Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cofiwch

cofiwch

"Sut mae Owen?" "Reid dda; mi ges lythyr y bore yma, yn licio i le'n iawn." "Da iawn bod rhywun yn hapus." "Ond cofiwch, 'dydi i gyflog yntau ddim hanner digon, a chysidro'r gost sy wedi bod efo fo." "Nag ydi, mae'n siŵr." "Mae o'n talu chweugian yn yr wsnos am lodging ac yn prynu i fwyd i hun." "Gwared y gwirion!" "Ydi, a mae'r criadur bach yn tri%o anfon rhyw 'chydig adre bob mis." "Chwarae teg iddo fo.

Cofiwch am yr holl bobol sy o'ch plaid chi.

'Pedair noson, cofiwch,' meddai Gareth.

Byddwn yn falch o helpu gyda'r rhan fwyaf o ymholiadau, ond cofiwch nad oes modd i ni fod yn wasanaeth cyfieithu na'n ganolfan gwybodaeth am yr iaith ar gyfer myfyrwyr yn gwneud ymchwil, oni bai bod eu hymchwil yn canolbwyntio ar Gymdeithas yr Iaith neu ymgyrchu iaith, wrth gwrs.

Efallai y cofiwch i Rhys Owen a Lleucu Meinir beri difrod i Swydda Bwrdd yr Iaith dros flwyddyn a mwy yn ôl.

Cofiwch Dylech blygu eich penliniau AC NID EICH CEFN cyn codi rhywbeth, fel ' bod cyhyrau'r glun yn cymryd y straen.

Fel llygod, cofiwch,' meddai Iestyn.

Cofiwch, mae'n haws hel a didol defaid ar dir glân fel hyn.

Cyn i chi anfon eich cwestiwn, cofiwch y medrwch chi chwilio am yr ateb yn syth trwy edrych ar gwestiynau gan fyfyrwyr eraill.

Efallai y cofiwch imi grybwyll Jock Gray a oedd gyda mi ar Ynys Banka pan rannodd Swyddog Siapaneaidd baced o fisgedi â ni.

Rhowch blanhigyn ty bychan yn y tywyllwch am bythefnos cofiwch ei ddyfrhau fel na fydd yn marw.

Y peth pwysig yw fod pobl yn cofio pwynt canolog y stori - cofiwch eich bod chwithau'n cadw eich gair!

ond cofiwch, os ydych chi mewn unrhyw berygl fe fydd rhaid ichi gysylltu â fi ar unwaith.

Cofiwch, dydyn ni ddim yn angylion o bell ffordd, ond rydyn ni'n fodlon ac yn barod i drio'n gorau.

Cofiwch, pan ddychwelwn ni i Grenada, fe fydd rhaid inni rannu caban ar y llong.'

Cofiwch chi, fe gafon nhw eu haeddiant.

Ond wedi dweud hynny, cofiwch fod da a drwg ym mhawb a'u bod yn gyflyrau goddrychol iawn ac nad da lle gellir gwell ac nad drwg lle gellir gwaeth.

Ond cofiwch chi, petai rhywun yn mynd ati i gasglu'r holl gyhoeddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid yng Nghymru, fe fyddai ganddo lyfrgell go fawr ymhen dim o amser!

iii) Cofiwch gau un dror cyn agor un arall.

Dêm Fira Lyn, os da y cofiwch, a ganai'n bersain am y glas adar a ehedai dros wyn elltydd Dover pan oedd y Wlad yma mewn dirfawr berygl o gael ei goresgyn gan estroniaid oerwaed o wlad arall ddrwg.

'Wel, os cofiwch chi, mae 'na gerbyd neu fan neu rywbeth tebyg yn danfon y dyn at Lety Plu bob tro.' 'Iawn,' meddai Gareth.

"Cofiwch ddod lan, Edward Ifans," meddai'r pregethwr.

Cofiwch ddod draw i Aberystwyth am y penwythnos i drafod a phenderfynu ar ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith am y flwyddyn i ddod ac i fynychu'r rali yn y prynhawn.

Byddai'n gweiddi, Cofiwch y Saboth, i'w gadw'n sanctaidd," ac ni wariai geiniog ar eillio'i farf ar y Sul.

Nid eu bod yn diystyru'r gwelliannau a ddeuai i fywyd bob dydd eu praidd cofiwch.

A pheidiwch a bod yn ddierth, da chi!' 'Ie, cofiwch nawr - galwch bob tro fyddwch chi'n pasio heibio i'r Llety!

Cofiwch yrru pwt i'r papur.

Cofiwch arwyddo'r ddeiseb dros Ddeddf Iaith Newydd.

Ond cofiwch f'oed.

Cofiwch hefyd am yr iMac yn y cystadleuaeth ysgolion.

Cofiwch ein bod ni dal ymlaen yn y pnawn ar hyn o bryd, a hynny am fis - gobeithio y gallwch chi wrando rhwng 3 a 5 bob pnawn.

