Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cofnodi

cofnodi

Y mae'n bwysig cofnodi i'r Gymdeithas gael ei sefydlu gan fod Dawer iawn o aelodau teyrngar Plaid Cymru yn teimlo'r angen am fudiad iaith annibynnol.

(ch)Ceisiadau Newydd Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r ceisiadau canlynol i ddatblygu:- PENDERFYNWYD (ii) Awdurdodi'r Prif Swyddog Cynllunio i benderfynu'r ceisiadau canlynol fel a nodir gyda'r amodau priodol:- Cynghorydd IW Jones am gael cofnodi nad oedd yn dymuno cymryd rhan yn y drafodaeth).

Mae tebygrwydd sylfaenol rhwng y ddwy nofel yn eu defnydd o ffurf y cronicl dogfennol sy'n cofnodi hanes un teulu dros gyfnod hir, yn cyfateb mwy neu lai i flynyddoedd cynnar y ddau awdur.

R'on i'n gwrando ar lais profiad a sylweddoli ar yr un gwynt fod y ffin yn denau a niwlog rhwng cofnodi darlun gwrthrychol o'r erchyllterau a chofnodi darlun oedd wedi'i osod yn ofalus i roi argraff wrthrychol.

Pe buasem wedi bod â'n meddwl yn fwy effro yr adeg hwnnw fe fuasem wedi cofnodi yr hyn a gymerodd le a'r hyn a welsom ac a glywsom, ond y mae peth esgus dros beidio â gwneud, a hwnnw ydyw: yr oeddym yn rhy brysur yn clodfori ac yn canu, a gweddi%o, a rhyfeddu.

asesu, cofnodi a chyflwyno adroddiadau - ei ddefnydd i godi safonau cyrhaeddiad ac i gynllunio gwaith newydd; ei gymedrolrwydd mewnol i sicrhau bod disgyblion yn cael eu gosod yn gywir ar y lefel neu gyfnod yn y Cwricwlwm Cenedlaethol y maent wedi'i gyrraedd; ac i ba raddau y mae system yr ysgol yn cynnig trefn asesu drwyadl, ddibynadwy a pharhaus ar gyfer pob disgybl ym mhob un o Dargedau Cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Teimlaf felly bwysigrwydd cofnodi'r cytiau a'r gweithdai syml yma'.

Gellirt cofnodi cynnyrch llaeth gyda jariau pwrpasol yn y parlwr godro a phwyso gwartheg a defaid gyda chloriannau.

Mae'r enw Cymraeg yn cofnodi fod gan y tegeirian hwn ddwy ddeilen fawr Iydan ger ei fôn, tra bo'r enw Saesneg, 'Greater Butterfly Orchid' yn tynnu sylw at y modd y gorwedda'r petalau gwynion ar led fel adenydd gloyn ar fin hedfan.

Mae'n rhaid, wrth gwrs, cofnodi'r goleuni sy'n cwympo ar ddrych y telesgopau hyn.

Roedd llechen ar wal yr ysbyty yn cofnodi'r hyn a ddigwyddai ar y safle yn nyddiau'r tlodi mawr.

Cofnodi'ch cynnydd Mae'n bwysig profi i chi eich hun eich bod yn gwneud cynnydd.

Defnyddio camerâu electronig Yn y degawd diwethaf mae camerâu electronig wedi disodli platiau ffotograffig fel y ffordd mae seryddion yn cofnodi'u delweddau.

(Os darllenir y llinellau hyn gan rywun, diamau yr ystyrir fi yn ffôl yn cofnodi pethau mor wirion.) Yr oeddwn yn gobeithio yr eisteddasai Dafydd yn hen gadair ddwyfraich Abel; ond ni wnaeth hynny, a chymerodd y gadair yr arferai efe eistedd arni pan oedd Abel yn fyw.

Yn ogystal â chofnodi damwain mae lawn bwysiced bod staff yn cofnodi digwyddiad a fu bron ag achosi damwain neu berygl fel y gall y Gymdeithas ddelio â'r mater a helpu i rwystro aelod arall o'r staff rhag cael niwed.

Bydd y cyfrifon ariannol yn cofnodi'r gwerthiannau o ddydd i ddydd fel y digwyddant.

Mae pwysigrwydd yr agweddau hyn ar waith y pwyllgor yn debyg o gynyddu, ac eleni dechreuwyd cofnodi ar ddata-bâs yr holl ddatblygiadau diweddar a'r rhai sydd ar y gweill.

Mae hen ganolfan seryddol ganol-oesol ddiddorol iawn wedi ei harbed yng nghanol y ddinas, a'r adfeilion wedi eu cofnodi'n fanwl a pharc digon teidi o'u cwmpas.

Y lladron a fyddai'n gyfrifol am lywio barn y gwylwyr yn y pen draw, nid y gohebwyr oedd yn cofnodi'u troseddau.

