yno.

Ond wrth fynd drwy'r rhes negeseuon ar y peiriant ateb wedi dychwelyd i'm gwaith clywais lais Ffrengig Claudie Moyson yn fy atgoffa imi gytuno i ofalu am ‘gynrychiolaeth' o Lydaw fyddai'n dod i Gaerdydd i ddysgu popeth am deledu lleiafrifoedd.

Clywais rywun yn dweud unwaith fod llethrau'r cwm lle saif Pontycymer mor serth nes bod modd i drigolion y naill ochor ysgwyd llaw â phreswylwyr y tai ar yr ochor arall.

Clywais ambell adlais o'r cythrwfl a ddilynodd cyhoeddi'r cyfrifon am gyfnod go hir cyn iddynt dawelu.

Prin y clywais unrhyw un o hen drigolion y Cei yn siarad Saesneg.

Clywais i'w ysgerbwd ef ddod yn ddiweddarach yn eiddo i feddyg yn Nhalarfor, Llanystumdwy, a gallaf innau dystio'n ddibetrus imi weld ei benglog gan D.

Wrth i'r merched ddringo i'r llwyfan i dderbyn eu tystysgrifau, clywais fy enw i'n cael ei gyhoeddi.

Clywais Mam yn dweud lawer gwaith fel y byddai Hannah Jones, a oedd yn byw drws nesa', yn gweiddi arni: 'Jane, well i chi fynd i nol yr hogyn bach 'na.

Clywais leisiau yn y cyntedd oddi tanaf, ond ni ddaeth neb i fyny'r grisiau.

Y tro diwethaf y clywais yr opera, yr oeddwn yn grwt dwy ar bymtheg, a chefais y fraint o'i gweld yn cael ei pherfformio yn yr Opera yn Paris.

Ymhen ysbaid, daeth rhywrai i fyny'r grisiau dan sgwrsio, clywais fy enw, ond dyna'r cwbl a ddeallais; dau athro ifanc oedd yno.

Clywais mai 'Y Rhyfel Cartref Ewropeaidd' yw enw'r Tsieiniaid ar yr Ail Ryfel Byd.

Clywais ef yn sôn gyda chryn siom am yr arferiad o urddo pob ysgrifennydd cyffredinol yn aelod o'r Orsedd ar ddiwedd ei yrfa.

Clywais y bloeddio'n codi'n uwch ac yn uwch.

Trwy'r lluniau hynny y clywais gyntaf am Ryfel Cartref Sbaen a'r Maes Cenhadol yn yr India; ac yn hynny o beth yn sicr fe roedd JH yn flaengar.

Clywais blîp undonog unarddeg ar fy oriawr.

Efallai, fe'i clywais yn honni, y byddai'n rhaid i Gymru fynd fel Iwerddon a cholli'i hiaith cyn y cyffroid hi i adweithio yn erbyn y golled ac i droi at genedlaetholdeb.

Yn ei angladd clywais rywun yn dweud am grŵp o ffermwyr ifainc a gafodd eu cyfareddu gan ddarlith ar enwau caeau a roesai iddynt yn ddiweddar ac a safodd ar eu traed fel un gŵr i guro dwylo iddo.

yn well na pheriant golchi llestri!"' Clywais bob gair o'r ateb a sgrech Mam yn diasbedain drwy'r tŷ.

Clywais fod un o arlunwyr mwyaf blaenllaw Ethiopia wedi cyfrannu i'r ddefod pan oedd yn bump oed, a chanfÉm, gyda braw, fod offrwm croenwyn yn cael ei ystyried yn arbennig o lwcus.

Fe'i clywais yn dweud, pe gellid lledaenu r gymdeithas honno drwy'r byd, y byddai'r byd i gyd yn well lle i fyw ynddo.

Clywais sŵn adenydd y creaduriaid yn cyffwrdd â'i gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hochr, a sain tymestl fawr.

Clywais lawer o sôn am of Abermagwr, iddo ddyfeisio teclyn i fesur amgylchedd olwyn.

Trwy Mrs Burrell y clywais gyntaf am Sadhu Sundar Singh, a John Roberts agorodd y drws i syniadau Gandhi - er ei fod yn ddigon beirniadol ohonynt.

Clywais am gyfraniad cofiadwy Ieuan Evans, Rhydymain yn portreadu'n effeithiol mewn Rali yn nyddiau cynnar y mudiad pan yr oedd y Rali yn unig faes gweithgareddau o'r natur yma.

Nid yw'n syndod fod plant ar ben heol yn ceisio denu milwyr i gysgu gyda'u chwiorydd - a'u mamau hefyd, fel y clywais.

Clywais son fod swrn o hen gopiau o'r Herald yn Llyfrgell y Brifysgol ym Mangor; os felly, dyna gyfle braf i'n llenorion ifainc.

Chwaer i fy nain i oedd yn briod i Twm Evans, prifathro Ysgol Uwchradd Llanelwy, Pennaeth Coleg y Bala, ac gennyn nhw y clywais i fod yna Gymraeg adeg hynny.

