Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

coirib

coirib

Y bore wedyn roedd Merêd yn awyddus i fynd i grwydro naill ai ar hyd yr arfordir i gyfeiriad An Spideal neu i fyny'r dyffryn i gyrion Loch Coirib er mwyn cael mwynhau'r golygfeydd a'r tawelwch digymar; ond mynnodd Dilys gysgu ymlaen ar ôl cyfeddach y noson cynt.

Pan ddaethpwyd at bont dros yr afon Coirib fe gyfareddwyd Merêd gan y cannoedd o eogiaid yn ystwyrian yn ddioglyd ar wely'r afon a mynnodd aros yno i'w gwylio.