Rhaid cofnodi pob damwaint yn y Llyfr Damweiniau.

Ni bydd neb yn gallu hel at ei gilydd yr holl atgofion am Waldo y dylid eu cofnodi cyn iddi fynd yn rhy hwyr, ond gobeithio y bydd rhywun llafurgar yn ceisio'i wneud.

Yn absenoldeb technoleg bu'n rhaid defnyddio darnau o bapur er mwyn cofnodi yr hyn a ysgogodd pobl i ymwneud â'r Gymdeithas yn y lle cynta'. Bu'r grwp yma hefyd yn edrych yn ôl ar brotestiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus - a chafwyd ychydig o chwerthin wrth glywed gan Siân Howys am y brotest waetha' a fuodd hi ynddi erioed - dim ond hi ag un dyn bach arall yr y stryd yn yr Wyddgrug.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

Tristwch yw gorfod cofnodi nad oes ond un o aelodau'r tîm yn fyw heddiw, sef Mr Tom E.

Ar ôl cario'n bagiau dros y ffin anweledig o'r naill gar i'r llall, penderfynu gwneud darn i'r camera tra'n eistedd yn y sedd flaen er mwyn cofnodi'r rhwystredigaeth bersonol yr oeddwn i'n ei theimlo ac yn ei synhwyro'n barod mewn eraill.

Dyddiadur tri mis yn cofnodi teimladau'r awdur tra oedd ei dad yn wael.

Yn y flwyddyn y cynhaliodd Cymru Gwpan Rygbir Byd roedd yn briodol y dylai cyfres yn cofnodi hanes cymdeithasol y gêm ddod o Gymru hefyd.

Er, mae'n debyg, yn arferol, mae'r cofnodi i fod yn y ddwy iaith os yw'r siaradwr yn siarad Cymraeg ond yn uniaith Saesneg os yw'r siaradwr yn siarad Saesneg.

Fe gofnodir y dystiolaeth am gyraeddiadau'r myfyrwyr yn y dogfennau Cofnodi Cyrhaeddiad Presenoldeb a Phrydlondeb Y mae ymchwil wedi dangos fod agwedd broffesiynol ar ran y staff, gan gynnwys prydlondeb yn ffactor bwysig yn llwyddiant ac effeithlonrwydd ysgol.

Bellach dyma'r un actor yn cofnodi machlud y diwydiant - ie'r diwylliant ffilm hwnnw.

Dyddiadur tri mis yn cofnodi teimladau'r awdur tra bo'i dad yn wael ac yn marw.

Roedd yna gymhlethdodau ymarferol i'w cyfleu hefyd, cymhlethdodau anochel a oedd yn dorcalonnus i'w cofnodi.

Lle bo hynny'n briodol, dylid cofnodi barn ynghylch ansawdd y gwaith yn y meysydd trawsgwricwlaidd hynny ar y taflenni crynodeb ar bynciau unigol sy'n rhan o Gofnod o Dystiolaeth yr Arolygiad ym mhob arolygiad.

Ar raglen Saesneg am Gymru, byddai'n holl-bwysig cofnodi'r ffaith fod dau gant o bobl yn mynd i golli eu gwaith mewn ffatri ym mhellafoedd Sir Fynwy; dylai golygydd y rhaglen Gymraeg, ar y llaw arall, fod yn ymwybodol y byddai llawer mwy o arwyddocâd i ddifianiad hanner cant o swyddi yn Nyffryn Ogwen neu Rydaman.

Yn y flwyddyn y cynhaliodd Cymru Gwpan Rygbi'r Byd roedd yn briodol y dylai cyfres yn cofnodi hanes cymdeithasol y gêm ddod o Gymru hefyd.

Cefais innau'r gwaith o ddidoli a threfnu'r miloedd o ohebiaethau, taflenni, posteri a ffotograffau sy'n cofnodi eu cyfraniad unigryw i'r Mudiad Heddwch a'r Blaid Lafur Gymreig.

Yr oedd yn gwmniwr diddan a byddai'n dda gennyf pe bawn wedi cofnodi llawer o'r pethau diddorol, ac yn wir hanesyddol bwysig a adroddai wrthyf am y teulu ac am fy hen ardal.

Bron nad oes angen cofnodi i Phil drosi'r gais, gan iddo lwyddo saith gwaith gyda saith cic y prynhawn hwnnw.

Fodd bynnag, yn anffodus, yn y cyfarfod hwnnw yng Nghaerfyrddin, doedd y gwasanaeth cyfieithu ddim yn gweithio am gyfnod oherwydd nam technegol yng nghyflenwad y trydan, ac mae'r Hansard sy'n cofnodi'r cyfarfod hwnnw yn rhoi'r cyfieithiad Saesneg yn unig, nid y gwreiddiol Cymraeg.