Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cofiai

cofiai

Er i'w dad gael ei ladd pan oedd Douglas Wardrop yn ddim ond pump oed, cofiai'r morwr yn glir sut yr oedd wedi dweud wrtho lawer gwaith pan oedd pethau'n mynd o chwith: "Dal ati, Doug, dal ati.

Cofiai ymweliad cyntaf Del â'r Neuadd Wen - ei hunig ymweliad fel y digwyddodd.

Tystiolaeth rhai merched a'i cofiai yn eu plentyndod oedd ei fod yn '...' ac ychwanegodd un a oedd yn hyn na'r lleill: '....' Fe ddichon nad oedd Daniel Owen y nofelydd mor ddiniwed ag yr ydym wedi arfer meddwl.

Cofiai Joe gryn drigain o chwareuwyr gwyddbwyll a ddeuai i wylio neu i chwarae wrth naw neu ddeg bwrdd, fore, pnawn a nos yn ystod misoedd y gaeaf.

Cofiai sefyll ar y sylfaen, ugain mlynedd yn ôl, cyn i'r muriau gael eu codi, a cheisio meddwl be oedd yn eu haros yn y tþ newydd hardd.

Trwy drugaredd, cofiai ei gosod ar ben postyn llidiart Tandisgwylfa.

Cofiai hefyd am ddefaid ac þyn yn gorwedd i farw tan berthi'r meysydd a'r pryfed sydd yn ymbesgi ar lygredigaeth y cnawd yn ymgasglu tan y gwlân cyn i'r corff oeri.

Cofiai Vera'n iawn sut y byddai'r newidiadau lleiaf i'w drefn yn gwneud Arthur yn bigog ac yn anodd i fyw gydag ef am ddyddiau.

Cofiai am ei ddirmyg.

Cofiai Myrddin Tomos am ddefaid yn pryfedu; am eu dwyn i fuarth y fferm, eu dal, torri'r gwlân o amgylch y cynrhon a oedd wedi ymgladddu yn y cnawd, eu pigo allan â'r gwellau a rhwbio pridd melyn yn y man pryfedig.

Cofiai'r wynebau hynny'n awr, yn arw ar yr wyneb ond yn cuddio llawer o hynawsedd.

Mor dda hefyd y cofiai ei chyfnither, Anna Maria, merch ei Hewyrth Joseph y ddwy ohonynt ar lawnt fechan Trefeca Isaf yn gorwedd ar eu cefnau i weld y sêr a'r lleuad trwy delesgop rhyfeddol ei hewyrth, wedi eu swyno gan ddirgelwch peiriant a fedrai dynnu'r sêr a'r nef ei hun mor agos atynt.

Cofiai fel ddoe y diwrnod y daeth yntau i'r eil o'r buarth y bore gwlyb hwnnw dros ddeuddeng mlynedd yn ol - y diferynion glaw yn treiglo'n bistyll tros gantel ei gap a'r sach ar ei war yn sopa diferu.

Cofiai Manon yn iawn am y noson pan ddechreuasai Gwyn ladd ar rai o gnhyrchwyr amlyca'r Gorfforaeth.

Dyna sut y cofiai hi erioed.

Cofiai Mrs Parry hefyd Emlyn Evans yn arwain yr opera 'Lily or Killarney' yno.

'Neith i gnesu, er 'i fod o fel wermod.' 'Mi gofi'r nawfad gorchymyn, Pyrs?' Ond, hyd yn oed os cofiai'r coetsmon orchymyn yr Hen Destament i beidio â lladrata, ni chaniatâi ei syched iddo ufuddhau iddo.

Cofiai amdani'n dwyn cyffuriau cysgu i Stuart pan oeddan nhw'n dechrau canlyn.