Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

coginio

coginio

Dim problem--swper hyfryd iawn, a chofio troi'r botwm ar y wal ar ôl gorffen y coginio.

Gorsaf y rheilffordd yn anhygoel, hyd yn oed ar ol gweld ffilm 'Ghandi' - yn orlawn mewn modd na ellir ei ddychmygu heb ei weld, yn swnllyd, yn fyglyd, nid yn unig gan stem ond gan fwg y gwahanol stondinau sy'n coginio ar y platfform.

Wyddech chwi mai ymgais rhywun i gyfieithu trifle yw, er nas gwelais erioed mewn print, treiffl yw ymgais dila y llyfryn Terman Coginio, Ysgol Addysg Prifysgol Cymru, a 'melusfwyd cymysg' yn Y Geiriadur Mawr.

I'w coginio'n gynt a chadw mwy fyth o'r maeth gellir torri'r betys amrwd yn stribedi mân, eu rhoi mewn sosban gyda'r mymryn lleiaf o ddŵr a llond llwy fwrdd o olew'r olewydden neu flodyn yr haul.

Yn wir defnyddir y planhigyn yn helaeth yno Yn yr haf mae modd defnyddio'r dail gwyrdd mewn salad neu wedi eu coginio Ac yn y gaeaf ar ôl tyfu'r chicons gellir coginio'r gwraidd fel y gwneir yn gyffredinol yn Ffrainc.

Dileodd y rhain lawer iawn o ddiflastod beunyddiol y gorchwylion cyffredin - golchi, glanhau, gwresogi, smwddio, coginio, cadw bwyd, ac i mi eillio, oedd yn gas beth gen i a fy nhad, gyda'r asarn hen ffasiwn.

Roedd ei mam yn coginio pan gyrhaeddom.

Wrth i'r gwragedd fynd i mewn i'r pebyll, maen nhw'n rhoi cangen yr un ar y llawr - er mwyn cadw'r tân coginio yn y canol ynghynn.

Yn Saesneg cyhoeddwn lyfrau hwyliog sy'n dysgu Cymraeg, llyfrau coginio, llyfrau i ymwelwyr a rhai gwleidyddol, diddorol.

Mae'n amlwg fod yn well gan bobl eu cael mewn blychau plastig, wedi eu coginio a'u trochi mewn finegr ar gyfer eu tafellu i addurno salad.

Llawn hwylusach yw eu coginio yn y popty microdon.

Mi wellodd ei thymer ddim ar ôl glanio pan fu raid mynd am fwyd i dŷ bach cyntefig ac amheus ei lanweithdra a bodloni ar datws drwy'u crwyn a oedd, yn ôl Dilys, heb eu golchi'n iawn cyn eu coginio.

Cemeg coginio.

Yn y tŷ rhaid oedd pobi bara, gwneud caws a menyn, coginio'r prydau bwyd, nyddu a gwau, golchi a thrwsio dillad yn ogystal â gofalu am y plant.

Mae hyn yn arwain at drychineb coginio - cwstard a lympiau ynddo.

Bwyta, darllen, coginio, bod yng nghwmni ffrindia da.

I gael glo i'r tanau yn eu cartrefi - ac ni ellid coginio heb y rheina - yr oedd yn rhaid cloddio yn y tipiau glo a amharai ar harddwch y cwm, ac wrth gwrs yr oedd yn rhaid cludo sacheidiau adref - ar ysgwyddau'r cloddwyr neu ar ryw gerbyd olwynion, gwagen fach neu goets baban.

Bob bore roedden nhw i gyd yn brysur yn y tŷ, yn glanhau ac yn coginio, yn golchi ac yn smwddio.

Rhoddwyd gwedd newydd ar ddiddordeb poblogaidd arall - coginio - gyda Angela Gray's Hot Stuff, wrth i Angela Gray deithio o amgylch Cymru yn chwilio am y cynhwysion a'r cogyddion gorau.