"Ydych chi wedi rhoi ystyriaeth i'r cynnig?" "Do, Mr Jenkins." "Mae o'n gynnig arbennig o dda cofiwch, dau gant a deg o filoedd am y tŷ a'r fferm a'r hawliau saethu a physgota.

Cofiwch y dderwen a'r brwyn." Disgynnodd yr hen ŵr o ben y boncyff a cherdded yn araf i fyny'r llethr tua'i gartref.

"Ond 'does yr un ohonyn nhw wedi rhoi'r fath boen i mi â Sioned, cofiwch." "Sut mae hi a'i gŵr, a'r hogyn bach?"

Cofiwch ei diweddaru'n gyson.

Cofiwch am ail raglen 4 Trac ar S4C bnawn Sul yma efo Ian Cottrell yn canolbwyntio ar bedwar grwp arall.

Cofiwch ddarllen y cyfarwyddiadau, a'u dilyn yn ofalus.

Felly wrth fynd ati i baentio arwyddion Give Way gyda'r gair Ildiwch cofiwch fod ei arwyddocâd yn ehangach o lawer nag un gair ar arwydd anghysbell.

Cofiwch gymryd y cam nesa efo'r ddwy ohonyn nhw pan fyddan nhw yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Bae Colwyn yn y dyfodol agos.

Wel, y mae hyn oll yn ddigon gwir ac yn ddigon trist, ond pan ddown at yr Eingl-Gymry, fel y'u gelwir, er mwyn hwylustod yn unig, cofiwch, y mae'r sefyllfa ganwaith gwaeth.

Cofiwch, fydda i ddim yn gwneud hyn ond yn nhywyllwch nos - rhag ofn i'r cymdogion amau mod i'n dechrau drysu!

Os byddai'r adeilad yn wych a phobl bwysig yn byw ynddo pwysig yn ein barn ni cofiwch, nid o reidrwydd yn marn pobl eraill fe fyddem yn canu'r emyn a ganlyn: 'Odlau tyner engyl O'r ffurfafen glir Mwyn furmuron cariad Hidlant dros y tir' hyd ddiwedd y pennill cynta'.

Does dim disgrifiad manwl, cofiwch; mae'n siŵr fod yn rhaid disgwyl am y profiad ei hun i wybod yr hyn fydd o.

Llongyfarchiadau i Caban ar eu halbwm gynta ac os oes gennych chi bunten neu ddwy cofiwch ei phrynu.

Pob hwyl i'r gyfres a cofiwch wylio.

Cofiwch ofyn i'r sawl fydd yn gosod y bachyn tynnu osod Uned Gyfnewid Gwefr (Split Charge Relay) ar gyfer y batri.

Cofiwch wrando ar Gang Bangor, sydd nôl yn y slot arferol bob nos drwyr wythnos.

Cofiwch hefyd am y casgliad hanes lleol sy'n cynnwys llyfrau, darluniau, hen fapiau a hen bapurau newydd ar ficroffilm.

I gael clywed y rhestr i gyd cofiwch am Y Goeden Roc nos Lun am 18.12 ac wedyn b'nawn Sadwrn am 12:30.

Cofiwch eich bod yn wastad yn gofyn caniatad rhywun mewn oed cyn cymryd unrhyw beth o'r gegin.

Awn ni ddim o'ma tan gawn ni ddŵad i mewn, cofiwch.

Cofiwch, efallai mai cael mwy o orsafoedd trydan bychan fel hon yw rhan o'r ateb i broblem cyflenwi ynni rhagor nac ynni niwclear.

Cofiwch am y penwythnos o ddathlu llawen yn Aberystwyth wrth i'w Mawrhydi ymweld â'r dref -- penwythnos Twll Tîn i'r Cwîn, a gynhelir yn y Cwps.

Yn yr un modd, pan fo gallt ar i lawr, newidiwch yn ddigon buan.Cofiwch y byddwch angen llawer iawn rhagor o le wrth basio car arall.

Os cofiwch chi, mi roedd tipyn o strach ynglŷn â'r ffilm wreiddiol (gyda Hywel Bennett yn y brif rhan) oherwydd bod trigolion yr Aber(ystwyth) go iawn yn poeni y byddai twristiaid yn ofni dod i'r dre o'i herwydd.

Cofiwch fod gan y tair carfan yna resymau gwahanol dros alw am ddatganoli grym.

Y Sesiwn: Cofiwch am gyfres o nosweithiau yng Nghlwb Amser / Time ym Mangor bob nos Fercher i hyrwyddo grwpiau newydd.

Cwrs o saith diwrnod, cofiwch.

Oedd llawer teulu arall yn gwneud yr un peth cofiwch, a felly, picnic mawr neu "banquete% gredaf i oedd y peth, gan fod pob math o jams a theisennau a llaeth ffres a hufen tew i'w gael yno.

