Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

codai

codai

Roedd hi'n amlwg ei fod yn swil iawn a phrin y codai ei lygaid i edrych ar Anna.

Codai Phil y senglen at fwrdd y shêr, cymhwyso'r ochrau a'i rhoddi dan y gwasgwr.

Gofalai Francis felly bod y ffrynt yn tyfu rhyw gymaint bob dydd, ond prin y codai'r cefn o gwbl oherwydd bob bore bron dywedai Francis wrth ei gynorthwywyr, 'Mi ro'wn ni 'frontal attack' arno fo heddiw, John,--waeth befo'r cefn'.

Codai pryder pellach, petai'r broses adnabod anghenion o fewn y cynghorau newydd yn arwain at anwybyddu anghenion neilltuol y disgyblion a'r myfyrwyr sydd yn mynd trwy'r ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg, trwy fod cynrychiolwyr y system honno yn y lleiafrif bob amser wrth ystyried anghenion a blaenoriaethau a'r anghenion cyfrwng Cymraeg yn cael eu gosod yn ddarostyngedig i anghenion y disgyblion a'r myfyrwyr sy'n mynd trwy'r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn bennaf.

Codai'r milwyr eu breichiau yn hapus wrth weld awyrennau o Brydain yn hedfan uwch eu pennau yn Dunkirk.

hynny yw, pe codai anghydfod rhwng gwlad a gwlad yna disgwylid i'r ddwy ohonynt ofyn i rhyw wlad a oedd yn gyfeillgar â'r ddwy ohonynt i'w cymodi a'u hatal rhag mynd i ryfel.

Yn awr ac eilwaith codai awel yn ddisymwth a chwythu llwch i'm llygaid, a rhaid oedd sefyll yn y fan a'r lle rhag of n i bwl sydyn o ddallineb fy nhywys dros y dibyn, gan fod y llwybr cul yn rhedeg yn bur agos ato ar brydiau.

Codai'r erledigaeth hon o'u casineb at rai a frwydrai dros y Gymraeg.

Codai'i drwyn ar y fath anifeiliaid di-fudd.

Codai ei wrychyn yn raddol.

Codai aroglau awr y trai i'w ffroenau a chrychodd ei thrwyn, mewn diflastod.

Erbyn heddiw hawdd credu y buasai'n beth da i Gymru pe bai Napoleon wedi goresgyn Prydain Fawr; ond ar y pryd codai fwy o ofn ar y bobl nag a wnâi'r Caisar neu Hitler y ganrif hon.

Codai cyfog gwag arno o hyd, a bustl ambell waith.

Y tro cyntaf cawsom gopi o agenda'r cwrdd gan gyfaill Gwyddelig o gynghorwr a chael gwybod trwy hynny pa bryd y codai cwestiwn Tryweryn, er mwyn inni gael codi yr un pryd.

O safbwynt ieithyddol, os cynhwysir siaradwyr Occitan yn Ffrainc, Plattdeutsch yn yr Almaen a'r tafodieithoedd Eidaleg, codai y canran i bron pum deg y cant.

Roedd y dref ei hun yn dawel - dim ond ychydig o drigolion i'w gweld er y codai swn bargeinio brwd o'r farchnad y tu allan i waliau'r castell.

Codai ei galon bob cam a gymerai.

Aeth Rhys â hi draw at y pwll tywod ac aros yno gyda hi tra codai hi dwmpathau bach o dywod.

A'r pryd hwnnw y codai ar ei union ac y chwiliai am ei wn, ac er ei bod hi mor dywyll, fe ai ef at ddrws y tŷ, ei luchio'n agored, a saethu'n gib-ddall i'r gwyll hir.

Codai egwyddor 'reserve' yn naturiol allan o astudiaeth y Tractariaid o weithiau'r Tadau Eglwysig, sef cadw'n ôl y gwirionedd mwyaf cysegredig a dirgelion y Ffydd hyd nes y byddai'r 'dysgwyr' yn y Ffydd Gristnogol wedi gorffen eu cwrs o hyfforddiant ac wedi'u dangos eu hunain yn gymwys i'w derbyn.

Codai aeliau'r seneddwyr, lledodd 'Hm-m-m-m' fel gwenyn ganol haf.