Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cnewyllyn

cnewyllyn

Mae'r naill a'r llall yn meistroli mecanwaith cnewyllyn yn y meddwl, ac yn dysgu amrywio o'i fewn.

Gwyrdd plaen unlliw yw eu lindys hwy, yr unlliw ynhollol â'r dail a'u cynhaliant ac yn hoff o swatio ar brif wythiennau'r dail ac yn y cnewyllyn gan wledda ar y dail ifanc iraidd sydd yn y fan honno a difetha'r blagur tyfu (growing point) hefyd a thrwy hynny rwystro cynnydd y planhigyn.

Neu'n syml - beth yw cnewyllyn 'gwybodaeth' i bob athro ail iaith proffesiynol?

A hyd yn oed pe bai'r testun yn hŷn nag y gallwn ar hyn o bryd ei brofi, mae'r ffaith nad oedd copi%wyr diweddarach wedi moderneiddio nac addasu'r hanes, drwy gydblethu'r cnewyllyn brodorol ag elfennau o draddodiad arall, yn awgrymu'n gryf yr ystyrid y chwedl Gymraeg am Drystan ac Esyllt fel stori wahanol, mewn rhyw fodd, i hanesion eraill a berthynai i'r un un byd Arthuraidd, a bod y chwedl wedi ci thrin yn wahanol o'r herwydd.

Bydd cnewyllyn o staff sy'n gweithio mewn swyddfeydd yn cael eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf sylfaenol yn ogystal ag Arolygwyr Cynllun a gweithwyr Prosiect a staff eraill sy'n debygol o fod mewn perygl, e.e.

Ond ni ellid, ar ôl ymaflyd yn gadarn ymarferol yn y cnewyllyn hwn, gael unrhyw frawddeg yn y byd Cymraeg nad yw'n cael ei hadeiladu o amrywiad neu gyfuniad o hon.

Mae'n amlwg na chafodd Iolo Morganwg lawer o drafferth i gael cnewyllyn sylweddol o aelodau'r Gwyneddigion i dderbyn ei honiadau di- sail.

Drwy gydol ei gyfnod fel hyfforddwr Cymru, mae Henry wedi cadw at yr un cnewyllyn o chwaraewyr.

Gall yr adar hyn dorri'r plisgyn â'u pig gan fwyta'r cnewyllyn a gadael y plisgyn allanol ar ôl.

Er hynnny, mae cnewyllyn y cyfansoddi ar fesurau caeth o reidrwydd yn ffurfio dolennau cryfion a'r gorffennol.

Yr oedd sgwrs yn mynd yn beth bratiog unsillafog wrth i bawb siarad yng nghlyw ei gilydd a'u llygaid at y gornel, a lle byddai cynulleidfa mewn cyngerdd a drama a darlith, dim ond cnewyllyn o ffyddloniaid oedd yn dal i ddod, a 'lle byddo dau neu dri' yn cael ei ddyfynnu yn amlach ac amlach.

Hynny yw, yr adeiladwaith triol cyflawn fel cnewyllyn dysgu Tafod.

Da oedd bod cnewyllyn o Gymry cadarn a deallus na chydymffurfiai â'r Wladwriaeth Seisnig yn ei gwedd grefyddol, ac a fyddai'n arddel radicaliaeth a ystyriwyd hefyd yn fygythiad i'r drefn.

Y cytundeb canlynol yw cnewyllyn ein strategaeth ar gyfer sicrhau y bydd cyngor annibynnol yn haws ei gael:-

Trwy hollti cnewyllyn atom yr elfen iwraniwm, llwyddodd gwyddonwyr yr ugeinfed ganrif i greu ynni niwcliar.

Yna aed ati i ddewis cnewyllyn o bwyllgor gyda Lady Megan yn Llywydd yr Ymgyrch.