Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

coedwig

coedwig

'Roedd tai bychain yng nghanol coedwig bambw ar un ochr, a chaeau tyfu reis (paddy fields) gydag ambell i ychen yn y canol yr ochr arall.

Soniodd amdano'i hun un dydd yn troi oddi ar y llwybr mewn coedwig yn y wlad hon ac am ei draed yn taro ar draws beth feddyliai ef oedd yn golofn anferth wedi'i chuddio yn y dail a'r coed.

Bant â ti, a phaid, da ti, â bod mor ddwl y tro nesa!' 'Diolch, Mr Llew,' meddai Idris yn werthfawrogol, ond cyn iddo gael cyfle i ddweud rhagor, roedd y llew eisoes ar ei ffordd, yn hanner chwerthin rhyngddo ac ef ei hun wrth ddiflannu i berfeddion coedwig gyfagos.

Coed byw oedd y boncyffion mwynau hyn unwaith, mewn coedwig gynhanesol.

Edrychwch ar fap o'r ardal, ac y mae dwy gronfa enfawr yn rhythu'n las arnoch o glytiau gwyrdd Coedwig Alwen.

Yng nghysgod coedwig fawr mae nifer o adeiladau pren wedi eu codi sy'n ymdoddi'n llwyr i gefndir y ddaear o'u cwmpas.

'Doedd dim deunydd cenhadwr ar gyrion coedwig gynoesol afon Mersi yno' i chwaith, 'neno'r tad!

Roedd hi wedi plastro rhyw stwff gwyn anghynnes ar ei chroen cyn mynd i'w gwely ac edrychai ei phen fel coedwig o gyrlars pigog.

Wrth i Lili chwarae mae Tedi'n cael ei lusgo i ffwrdd ar gortyn barcud ac yn glanio mewn coedwig - ac yn mynd ar goll.