Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clywem

clywem

Clywem yn y pellter sŵn nodau pêr.

Clywem eu sŵn fel haid o wenyn wrth inni sefyll y tu allan i'r drws, a chrynwn gan ofn.

Deuai sain bandiau milwrol yn gyson dros yr awyr, a rhwng hynny clywem areithiau tanbaid, i gyd mae'n siwr yn cyhoeddi rhinweddau y sustem gomiwnyddol, a chanu clodydd y chwyldro mawr a arweiniodd at y fath gyfundrefn lweyrchus.

Clywem sŵn ei draed yn ffwdanu i fyny'r grisiau a thuag atom i'r llofft.

Ond yn sydyn clywem ddolef neu ddwy a sŵn rhywun yn llwybreiddio yn araf a phoenus i fyny'r ffordd at y tŷ.

Daeth cymydog i'r drws ac meddai â'i anadl yn fyr o frysio yma, "Mae dy adwy isaf yn agored cofia ac mae'r defaid oddi yma i Pen Llyn acw ac yn y ffarm arall." Gellwch ddychmygu'r llifeiriant geiriau a ddaeth yn sgîl y sylw, "Pwy sy'n gyfrifol am hyn tybed?" Yn sydyn clywem sŵn traed yn llusgo am y t^y.

Yr holl amser, clywem yr uchel seinyddion yn taranu eu neges a'u cerddoriaeth aflafar.