Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

coetsmon

coetsmon

Wedi i'r Morfa Maiden angori yn yr harbwr aed â Catherine Edwards, a'r Capten a'i wraig, i Fwlch-y-fedwen i gael lluniaeth ac aros noson neu ddwy, ond fe gymerodd ddeuddydd arall i'r neges gyrraedd Plas Nanhoron a'r wys i Pyrs y Coetsmon fynd cyn belled â Phenmorfa i gyrchu 'i feistres.

'R'on i wedi ryw how feddwl, wedi i mi gyrradd Tu Hwnt i'r Afon, y baswn i'n ca'l cyfla i roi dwr i'r 'ffyla cyn mentro'r allt 'na.' Ond fe wyddai Obadeia, yn rhy dda, am fynych wendid y coetsmon a mentrodd ei atgoffa o hynny.

Atolygwn arnat, serch hynny, i ...' Tagwyd y weddi gynnes cyn iddi gyrraedd ei hanterth gan swn Pyrs, y coetsmon, un heglog ar ei orau, yn darn-lusgo cist ei feistres drwy ffrâm gyfyng y drws allan.

'Neith i gnesu, er 'i fod o fel wermod.' 'Mi gofi'r nawfad gorchymyn, Pyrs?' Ond, hyd yn oed os cofiai'r coetsmon orchymyn yr Hen Destament i beidio â lladrata, ni chaniatâi ei syched iddo ufuddhau iddo.

A gallai'r coetsmon ddynwared Cymraeg chwithig Catherine Edwards i drwch y blewyn.