Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cofiodd

cofiodd

Pan ddaethpwyd i dywydd gwell cofiodd Mr Hughes am olwynion oedd yn y llwyth.

Yna cofiodd Willie i Ellis Gruffudd ddweud nad llond bol o un peth a geid i ginio ond pigiad o'r naill beth ar ol y llall a hynny heb dalu ecstra.

Yr oedd hwn, cofiodd, yn enwog am ei ddireidi a'i ffraethineb, am ei gynganeddion cyflym ar lafar ac yn ei bapur, am ei areithiau ysgubol oddi ar lwyfannau eisteddfodol, am ei ysgrifau eofn, miniog, am ei wybodaeth o'r hen feirdd.

Cofiodd beth oedd.

Rwyt ti'n siwr o lwyddo." Cofiodd yn sydyn hefyd am yr hyn a ddywedodd un capten llong wrtho unwaith pan oedd yn forwr ifanc iawn.

Cofiodd John Gruffydd Jones am ei dad yn ymladd yn Arras.

Cofiodd Mam yn sydyn am y diwrnod y cafodd Hilary, ei ffrind gorau, ei hel adref ar ôl cael ei dal yn chwarae tric ar Metron.

Yna'n sydyn cofiodd eiriau Henri.

Y cwbl sydd raid i ti ei wneud ydy tynnu sylw'r ddau oddi ar eu gwaith am eiliad." Cofiodd Jean Marcel am wynebau gwelw y bobl yn y dorf ychydig oriau ynghynt.

Cofiodd Anna am brotest Cymdeithas yr Iaith.

Ond yn sydyn cofiodd am rywbeth, a throi'n ôl yn ei thracs.

Tric da oedd tric Hilary hefyd, cofiodd Mam.

Cofiodd fod peilat otomatig yn rheoli awyrennau modern ac yr oedd yn sicr fod Abdwl wedi pennu'r cwrs gan adael rheolaeth yr awyren i'r peilat otomatig.

Yna cofiodd pa ddiwrnod oedd hi.

yna cofiodd hi ei bod hi wedi gadael ei bag llaw ar y gadair arall.

Pan oedd o'n mynd heibio i drofa Tŷ Hir cofiodd am y trydan a deimlodd pan gyffyrddodd yn y ffon y tro cyntaf.

Pan agorodd ei lygaid, cofiodd am Stan.

Ond yna cofiodd am rybudd Manon ac ymbwyllodd.

Yna cofiodd am rywbeth arall.

Astudiodd y darlun unwaith eto, ac unwaith eto cofiodd beth oedd y ddau ohonynt yn ei ddweud ac yn ei wneud a sut yr oedden nhw'n teimlo.

Cofiodd am y tro hwnnw yr aeth hi ar goll yn Ffair y Borth.

Cofiodd Francis fel y bu i Siôn Elias gwyno wrtho ryw chwe wythnos cyn hynny fod y mab wedi torri ei wn, a'i fod yn cario llawddryll chwe siambr i'w ganlyn i bobman.

Cofiodd Horton yn sydyn mai Rowland Laugharne oedd wedi derbyn y ddeiseb honno!Fo o bawb!

Cofiodd Pamela fel y bu iddi hi weld a chlywed dau ŵr yn canu emyn ar y strydoedd yn Nhal-y-waun flynyddoedd cyn hynny.

Bryd hynny y cofiodd Idris gyngor Ffantasia na ddylai roi'r afal i neb ddim hyd yn oed iddi hi.

Yna cofiodd, o adnabod ei lais yn fwy na dim .

Ni allai neb ddweud yr adeg honno ei bod yn wraig grefyddol ond wrth aros i'r siop agor cofiodd am gyngor ei mam a gweddi%odd am gymorth i'w dysgu sut i wneud y gwaith.

Cofiodd yn sydyn nad oedd wedi cael ei ginio a dechreuodd y dŵr redeg rhwng ei ddannedd wrth iddo feddwl am sglodion Mam yn frown-felyn ar y plât o'i flaen.

Cofiodd iddi hi glywed ymadroddion fel 'Môr yn berwi' a 'Creigiau'n hollti' gan mai canu am ddydd mawr y farn a wnaent.

Cofiodd am y llongau anferth oedd wedi diflannu heb i neb glywed sôn amdanyn nhw wedyn, am donnau oedd yn uwch na phen uchaf goleudai, am fôr oedd yn medru torri concrit trwchus yn union fel petai'n blisgyn wy.

Cofiodd am bechod gwraig Lot, a chwarddodd.

Cofiodd am yr holl straeon ysbryd a glywsai erioed.

Yn sydyn cofiodd Idris rybudd Ffantasia na ddylai ddweud wrth neb ble'r oedd yn mynd.

Cofiodd, pan yn blentyn, iddo glywed rhyw stori nad oedd erioed wedi'i choelio tan y foment honno.

Rhaid fod si'r peiriannau wedi ei yrru i gysgu oblegid ni chofiai ddim am weddill y daith, ond cofiodd iddo neidio'n sydyn yn ei sedd wrth glywed llais yn ei ymyl.

"Wnawn ni ddim diffodd y golau," meddai wrth y cŵn, "rhag ofn i ni faglu'n y tywyllwch ar y grisiau tu allan." Cofiodd am ei dors, ac agorodd y drws i'r cŵn neidio o'i flaen i lawr grisiau'r feranda.

Ond cofiodd toc fod ganddo job o waith i'w gwneud, a dyma fo'n meddwl chwarae ei gardyn gorau a dweud wnaeth o mewn llais oeraidd: 'Ond fo laddodd Huws Parsli, onide?