Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clywir

clywir

Byddai 'storiau Wil Fach-wen' ar fynd yn y chwarel yd wastad, a hyd heddiw clywir rhai o'r hen chwarelwyr yn eu hadrodd a'u hailadrodd ar gongl y stryd neu yn eu cartrefi.

Clywir rhai o'r dosbarth hwn yn ymesgusodi weithiau trwy ddweud eu bod wedi arfer gwneud, ac mai peth anodd yw newid hen arfer.

Ond pan mae'n disgyn i'n rhan ni, y dynion, buan iawn y clywir grwgnach.

Ar yr un llaw, clywir dadlau bod hunanoldeb ar gerdded trwy'r tir, a bod achos ambell streic yn anystyriol o bitw.

Clywir llawer yn cwyno fod bywyd yn broblem, yn enwedig wrth drafod pethau fel dyfodol rygbi rhyngwladol Cymru, tîm criced Lloegr, grantiau ymchwil, etc.

Mae'r Teledu yn mwmian ymlaen yn undonog ac i fyny'r grisiau, yn y cefndir pell clywir curiad trwm cerddoriaeth Gari.) Mam!

Ymysg rhai o'i ddilynwyr parodd hyn ddifri%o ysgolheictod, a rhoi pris nas haeddai ar gyraeddiadau'r werin; clywir eco o hynny heddiw hyd yn oed.

Clywir amdano ym Mhrydain yn y Canol Oesoedd ac yn yr ail ganrif ar bymtheg roedd yn achos marwolaeth i wyth o bob deg o blant dan bum mlwydd oed mewn llawer cymdogaeth.

Clywir anogaeth, er gwaethaf duwch iselder, i ddal ati, i geisio cymorth cyfaill, ac i gofio'n fwy na dim, bod pawb yn brifo weithiau.

Yn ei awdl clywir eto hiraeth yr alltud ystrydebol am yr aelwyd a'i moldiodd.

Wrth deithio trwy Lanfair-pwll, a cheisio darllen enw llawn anhygoel y pentref hwn, clywir llais yn rhuo yn y pellter.

Dro arall, clywir am fanylyn a all roi arwyddocâd arbennig i hanesyn dibwys.

Cynnwys y ddwy (yn arbennig yr ail) ddychan gwawdus ar fywyd cymdeithasol Cymru, ond clywir hefyd sŵn ymysgwyd a gobaith.

Dyma gynefin yr herwr Lewsyn ap Moelyn y clywir llu o chwedlau amdano yn y gymdogaeth.