Ond clywais enw Seimon.

Clywais sawl stori am y bechgyn hyn yn cael eu cludo i wersyll enfawr yn y wlad - y mamau'n crio yr ochr draw i weiren bigog wrth i'r bechgyn ddisgwyl am yr awyrennau a fyddai'n eu cludo i faes y gad.

Ta beth, ar y stryd yng Nghaerfyrddin y clywais i lanc ifanc yn dweud gydag anghrediniaeth yn ei lais wrth un arall: Ma fen i wneud e ym mhobman.

Gwelais bob gwedd a lliw ar y Foel Famau a'i thŵr, am rai blynyddoedd ar ol hyn: clywais ambell hwyrnos sŵn dwfn mud o'r tu cefn iddo, y dywedid mai atsain ydoedd o ddrycin pell ar y Werydd.

Yn y seiadau hynny y clywais gryn nifer o sgandalau'r coleg hwn.

Os clywais y gair unwaith, fe'i clywais ganwaith.

Clywais o'n adrodd ei hanes yn dod adref o New York y tro diwethaf hefo llong, y Mauritania, yng nghwmni dyn o Lanfairfechan o'r enw Gruffydd Hughes, tad John a Phoebe.

Roedd yr hen Hugh yn ei ddyddiau cynnar yn eitha' hoff o'i beint, ond clywais Mam yn dweud na fuo hi erioed ar ôl am arian ganddo.

Ar y teledu, adeg ei farw, clywais un beirniad yn ei gymharu ag Euros Bowen!

Clywais leisio c^wyn nad yw'r hysbysebion, y pecynnau gwybodaeth, a'u llythyrau cysylltiol, yn cyfeirio at gymwysterau ieithyddol.

Clywais y straeon mwyaf ffiaidd am y modd gwrthun a bwystfilaidd y ceir cyfathrach rywiol ar y prydiau hyn.

Ond unwaith yn unig y clywais i drafodaeth gan seiciatrydd ar unrhyw fath o chwedl Gymreig neu Geltaidd, a hynny ar chwedl Llyn y Fan Fach.

BYW MEWN DYLED Y mis diwethaf fe addawyd y buasem yn rhoi sylw i gwestiwn arall gan un o ddarllenwyr Tafod Elai y tro hwn, ac fel mae'n digwydd, fe welwch ei fod yn un hynod o amserol a pherthnasol: Annwyl Syr, Clywais fod Cyngor Taf Elai wedi penodi swyddog datblygu Undebau Credyd.

Mewn siop Smiths ddydd Sadwrn clywais un fam yn dweud wrth un arall fod ei phlant hi yn cwyno fod y Potter diweddaraf mor drwm ei fod yn eu blino nhw wrth ddarllen.

Clywais nifer yn holi ar ôl yr angladd, ble'r oedd rhai o wyr mwyaf blaenllaw'r genedl, oherwydd ni roddwyd gwr mwy nag ef yn naear Cymru yn y blynyddoedd diwethaf hyn.

Clywais i fy hun, fwy nag unwaith, bobl yn cyfeirio ato fel 'y dewin Sam Jones.' Ys gwn i a oes arnom ni'r Cymry ryw angen seicolegol dwfn am fod o'r fath yn ein plith.

Clywais hanesyn am hen deulu Trefgraig Plas pan oeddynt yn byw yn y Cwm erioed.

Clywais ddweud, neu darllenais, fod y Llythyr yn cael ei gadw mewn amlen frown yn yr Archif Nationales de France ym Mharis.

Sawl gwaith y clywais i hyn gael un o aelodau staff Cymdeithas yr Iaith (wel, yr unig aelod arall o'r staff a dweud y gwir), cyn i ni fentro i Bentre Ifan ar gyfer y Penwythnos Addysg Wleidyddol ym mis Ionawr.

Mi glywais eich sgwrs gyda'r llyfrgellydd, a'r diddordeb mawr mewn twneli, ac yna ar y ffordd allan mi'ch clywais chi'n san am ryw dwnnel, ac am rywun yn ei ddefnyddio .

Clywais un ymgeisydd aflwyddiannus yn dweud, 'tynnais (codais) hanner fy ngardd i wneud y casgliad hwn, a chael y run o'r gwobreuon yn y diwedd'.

Clywais rai pobl yn cwyno am fod gan Kate Roberts ormod o ddisgrifio dillad a gormod o ddisgrifio prydau bywyd.

Clywais ddweud lawer gwaith, 'Bobl annwyl, fydden ni ddim yn blant drwg fel hyn.

Clywais Mam yn dweud i'r blaenoriaid ofyn i bawb sefyll yn dawel ar eu traed i ddangos parch a galar, ar ôl i'r trên ddod yn ôl y noson honno i Wyddelwern Ond dyma fy nhrên i yn awr yn bwrw ymlaen am Ruthun.