Cofiwch ein bod ar y radio yn y pnawn ar hyn o bryd, a hynny am fis - gobeithio y gallwch chi wrando rhwng 3 a 5 bob pnawn.

Fel y cofiwch, pan geir deuddeg pwynt, gellir atal trwydded yrru am gyfnod hyd at chwe mis.

Rhew gorau, cofiwch.

Cofiwch, y cyfan sy isio ydi deud y gwir.

Efallai y cofiwch chi fod gen innau hawliau, hawliau fyddai'n llai dymunol ichi na dim ddigwyddodd neithiwr." "Dydi hynna ddim yn deg," meddai hi.

JFelly o ganol Hydref ymlaen byddaf yn rhoi'r gêr plu o'r neilltu ac yn gafael yn y wialen "drotio%, y rîl rydd (centre pin) bocs o fflôts pwrpasol, bocs o bwysau (heb blwm ynddynt cofiwch)...

A'r tro nesaf y teimlwch, wrth ddarllen Kate Roberts, fod tristwch ambell un o'i stori%au byrion yn anghydweddus â'ch tymherau ifainc nwyfus chi, cofiwch fod yr awdures ardderchog hon, pan oedd hi ymhell dros ei phedwarugain oed, hithau yn gallu dweud ar nos Sadwrn ei bod hi'n fed-up.

Doedd e'n golygu dim drwg cofiwch, ond roedd e'n brin o sens, a heb gael ei hyfforddi ym mhen ei ffordd, gallwn i feddwl.

Cofiwch, prif nod gwaith allweddol yw galluogi defnyddwyr y gwasanaeth fel y gallant gael y cyfle i ymgymryd a thasgau gwaith allweddol.

Cofiwch, doeddwn i ddim yn deall ffyrdd pobl y mynydd ar y dechrau.

Cofiwch nad oes yn cynllun yn ddi-fai neu y gellir dweud ei fod yn addas i bawb.

"Cadwch yn glos ar y palmant," meddai Huw, "cofiwch eich bod wedi colli'r arfer o gerdded mewn tre, a thraffig, wedi bod ar yr ynys cyhyd."

Efallai y cofiwch imi grybwyll eisioes am un o'm hymweliadau â siop Dafydd Williams yng Nghaerfyrddin - adeg fy mis mêl.

Cofiwch nad esgus i orfwyta yw bod yn feichiog.

Y drwg yw - Almaenes yw hithe, cofiwch.

Mae gwyddonwyr yn Siapan yn honni fod yfed chydig o alcohol - dim gormod rwan, cofiwch - yn eich gwneud yn fwy galluog.

Cofiwch anfon eich adroddiad at y sefydliad croesawu i gael sa/ l eu bendith cyn ei ddosbarthu.

Un o'r pethau cyntaf a ddenodd fy sylw pan ddechreuais fynd i'r capel oedd y darlun ar y mur yno, sef llun llong hwyliau mewn storm uwchben y geiriau 'Cofiwch y Morwyr'.

"O'r tu draw ei llais sy'n galw Dros y bryniau mawrion, pell: Blant y Wladfa, cofiwch gadw Llygaid ffydd ar "bethau gwell"."

Cofiwch mai dim ond ar wrthrychau sydd wedi eu dewis y bydd gorchmynion yn gweithio.

I gael lawnt da, cofiwch groesdorri ar yn ail.

Cofiwch, 'doedd dim rhaid iddo fe wneud dim, ac roedd pob un yn meddwl y bydde Luned yn rhoi notis iddo fe'n syth ar ol angladd a mynd i whilo am waith yn y dre - fel y merched ifanc erill.

Cynllunio'ch diet eich hun Cofiwch nad yw cyfrif caloriau yn ddigon.

Cofiwch am stori'r dderwen a'r brwyn." Roedd y Groegiaid wrth eu boddau yn clywed stori%au ac yn aml iawn roedd stori%au yn darlunio rhyw agwedd ar fywyd yn cael gwell gwrandawiad na phregethau yr offeiriaid ac areithiau'r gwleidyddion.

Mi gewch ei weld, siwr iawn, er fy mod yn torri'r rheolau cofiwch.

Gofynnwch i Huw fynd â chi i ryw bost of fis ar y ffordd oddi yma." O'r gora, Dad, er rydan ni'n gwneud yn iawn yn y Cwmwd, cofiwch." "Mi wn i hynny, siwr iawn, ond mi fydd Mam o'i cho os na adawn iddi wybod.

Cofiwch eich bod chi'n cael hanner awr ychwanegol o'r Gang bob nos erbyn hyn - o hyn allan byddwn yn darlledu rhwng 10 -12 bob nos o'r wythnos a rhwng 10.30 a 12.30 ar foreau Sadwrn.

Ddim mod i'n cwyno, cofiwch.